Gofalu am eich Criw a Chyfranogwyr/Looking after your crew and Contributors
Date and time
Location
Online event
Refund policy
Contact the organiser to request a refund.
Eventbrite's fee is nonrefundable.
Gofalu am eich Cydweithwyr / Looking after your Colleagues
About this event
**Mae gweithgareddau CULT Cymru ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru**
**CULT Cymru courses are only available to those living in Wales**
Iaith y sesiwn: Saesneg / Language of session: English
Pris Masnachol/Commercial Price : £60
**Mae'r cwrs hwn am ddim dim ond eich bod yn talu blaendal o £10. Byddwch yn derbyn ad-daliad unwaith i chi fynychu y cwrs**
**This course if for free only that you pay a deposit of £10. You will receive a refund once you have attended the course**
Welsh language text - Scroll down for English
Gofalu am eich Criw a Chyfranogwyr
Cwrs ar gyfer pwy?
Mae'r sesiwn hon ar gyfer gweithwyr yn Ffilm a Theledu, Theatr a Digwyddiadau Byw sy'n dymuno deall y dulliau ymarferol a moesegol y gallant eu cymryd i ddiogelu eu criw a'u cyfranwyr. Gall y sesiwn hon apelio'n arbennig at weithwyr sy'n dod i gysylltiad â chriw neu gyfranwyr sy'n agored i niwed am eu bod yn gweithio gyda chynnwys sensitif neu themâu trawmatig (h.y. iechyd meddwl, profedigaeth trawma ac ati)
Nod
Yn y sesiwn hon byddwn yn ymdrin ag offer a gwybodaeth ymarferol mewn perthynas â phynciau fel dyletswydd gofal, cyfrinachedd, fframweithiau diogelu a chyfeirio ymholiadau. Yn ogystal, bydd pwyslais ar y sgiliau sydd eu hangen i lywio sgyrsiau diogelu a chynnal ffiniau iach.
Canlyniadau Dysgu
Ar ddiwedd y gweithdy hwn, dylai cyfranogwyr ddod i ffwrdd yn teimlo'n dawel eu meddwl am y ffyrdd strwythuredig y gallant fynd at, llywio a chyfeirio criw a chyfranwyr sy'n agored i niwed orau.
• Gwybodaeth am fframwaith diogelu
• Ffyrdd clir o gymhwyso'r fframwaith
• Sgiliau cyfeirio
• Sylfeini dyletswydd gofal a chyfrinachedd
• Technegau i lywio sgyrsiau diogelu
___________________________________________________________________________
Looking after your Crew and Contributors
For Who?
This session is for workers in Film, TV, Theatre and Events who wish to understand the practical and ethical approaches they can take to safeguard their crew and contributors. This session may appeal particularly to workers who come into contact with vulnerable crew or contributors because they work with sensitive content or traumatic themes (i.e., mental health, trauma bereavement etc)
Aims
In this session we will cover practical tools and knowledge in relation to topics like duty of care, confidentiality, safeguarding frameworks and signposting. Additionally there will be an emphasis on the skills required to navigate safeguarding conversations and maintain healthy boundaries.
Learning Outcomes
At the end of this workshop participants should come away feeling reassured about the structured ways in which they can approach, navigate and best signpost vulnerable crew and contributors.
• Knowledge of a safeguarding framework
• Clear ways to apply the framework
• Signposting skills
• Foundations of duty of care and confidentiality
• Tools to navigate safeguarding conversations
Tiwtor - Michelle White
Mae Michelle yn seicolegydd cymhwysol sy'n arbenigo mewn seicoleg gadarnhaol a seicoleg hyfforddi (MSc MAPPCP). Mae hi'n angerddol am ddatblygu dulliau ystyrlon a gwydn sy'n angori newid a thwf cadarnhaol a chynaliadwy. Yn sail i'w gwaith mae diddordeb mewn datblygu hyblygrwydd seicolegol. Mewn byd mwyfwy heriol a chymhleth mae'r gallu i symud, dysgu a thyfu drwy ein hemosiynau - sy'n aml yn rhai dyrys - yn sgil hollbwysig.
Mae ei chleientiaid presennol yn cynnwys Google, BAFTA, BFI, Teach First, Neo Leaders, Schneider Electric, ac Ysgol Fusnes Insead, ac mae hi'n eistedd ar weithgor BAFTA/BFI sy'n argymell egwyddorion gwrth-fwlio o fewn y diwydiannau sgrin.
Mae Michelle yn gyd sylfaenydd 6 Ft From the Spotlight. Ar hyn o bryd mae 6 FT From yn gweithio gyda CULT Cymru a chyrff y diwydiant sgrin ar gynllun peilot "Hwylusydd Lles Cymru" sy'n cynnwys gosod Hwyluswyr Lles ar gynyrchiadau yng Nghymru. Ein nod yw galluogi newid diwylliannol o fewn y sector creadigol a'n bwriad yw datblygu rhywbeth tebyg yn y celfyddydau a digwyddiadau cyn bo hir.
