Gweithdy Artistiaid/Athrawon MAT Artists/Teachers Workshop - Llangefni
Event Information
Description
*** Bilingual information - Scroll down for English***
Gweithio ‘ar flaen y gad’ – Dosbarth Meistr gyda Dr. Maria Hayes
Gan ddefnyddio profiad Maria fel artist ac addysgwr, bydd hi’n trafod ac yn dangos a thrafod y marc mynegiannol. Mae'r dosbarth meistr hwn yn cynnig cyfle i gymeryd rhan mewn ymarferion, gan ddefnyddio y ffurf, sydd yn caniatáu i gynnwys y cyfranogwr ymddangos yn ystod y broses greadigol. Bydd Maria'n trafod y theori sydd wedi deillio o'i phrofiad o gynnal arferion cyfranogol, a thrafod sut mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr dawnus a thalentog. Beth mae'n ei olygu i fod yn gweithio ar flaen y gad? A sut allwn ni amserlennu'r broses greadigol?
-
Darlunio gyda llinell a thôn
-
Theori ac ymarfer
"Ydyn ni'n darlunio heddiw, Miss?" - Celf yn yr Ysgol gyda Jennifer Hughes
Sut ydyn ni'n cefnogi disgyblion dawnus a thalentog mewn cyd-destun ysgolion? Sut ydym ni'n graddio creadigrwydd? Fel Pennaeth Celf yn Ysgol Brynrefail, mae Jennifer Hughes yn dysgu disgyblion galluog a thalentog bob dydd. Yn y gweithdy ymarferol hwn mae'n mynd â ni ar daith trwy lyfrau braslunio disgyblion, o flwyddyn 7 i flwyddyn 13 ac yn cyflwyno amrywiaeth o bortffolios i ddadansoddi a thrafod. Mae Jenny yn egluro sut mae ysgolion yn asesu cynnydd disgyblion ac yn dadansoddi data o'u cyflawniad. Hefyd, sut mae ysgolion yn adnabod disgyblion mwy galluog a thalentog ac yn darparu cyfleoedd sy'n eu helpu i wireddu eu potensial. Mae Jenny yn cyflwyno adborth disgyblion gan 'Criw Celf' a 'Portffolio' ac yn trafod sut mae'r sesiynau hyn yn datblygu dealltwriaeth y disgyblion o'r pwnc a sut mae hyn yn dylanwadu ar eu graddau. Cyfle i archwilio allbwn creadigol disgyblion ysgol, mae'r gweithdy hwn yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr i'r cwricwlwm.
• Taith llyfr braslunio o flynyddoedd 7 - 13
• Dadansoddiad portffolio - sut ydym ni'n graddio creadigrwydd?
• Proses Asesu Cynnydd a Dadansoddi Data Ysgolion
• Cyfleoedd creadigol - Criw Celf a Portffolio
Am ddim & Darperir cinio
Mewn partneriaeth gyda Criw Celf
--------------------
Working at the Cutting Edge – Masterclass with Dr. Maria Hayes
Drawing on Maria’s practice as an artist and educator, she will discuss and demonstrate the language of the expressive mark. This Masterclass offers the opportunity to participate in tried and tested exercises that lead through form to allow the participant’s own content to arise during the creative process.
Maria will discuss the theory that has arisen from her experience of participatory practices, and frame how this applies to gifted and talented students. What does it mean to be working at the cutting edge? And how can we timetable the creative process?
-
Drawing with line and tone
-
Theory & practice
“Are we drawing today, Miss?” – Art in Schools with Jennifer Hughes
How do we support gifted and talented pupils in a Schools context? How do we grade creativity? As Head of Art at Ysgol Brynrefail, Jennifer Hughes teaches able and talented pupils every day. In this hands-on workshop she takes us on a journey through pupil sketchbooks, from year 7 to year 13 and presents a range of portfolios to analyze and discuss. Jenny explains how schools assess pupils progress and analyze data from their achievement. Also, how schools recognize more able and talented pupils and provide opportunities which help them realize their potential. Jenny presents pupil feedback from ‘Criw Celf’ and ‘Portffolio’ and discusses how these sessions develop pupils’ understanding of the subject and how this influences their grades. A chance to explore the creative output of school pupils, this workshop provides valuable insights into the curriculum.
-
Sketchbook journey from years 7 – 13
-
Portfolio analysis – how do we grade creativity?
-
Schools Progress Assessment & Data Analysis process
-
Creative opportunities – Criw Celf and Portffolio
Free & Lunch provided
In partnership with Criw Celf