Gweledigaeth ar gyfer Cymru fwy cyfartal // A vision for a more equal Wales
Event Information
About this Event
Nid yw pob anabledd yn weladwy.
Felly sut y gallwn helpu i ailadeiladu Cymru fwy cyfartal ar gyfer y dyfodol?
Ymunwch â'r Dirprwy Lywydd Ann Jones AS, mewn trafodaeth fyw ar ba gamau y gellid eu cymryd i sicrhau bod dinasyddion ag anableddau yng Nghymru yn gallu byw, dysgu a gweithio mor annibynnol ag y mynnant.
Gyda:
- Selena Caemawr (Entrepreneur Cymdeithasol a Chyfarwyddwr y Caffi Aubergine)
- Elin Williams (My Blurred World)
- Melanie Duddridge (Gwasanaeth Navigate, Scope)
- Abi Owens (Sylfaenydd a Chyfarwyddwr MishMash Management)
Bydd y panel yn trafod yr heriau personol a phroffesiynol y maen nhw wedi'u hwynebu ym meysydd eu harbenigedd, y camau y dylid eu cymryd i fynd i'r afael â rhwystrau mae dinasyddion ag anableddau dal i’w hwynebu yn ein cymunedau, a’u gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Cofrestrwch a chyflwyno eich cwestiwn i'r panel.
***********
Not all disabilities are visible.
So how can we help rebuild a more equal Wales for the future?
Join Deputy Presiding Officer Ann Jones MS, in a live discussion on what steps could be taken to ensure that citizens with disabilities across Wales can live, learn and work as independently as they choose.
With:
- Selena Caemawr (Social Entrepreneur and Director, The Aubergine Cafe)
- Elin Williams, (My Blurred World)
- Melanie Duddridge (Navigate Service, Scope)
- Abi Owens (Founder and Director of MishMash Management)
The panel will discuss the challenges they have faced both personally and professionally in their fields of expertise, what steps they’d like to see being taken to address the barriers citizens with disabilities still face within our communities and what hopes and aspirations they have for the future.
Register, and submit your question to the panel.
**********
Please note: A link to the event will be sent to you ahead of time. Access to the event will go live from the link from 18.00 on 03 December 2020.
Noder: Bydd dolen i'r digwyddiad yn cael ei hanfon atoch cyn amser. Bydd mynediad i'r digwyddiad yn mynd yn fyw o'r ddolen o 18.00 ar 03 Rhagfyr 2020.
Cofrestru Amgen
Os ydych yn dymuno, mae modd i chi gofrestru ar gyfer y sesiwn drwy gysylltu gyda'n llinell archebu ar 0300 200 6565 neu drwy e-bostio cysylltu@senedd.cymru.
Alternative Registration
Should you prefer, you can also register your attendance by contacting our booking line on 0300 200 6565 or e-mail contact@senedd.wales
Datganiad Diogelu Data
Byddwn yn rheoli tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn drwy ddefnyddio Eventbrite. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth a roddwch i gysylltu â chi am y digwyddiad, ac i gasglu unrhyw adborth am eich profiad. Dim ond at y diben hwn y byddwn yn defnyddio eich data, a gedwir unrhyw ddata am gyfnod o hyd at 6 mis cyn cael ei ddileu'n barhaol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y bydd eich gwybodaeth yn cael ei defnyddio, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd llawn. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y caiff eich gwybodaeth ei ddefnyddio, e-bostiwch cyswllt@senedd.cymru.
Data Protection Statement
We will manage bookings for this event by using Eventbrite. We will use the information you provide to contact you about the event, and to gather any feedback on your experience. We will only use your data for this purpose, and any data captured will be retained for a period of up to 6 months before being permanently deleted. For more information on how your information will be used please read our full privacy notice. If you have any further questions about how your information will be used, please e-mail contact@senedd.wales.