Join Darwin Gray’s employment law experts for an interactive morning running through a case involving an allegation of misconduct at work, giving you the chance to watch a challenging disciplinary hearing unfold.
As well as holding the hearing itself, Darwin Gray’s award-winning team will be providing you with guidance on navigating the disciplinary procedure from the point an allegation is made against an employee right through to the end of the process.
Designed for leaders, managers and HR professionals, the session will cover key tips on what you need to remember during the process, including:
- When suspension can be used and the consequences of misusing it
- The common traps employers fall into which can come back to bite you in an unfair dismissal claim
- The relevance of the ACAS Code of Practice and what you need to do to comply with it
- How to deal with a difficult employee who wants to obstruct the procedure, either during the hearing or in the lead up to it (including when an employee raises a grievance)
- The role of the union rep or other companion
- Dealing with an appeal
You will also get the chance to witness the disciplinary process from the employee’s perspective, to help you to understand what you can do to secure their trust and co-operation in the procedure and minimise the risk of future Employment Tribunal claims.
Buffet lunch and networking included.
Limited spaces available. Early booking is advised.
===
Hyfforddiant Hanfodol i Weithwyr AD: Cynnal Gwrandawiad Disgyblu
Ymunwch ag arbenigwyr cyfraith cyflogaeth Darwin Gray am fore rhyngweithiol yn archwilio achos yn ymwneud â honiad o gamymddwyn yn y gweithle, ble bydd cyfle i chi wylio gwrandawiad disgyblu heriol yn datblygu.
Yn ogystal â chynnal y gwrandawiad ei hun, bydd tîm arbenigol Darwin Gray yn rhoi arweiniad ar sut i fynd o’i chwmpas hi wrth gynnal proses ddisgyblu, o’r pwynt y gwnaed honiad yn erbyn gweithiwr hyd at ddiwedd y broses.
Bydd y sesiwn yn cynnwys awgrymiadau o arferion da ar gyfer arweinwyr, rheolwyr a phobl broffesiynol sydd yn gweithio ym maes Adnoddau Dynol. Bydd y sesiwn yn cwmpasu:
- Pryd y gellir atal unigolion o’r gweithle a’r canlyniadau posibl os gwneir hynny heb reswm dilys
- Y camgymeriadau cyffredin a wna cyflogwyr all arwain at hawliadau o ddiswyddo annheg yn cael eu cyflwyno yn eu herbyn
- Perthnasedd Cod Ymarfer ACAS a’r hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn cydymffurfio ag ef
- Sut i ymdrin â gweithiwr heriol sydd yn ceisio rhwystro’r broses ddisgyblu, naill ai yn ystod y gwrandawiad neu yn ystod y cyfnod cyn hynny (gan gynnwys pan fo gweithiwr yn gwneud cwyn)
- Rôl y cynrychiolydd undeb neu gyfaill arall
- Sut i ymdrin ag apêl
Bydd hefyd cyfle i chi ystyried y broses ddisgyblu o safbwynt y gweithiwr, er mwyn eich cynorthwyo i ddeall sut y gallwch gydweithio â hwy yn ystod y broses a lleihau’r risg o hawliadau yn cael eu cyflwyno yn eich erbyn yn y Tribiwnlys Cyflogaeth.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys cinio a chyfle i rwydweithio.
Mae nifer y tocynnau yn gyfyngedig. Awgrymwn felly eich bod yn archebu eich lle yn gynnar.