Gweithdy i randdeiliaid Deall Lleoedd Cymru/ Understanding Welsh Places St...
Event Information
Description
Please scroll down for the English text.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i bobl sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli mewn cymunedau yng Nghymru neu’r gymdeithas sifil i helpu i lywio gwefan Deall Lleoedd Cymru.
Rydym eisiau bod Deall Lleoedd Cymru yn bwynt cyswllt cyntaf i gael gwybodaeth ystadegol am drefi a chymunedau mwy yng Nghymru. Bydd y wefan yn rhoi gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â 1,000 neu fwy o bobl yn byw yno. Bydd y data’n cynnwys gwybodaeth am bobl a chymunedau, cyflogaeth, teithio, addysg a sgiliau, lles, gwydnwch economaidd ac amgylcheddol, mynediad i wasanaethau, diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg.
Bydd Deall Lleoedd Cymru yn wahanol i byrth data eraill oherwydd na fydd angen i bobl fod yn arbenigwyr i’w defnyddio. Bydd y wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth ar lefel trefi a chymunedau mwy yn hytrach nag awdurdodau lleol. Bydd defnyddwyr yn gallu dehongli a rhyngweithio â’r data hwn mewn ffyrdd newydd a deinamig oherwydd bydd y wefan yn canolbwyntio ar yr hyn sy’n debyg, y cyferbyniadau a’r berthynas rhwng lleoedd. Rydym yn arbennig o gyffrous oherwydd y bydd y wefan yn cynnwys mapiau o deithiau cymudwyr rhwng lleoedd, yn deipoleg llawn gwybodaeth ond anfeirniadol am leoedd Cymru ac yn cynnwys asesiadau am wydnwch a’r ddibyniaeth rhwng lleoedd yng Nghymru.
Sylwer y bydd y gweithdy hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Fodd bynnag, byddwn yn trefnu bod y wefan yn cael ei rhoi ar brawf yn y Gymraeg ac yn Saesneg. Os ydych yn siaradwr Cymraeg rhugl a bod gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch ag Elinor Shepley.
Mae’r tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gweithdy, neu Deall Lleoedd Cymru yn gyffredinol, cysylltwch ag Elinor Shepley, elinor.shepley@iwa.org.uk, 029 2048 4387.
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn ddiolchgar am y gefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Carnegie y DU (CUKT). Ariennir y gwaith o ddatblygu gwefan Deall Lleoedd Cymru gan CUKT a Llywodraeth Cymru.
This event is an opportunity for people who work or volunteer in Welsh communities or civil society to help to shape the Understanding Welsh Places website.
We want Understanding Welsh Places to be the first point of call for statistical information about towns and larger communities in Wales. The website will present information about every place in Wales with 1,000 or more residents. The data featured will include information about people and communities, employment, travel, education and skills, well-being, economic and environmental resilience, access to services, culture, heritage and the Welsh language.
Understanding Welsh Places will be different to other data portals because people will not need to be experts to use it. The site will also present data at the level of towns and larger communities, rather than local authorities. A focus on exploring similarities, contrasts and interrelationships between places will help users to interpret and interact with this data in new and dynamic ways. We are especially excited that the site will include maps of commuter journeys between places, an informative yet non-judgmental typology of Welsh places and assessments of the interdependence and resilience of Welsh places.
Please note that this workshop will be conducted in English. We will, however, be arranging testing of the website in both Welsh and English. If you are a fluent Welsh speaker and are interested in getting involved, please contact Elinor Shepley.
Tickets for this event are free but limited. To confirm your attendance, please make sure to book your ticket.
If you have questions about the workshop, or Understanding Welsh Places in general, please contact Elinor Shepley: elinor.shepley@iwa.org.uk, 029 2048 4387.
The Institute of Welsh Affairs gratefully acknowledges funding support from the Carnegie UK Trust (CUKT). The development of the Understanding Welsh Places website itself is funded by both CUKT and the Welsh Government.