Global health: the best of times, the worst of times
Event Information
About this Event
Iechyd byd-eang: yr amseroedd gorau, yr amseroedd gwaethaf:
Sut mae mynd i'r afael â’r paradocs o ran cynnydd ym maes iechyd a chydraddoldeb byd-eang?
Gan yr Athro David Pencheon
Mae Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru Affrica yn cynnal Darlith Flynyddol ar bwnc sydd o ddiddordeb i'r rheini sy'n ymwneud â gweithgareddau iechyd byd-eang yng Nghymru. Eleni, rydym wedi bod yn ffodus iawn o fod wedi cael yr Athro David Pencheon, sylfaenydd a Chyfarwyddwr yr Uned Datblygu Cynaliadwy ar gyfer GIG Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr rhwng 2007 a 2018 (gweler yr wybodaeth berthnasol arall isod), i arwain y ddarlith.
Bydd y digwyddiad yn cael ei chynnal ar-lein, gyda darlith, ymatebion a chynulleidfa Holi ac Ateb
Nod y ddigwyddiad
Ein nod yw ysgogi myfyrio a gweithredu ymysg staff y GIG, ar bob lefel, i weld sut y gallant gyfrannu. Gallai hyn fod drwy wneud eu gwaith bob dydd eu hunain yn wahanol, neu drwy wneud rhywbeth ychwanegol. Rydym eisiau i bobl archwilio'r dulliau cyffredin o weithio ym maes iechyd byd-eang a'r agenda cynaliadwyedd. Rydym eisiau archwilio sut y gall pawb ar bob lefel fod yn arweinwyr dros newid
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cael sylw mawr yn y cymunedau iechyd byd-eang, ac yn cael ei hedmygu gan wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Rydym yn aml yn tynnu sylw at y Nod Cyfrifoldeb Byd-eang. Rydym eisiau archwilio sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar fomentwm y Ddeddf o ran datblygu’r rhyngwladoldeb blaengar mae'r mudiad cysylltiadau Iechyd yn rhan ohono.
Yr Athro David Pencheon
Yr Athro Pencheon yw sylfaenydd yr Uned Datblygu Cynaliadwy ar gyfer GIG Lloegr ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a sefydlwyd yn 2007. Gadawodd yr Uned Datblygu Cynaliadwy ar 1 Ionawr 2018, ac mae bellach yn Athro Anrhydeddus ac yn Gydymaith yn yr Ysgol Feddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Caerwysg, y Deyrnas Unedig. Ei brif ddiddordebau a'i feysydd ymchwil a chyhoeddi yw: iechyd y cyhoedd a phlanedol, newid yn yr hinsawdd, a datblygu cynaliadwy; newid ar raddfa fawr; datblygu strategaeth; a datblygiad personol, proffesiynol, sefydliadol a chymdeithasol – yn enwedig drwy symud cymdeithas ymlaen heb garbon ond mewn ffyrdd teg i bawb.
Ei faes ymchwil presennol yw sut rydym yn gweithredu’n ymarferol ac yn radical o ran creu'r amodau sydd fwyaf tebygol o hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ar gyfer bywyd sy'n hyrwyddo systemau planedol.
Dyfarnwyd OBE iddo yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2012 am wasanaethau i iechyd y cyhoedd ac i'r GIG ac yn 2020, dyfarnwyd Gwobr Cyfraniad eithriadol i iechyd – Gwobrau BMJ.
Sefydlwyd yr Uned Datblygu Cynaliadwy i ddatblygu sefydliadau, pobl, offer a pholisi i helpu'r GIG (a'i bartneriaid ar draws y system iechyd a gofal yn Lloegr) i gyflawni eu potensial fel sefydliadau cynaliadwy a charbon isel blaenllaw. Mae'r uned yn llunio polisïau, yn gwneud gwaith ymchwil, ac yn lledaenu'r arfer sydd wedi’i werthuso orau ar ddatblygu cynaliadwy. Mae'n hyrwyddo ymateb sy'n seiliedig ar systemau i gyfleoedd datblygu cynaliadwy a heriau newid yn yr hinsawdd, ac yn ysgogi pobl a sefydliadau ac arweinwyr mudiadau cymdeithasol ar bob lefel. Mae'n ceisio defnyddio'r dystiolaeth a'r arfer gorau posibl o bob rhan o'r byd i sicrhau bod systemau iechyd yn buddsoddi'n briodol mewn amddiffyn, gwella, atal a gofalu am genedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Nod gwaith yr uned yw sicrhau bod yr holl fanteision posibl o ran iechyd a chyfiawnder cymdeithasol yn cael eu gwireddu a'u halinio: yn amgylcheddol, yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd.)
Yn ddiweddar, rhoddodd yr Athro Pencheon sgwrs yng nghynhadledd Dinasyddiaeth Fyd-eang GIG yr Alban, y gellir ei gweld yma, sy'n ymdrin â themâu tebyg. Mae'n sôn am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol Llywodraeth Cymru yn y sgwrs.
