Gweithdy Ffotograffiaeth, Photography workshop.
Mwynhau wrth ddogfennu a dysgu am dirlun Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru- Document and learn about the World Heritage Site.
Date and time
Location
Pont Penllyn, Llyn Padarn, Brynrefail, Gwynedd
Pont Penllyn Llyn Padarn Brynrefail, Gwynedd LL55 3NP United KingdomGood to know
Highlights
- 2 hours
- In person
About this event
Gweithdy ffotograffiaeth ‘A bo ben bid bont’ sy’n agored i bawb mewn lleoliadau godidog, yn nhirwedd Llechi Safle Treftadaeth y Byd. Dewch i ddysgu mwy gyda’r awdur a’r ffotograffydd dawnus, Dylan Arnold. Bydd yna gyfle i gael tro ar ddefnyddio offer arbenigol Dylan, a bydd yna ddigon o gyngor a chanllaw ar gael am ddulliau a thechnegau cyfansoddi llun, a defnyddio camera. Does dim rhaid cael camera penodol i gymryd rhan, ond fyddai’n dda i chi ddod a chamera eich hun hefyd er mwyn ymarfer sgiliau ffotograffiaeth. Bydd angen gwisgo dillad addas i’r tywydd, a phâr o esgidiau sy’n gwrthsefyll dŵr. Cawn hanesion cysylltiedig â'r lleoliadau, fydd yn dilyn thema hanesion y tir, enwau llefydd, a'r 'pontydd' yn nhirwedd brydferth y dyffrynnoedd chwarelyddol. Y lleoliad cyntaf mewn cyfres o weithdai, byddwn wrth bont brydferth Penllyn, Llyn Padarn.
Man cwrdd: Lleoliad 1, Man parcio wrth pont Penllyn, Llyn Padarn, Brynrefail, LL55 4EE.
SH 55939 62325 // 53°08'18.8"N 4°09'18.2"W //
What 3 words: gulped.needed.though
Mae Dylan Arnold yn ffotograffydd tirwedd, sy'n arbenigo mewn tynnu lluniau atmosfferig o ogledd Cymru. Cafodd ei eni a'i fagu yn Eryri, a Chymraeg yw ei iaith gyntaf. Mae’n angerddol am ei famwlad, ac yn ymdrechu i ddal harddwch, golau a drama ei thirweddau godidog yn ei ffotograffau. Mae ei ffotograffiaeth wedi cael eu cyhoeddi yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mewn llyfrau, cylchgronau a phapurau newydd, teledu a chloriau albwm. Ar hyn o bryd mae Dylan yn gweithio ar brosiect ffotograffiaeth personol, a chyfieiuthu ei gyfrol llwyddiannus 'Cymru Gûdd’ (Y Lolfa, 2023), sef casgliad o luniau a straeon am leoedd coll ac anghofiedig Cymru. Dangoswyd arddangosfa o'r gwaith hwn yn Oriel Storiel, Bangor, o fis Medi i fis Tachwedd 2019. Bydd y trosiad Saesneg o’r gyfrol, ‘Hidden Wales’ (Y Lolfa) yn cael ei gyhoeddi yn 2026.
This Photography workshop 'A bo ben bid bont' will be the first in a series of workshops, open to everyone, located in a variety of stunning locations, within the World Heritage Site, Slate landscape of Northwest Wales. Come and learn more with the author and talented photographer, Dylan Arnold. There will be an opportunity to try out Dylan's special equipment, and advice and guidance will be available on the methods and techniques of composing an image and using a camera. You don't need a specific camera to participate, but it would be beneficial to bring your own camera to practice your photography skills. It is necessary to wear suitable clothing for the weather and a pair of waterproof shoes. Booking a place is required through Eventbrite. Meeting locations: Venue 1, Llyn Padarn Bridge, Brynrefail, LL55 4EE.SH 55939 62325 // 53°08'18.8"N 4°09'18.2"W //What 3 words: gulped.needed.though
Dylan Arnold is a landscape photographer, specializing in capturing atmospheric images of North Wales. He was born and raised in Snowdonia, and Welsh is his first language. He is passionate about his homeland and strives to capture its beauty. His photography has been published nationally and internationally, in books, magazines, newspapers, television, and album covers. Currently, Dylan is working on a personal photography project and promoting his successful volume 'Cymru Gûdd'(Hidden Wales) (Y Lolfa, 2023), which is a collection of images and stories about lost and forgotten places in Wales. An exhibition of this work was displayed at Oriel Storiel, Bangor, from September to November 2019. The English translation of the volume, 'Hidden Wales' (Y Lolfa) will be published in 2026.
First location to explore will be in Brynrefail, by Pont Penllyn, Padarn lake, LL55 4EE.
Organized by
Followers
--
Events
--
Hosting
--