Byddwch yn derbyn rhaglen ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad er mwyn i chi allu cynllunio eich noson ac ymgyfarwyddo â’r cynllun campws.
Dewch i’r noson agored hon i ddysgu rhagor am gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol yn y meysydd canlynol:
🏗️ Amgylchedd Adeiledig
💼 Busnes a Chyfrifeg
🎨 Celf, Dylunio a’r Cyfryngau
🚗 Cerbydau Modur
🎵 Cerddoriaeth, y Cyfryngau a Pherfformio
💻 Cyfrifiadura a Thechnoleg
⚽ Chwaraeon
🚨 Gwasanaethau Cyhoeddus ac Amddiffynnol
❤️🩹 Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant
🔬 Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol
🔧 Peirianneg
📖 Y Dyniaethau ac Ieithoedd.
👉 Archwiliwch ein cyrsiau i ymadawyr ysgol
Yn ein noson agored gallwch:
✅ Ddysgu rhagor am gwrs a’i lwybrau gyrfa posibl gan ein tiwtoriaid arbenigol a gofyn cwestiynau iddynt
✅ Mynd ar daith o gwmpas y campysau a gweld ein cyfleusterau modern
✅ Archwilio bywyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gan gynnwys ein gwasanaethau cymorth dysgu a myfyrwyr, rhaglen Anrhydeddau CGA a llawer mwy!
✅ Dysgu rhagor am gymorth ariannol a gweld a allech fod yn gymwys i gael cymorth gyda’ch cyllid wrth astudio, yn ogystal â gwybodaeth teithio
✅ Gwneud cais am gwrs yno!
Mynediad
Os oes gennych ofynion o ran cyrraedd y campws, cysylltwch â ni. Byddwn yn gweithio gyda chi i wneud popeth o fewn ein gallu i’ch cefnogi chi wrth ymweld â’n campysau.
Cysylltu
Ebost: marketing@gcs.ac.uk