Tutor - Michelle White
Michelle is an applied psychologist, specialising in Positive Psychology and Coaching Psychology (MSc MAPPCP). She is passionate about the development of the meaningful and resilient approaches which anchor positive and sustainable change and growth. Underpinning her work is an interest in the development of psychological flexibility. In an increasingly demanding and complex world the ability to move, learn and grow through our often-tumultuous emotions is a crucial skill.
Current clients include Google, BAFTA, BFI, Teach First, Neo Leaders, Schneider Electric, and Insead Business School and she sits on the BAFTA/BFI working group advocating anti-bullying principles within the screen industries.
Michelle is also a Co-Founder of 6FT From the Spotlight. 6 FT from the Spotlight is currently working with CULT Cymru and screen industry bodies on a “Wellbeing Facilitator Cymru” pilot that involves placing Well Being Facilitators on productions in Wales. Our aim is to enable cultural change within the creative sector and our intention is to develop something similar in the arts and events shortly.
CULT CYMRU
Mae gweithdai CULT Cymru yn cael eu darparu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion yn ystod y dydd.
CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.
Diogelu Data
Ariennir Hyfforddiant Sector BECTU yng Nghymru yn rhannol gan Gronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru trwy brosiect yr undebau creadigol ar y cyd CULT Cymru. Pan fyddwch chi’n cofrestru ar gyfer y cwrs neu ddigwyddiad hyfforddiant hwn, rydych chi'n cytuno i rannu eich data personol gyda'r arianwyr fel rhan o delerau BECTU ar gyfer derbyn y cyllid. Defnyddir y data er mwyn dangos canlyniadau ac allbynnau yn unig ac fe'i cedwir yn ddiogel am gyfnod o 10 mlynedd, fel y nodir yn y cytundebau ar gyfer y cyllid.
Yn ogystal, mae Prospect/BECTU yn defnyddio’r data hwn i ddanfon gwybodaeth am ddigwyddiadau a hyfforddiant BECTU/CULT Cymru yn y dyfodol; eich diweddaru chi gyda newyddion, adnoddau a chyhoeddiadau ac i gysylltu gyda chi ar gyfer unrhyw ymchwil fyddwn ni am gynnal i’r diwydiant. Ni fyddwn yn rhannu neu ddefnyddio eich data heb eich caniatâd chi. Os gwelwch yn dda, arddangoswch eich bod chi’n hapus i BECTU/CULT Cymru gysylltu gyda chi yn y moddau yma trwy ticio ‘ie’ yn yr adran ‘Eich gwybodaeth chi' ar ddiwedd y ffurflen archebu.
Sut i gwyno neu wyrdynnu’ch caniatâd
Os nad ydych chi am dderbyn gohebiaeth bellach gan BECTU/CULT Cymru gallwch dynnu eich enw yn ôl trwy gysylltu gyda siwan@bectu.org.uk
Pe baech ag unrhyw gwestiynau neu bryderon am y data rydym ni yn cadw a sut yr ydym yn ei ddefnyddio, os gwelwch yn dda yn y man cyntaf cysylltwch gydag Adran Hyfforddiant BECTU/CULT Cymru. Fodd bynnag, os ydych yn dymuno cwyno am ddefnydd neu gasglu eich manylion gan yr Adran Hyfforddiant ei hun yna gallwch wneud hynny trwy ebostio’r Swyddog Cydymffurfiaeth Diogelu Data Tracey Hunt ar datacompliance@prospect.org.uk
Data Protection
Prospect's BECTU Sector Training in Wales is partly funded by the Welsh Government’s Wales Union Learning Fund via the joint-union CULT Cymru project. By registering for this training course or event, you are accepting that your personal data will be shared with the funder as part of BECTU’s requirements to receive the funding. The data is used only to show outcomes and outputs and is securely maintained for a period of 10 years, as stated in contracts for the funding.
In addition, Prospect/BECTU uses this data to send you information about future BECTU/CULT Cymru events and training courses, update you on news, resources and publications and contact you for any future research we may conduct into the industry. We will never use or share your data without your permission. Please indicate that you are happy for BECTU/CULT Cymru to contact you in this way by ticking yes under 'Your information' at the end of the booking form.
How to withdraw your consent or make a complaint
If you no longer wish to receive communications from BECTU/CULT Cymru you can withdraw your consent by contacting the siwan@bectu.org.uk
If you have any questions or concerns about the data we hold and how we use it, please contact the BECTU/CULT Cymru Training Department in the first instance. However, if you wish to make a complaint about the Training Department's collection or use of your data, you are able to do so by contacting the GDPR Compliance Officer Tracey Hunt on datacompliance@prospect.org.uk
Polisi Canslo ac Ad-daliadau:
Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.
Cancellation and Refunds Policy
A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.