The interface between policy and academic research can be complex and difficult to navigate. You want your research to shape Welsh policy and discourse, but maybe you’re not sure where to start.
This session will:
· Explain the Welsh policy landscape, and how the different parts work together;
· Show you why you should be engaging with the Senedd, including successful examples of engagement and its impact;
· Help you negotiate the two worlds, and understand the opportunities to engage;
· Offer practical tips on how to get your research heard;
· Demonstrate how your research skills can be transferable to other contexts.
Dr Sarah Morse is an ESRC-funded Knowledge Exchange Manager in Senedd Cymru / Welsh Parliament, employed by Swansea University. She works with researchers from Wales and beyond to broaden, deepen, and diversify the evidence that’s used to inform democratic debate in the Senedd. She also works to improve understanding within the research community of how the Senedd works and how to engage effectively. Prior to joining the Senedd in February 2024, Sarah worked for many years in policy and public affairs.
Gall y rhyngwyneb rhwng polisi ac ymchwil academaidd fod yn gymhleth a gall fod yn anodd mynd i’r afael ag ef. Rydych chi am i'ch ymchwil lywio polisi a disgwrs yng Nghymru, ond efallai nad ydych chi'n siŵr ble i ddechrau.
Bydd y sesiwn hon yn:
· Esbonio tirwedd polisi Cymru, a sut mae'r gwahanol rannau'n gweithio gyda'i gilydd;
· Dangos i chi pam y dylech fod yn ymgysylltu â'r Senedd, gan gynnwys enghreifftiau llwyddiannus o ymgysylltu a'i effaith;
· Eich helpu i ymdrin â'r ddau fyd, a deall y cyfleoedd i ymgysylltu;
· Cynnig awgrymiadau ymarferol ar sut i sicrhau bod eich ymchwil yn cael ei chlywed;
· Dangos sut gellir trosglwyddo eich sgiliau ymchwil i gyd-destunau eraill.
Mae Dr Sarah Morse yn Rheolwr Cyfnewid Gwybodaeth a ariennir gan yr ESRC yn Senedd Cymru, a chaiff ei chyflogi gan Brifysgol Abertawe. Mae hi'n gweithio gydag ymchwilwyr o Gymru a'r tu hwnt i ehangu, dyfnhau ac amrywio'r dystiolaeth a ddefnyddir i lywio trafodaeth ddemocrataidd yn y Senedd. Mae hi hefyd yn gweithio i wella dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil o sut mae'r Senedd yn gweithio a sut i ymgysylltu'n effeithiol. Cyn ymuno â'r Senedd ym mis Chwefror 2024, bu Sarah yn gweithio am sawl blwyddyn ym myd polisi a materion cyhoeddus.