Gweithdy Taith Twristiaeth - Rhyl / Tourism Itinerary Workshop - Rhyl
Event Information
About this Event
(Scroll down for English)
**GWEMINAR AR-LEIN**
Darganfyddwch sut i gael mwy o ymwelwyr i'ch ardal y tu allan i'r tymor arferol!
Ydych chi'n dod o ardal y Rhyl neu'r Rhuddlan? Ydych chi eisiau annog mwy o ymwelwyr i'ch ardal yn ystod misoedd yr Hydref a'r Gaeaf? Hoffech chi iddyn nhw ddarganfod mwy am yr hyn sy'n gwneud eich lle yn arbennig? A ydych chi'n ymwneud mewn rhyw ffordd ag edrych ar ôl profiad ymwelwyr i'ch tref, pentref, cefn gwlad neu draethau cyfagos?
Os gwnaethoch chi ateb 'ydw', yna peidiwch â cholli'r cyfle hwn!
Rydym eisiau gwahodd pob busnes o bob maint o ardaloedd y Rhyl neu Rhuddlan sy'n helpu i wneud profiad yr ymwelydd yn arbennig i'r digwyddiad rhyngweithiol yma. Gall eich busnes fod ym maes manwerthu, pobi, melysion, atyniadau, tywysydd taith, rheolwr profiad, antur tu mewn/tu allan, pob math o lety, bwyd a diod - mae croeso i chi i gyd.
Dyma gyfle gwych i ddod at ein gilydd a chreu rhaglenni teithio unigryw 1 i 3 diwrnod a fydd yn dal dychymyg eich ymwelwyr yn y dyfodol ac yn eu hannog i ymweld.
Hefyd wedi'i gynnwys yn y gweithdy:
- Y wyddoniaeth y tu ôl i greu rhaglenni teithio profiad effeithiol
- Sesiynau grŵp rhyngweithiol i greu'r profiadau unigryw hyn
- Pecyn cymorth i'ch helpu chi i hyrwyddo'r profiadau newydd cyffrous hyn yn strategol yn eich cymuned dwristiaeth a'ch rhwydweithiau i gyrraedd eich cynulleidfaoedd yn effeithiol.
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal ar-lein, fodd bynnag, os bydd y sefyllfa'n newid, gellir ei throsglwyddo i ddigwyddiad mewn person mewn lleoliad wedi ei ddiogelu oddi wrth Covid.
Mae'r Hwb Menter wedi partneru â Tourism Community Hub a Rhyl BID i ddarparu'r digwyddiad hwn i chi. Ariennir yr Hwb Menter yn rhannol gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
**ONLINE WEBINAR**
Discover how to get more visitors into your area out of season!
Are you from the Rhyl or Rhuddlan area? Do you want to encourage more visitors to your area in the Autumn and Winter months? Would you like them to find out more about what makes your place special? Are you in some way involved with looking after the visitors experience when in your town, village, countryside or nearby beaches?
If you answered yes, then don’t miss out on this event!
We want to invite all businesses of all sizes from the Rhyl or Rhuddlan areas who help make the visitor experience special to this interactive event. Your business can be in retail, baking, confectionary, attractions, tour guiding, experience manager, outdoor/indoor adventure, all types of accommodation, food and drink – you are all welcome.
This is a fantastic opportunity to come together and create unique 1 to 3 day experiences itineraries that will capture the imagination of your future visitors and encourage them to visit.
Also included in the workshop:
- The science behind creating effective experience itineraries
- Interactive group sessions to create these unique experiences
- A tool kit to help you strategically promote these exciting new experiences within your tourism community and networks to reach your audiences effectively.
The session will be held online however if the situation changes it might be transferred to an in person event in a Covid-safe location.
The Enterprise Hub has partnered up with Tourism Community Hub and Rhyl BID to bring this event to you. The Enterprise Hub is part Funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government.