Agenda
16:00 Croeso a Chyflwyniad: Dr Tony Jewell, cyn Gadeirydd WAHLN a chyn Brif Swyddog Meddygol Cymru
16:10 Darlith: Rôl gweithwyr iechyd ac iechyd planedol
Pam fod cymaint ohonom yn gweithio mor galed i adeiladu byd dydyn ni ddim eisiau byw ynddo? Pam ydym yn ymddangos fel bod ein pennau yn y tywod ynghylch y camau sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau a chyfleoedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol enfawr sy'n wynebu iechyd planedol? Beth yw rolau a chyfrifoldebau gweithwyr iechyd proffesiynol a systemau iechyd o ran sicrhau iechyd a thegwch planedol?
Fel gweithwyr iechyd, rydym yn gweld ein hunain yn ymrwymedig i leihau niwed, ond a yw hynny'n ddigon? Beth yw rolau gweithwyr iechyd a systemau iechyd o ran creu dyfodol y gallwn ymfalchïo ynddo? Beth fydd cenedlaethau'r dyfodol yn ei feddwl o'r hyn rydym yn ei wneud nawr?
Mae Cymru wedi gosod dyletswydd o gyfrifoldeb byd-eang yn ei Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol arloesol, ond a allem fod yn fwy uchelgeisiol o ran gweithredu beth mae'r Ddeddf hon yn ei golygu yng Nghymru ac ar draws y byd.
Rydym yn wlad fechan, glyfar, a bydd y ddarlith hon yn archwilio rôl arweinyddiaeth ar bob lefel, a sut y gall y GIG gyfrannu go iawn at sicrhau planed deg a chynaliadwy
17:00 Ymateb: Dr Chris Jones, Cadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru
17:15 Ar agor i dderbyn cwestiynau gan y gynulleidfa (drwy’r bocs ‘chat’ yn zoom, wedi’i gymedroli gan staff)
17:45 Sylwadau cau: Jane Hutt MS, Dirprwy Brif Weinidog
18:00 Diwedd
The Wales Africa Health Links Network holds an Annual Lecture on a topic of interest to those engaged in global health activity in Wales. This year, we have been very fortunate to have secured Prof. David Pencheon, who is the founder-director of the Sustainable Development Unit for NHS England and Public Health England between 2007 and 2018.
The event will be online, with a lecture, responses and an audience Q&A.
Aim of the event
We are aiming to stimulate reflection and action among NHS staff, at every level, to see how they can contribute. This may be in doing their own day job differently or in doing something extra. We want people to explore the common approaches to working in global health and the sustainability agenda. We want to explore how everyone at every level can be leaders for change.
The Well Being of Future Generations Act has really been noticed in the global health communities of practice and admired by other UK nations. The 'Global Responsibility Goal' is often highlighted. We wish to explore how we can make the most of the momentum from the Act in taking forward the progressive internationalism that the health links movement is a part of.
Professor David Pencheon
Prof Pencheon is the founder-director of the Sustainable Development Unit (SDU) for NHS England and Public Health England, established in 2007. He left the SDU in January 2018 and is now an Honorary Professor and an Associate at the Medical and Health School at the University of Exeter, England. His main interests and areas of research and publication are:
- Public and planetary health
- Climate change and sustainable development
- Large scale change
- Strategy development
- Personal, professional, organisational and societal development – especially through an equitable post-carbon transition.
Professor Pencheon's current area of research is how we get practical and radical on creating the conditions most likely to promote environmental, social and economic sustainability for life-promoting planetary systems.
He was awarded the OBE in the 2012 for services to public health and to the NHS, and in 2020 was awarded the BMJ Awards: Outstanding contribution to health.
The SDU was established to develop organisations, people, tools, and policy to help the NHS (and its partners across the health and care system in England) fulfil their potential as leading sustainable and low carbon organisations. The unit shapes policy conducts research and disseminates the best evaluated practice on sustainable development. It promotes a systems-based response to the opportunities of sustainable development and the challenges of climate change, and mobilises people and organisations, activating leaders and social movements at every level. It seeks to use the best possible evidence and practice from across the world to ensure that health systems invest appropriately in protection, improvement, prevention and care for current and future generations. The work of the unit aims to ensure that all possible health and social justice benefits are realised and aligned: environmentally, socially, culturally, and economically.)
Prof Pencheon recently gave a talk at the NHS Scotland Global Citizenship conference, which covered similar themes. He talks about the pioneering Welsh Government WBFG Act in this talk.
Agenda
16:00 Welcome and Introduction: Dr Tony Jewell, past Chair of WAHLN and ex-CMO Wales
16:10 Lecture: The role of health workers and planetary health
Why are so many of us working so hard building a world we don’t want to live in? Why do we appear to have our heads in the sand about the actions needed to address the huge social, economic and environmental challenges and opportunities facing planetary health? What are the roles and responsibilities of health professionals and health systems in securing planetary health and fairness?
As health workers, we see ourselves being committed to minimising harm, but is that enough? What are the roles of health workers and health systems in creating a future we can be proud of? What will future generations think of what we are doing now?
Wales has set out a duty of global responsibility in its pioneering Well Being of Future Generations Act, but could we be more ambitious in implementing what this Act means both in Wales and around the world.
We are a small clever country, and this lecture will explore the role of leadership at every level, and how the NHS can truly contribute to a fair and sustainable planet
17:00 Response: Dr Chris Jones, Chair of Health Education and Improvement Wales
17:15 Open to questions from the audience (via written chat function, moderated by staff
17:45 Closing remarks: Jane Hutt AM/ MS, Deputy First Minister
18:00 Close