Nodiadau: - Mae yna gwrs hyfforddiant ar wahân i CYA newydd.
- Bydd y cwrs yma yn cael ei gynnal yn y Gymraeg .
- Bydd y cwrs yn cael ei gynnal ar-lein drwy Microsoft Teams.
Mae canllawiau cenedlaethol OEAP ar gyfer ymweliadau addysgol a gweithdrefnau Sirol yn nodi bod yn rhaid i bob ysgol a sefydliad addysgol weithredu â Chydlynwyr ymweliadau addysgol hyfforddedig er mwyn goruchwylio’r gwaith o gynllunio a chymeradwyo ymweliadau. I sicrhau bod yr holl weithdrefnau, polisïau ac arweiniad cyfredol yn cael eu dilyn. Dylai CYA hyfforddedig ddiweddaru / ail-ddilysu eu hyfforddiant bob 3 blynedd. Mae’r cyrsiau hyn yn rhai perthnasol i ddiweddaru eich statws CYA.Pwy ddylai fynychu’r Hyfforddiant Ail-ddilysu CYA?Os gwnaethoch gwblhau eich Hyfforddiant CYA cyntaf dros 3 blynedd yn ôl, rydym yn eich cynghori i fynychu cwrs diweddaru / ail-ddilysu (hanner diwrnod). Sylwer – dylech fynychu’r cwrs diweddaru, neu anfon rhywun arall arno dim ond os ydych wedi cwblhau Hyfforddiant llawn. Cysylltwch â training.nwoes@conwy.gov.uk am fwy o fanylion.
Unwaith mae’r cofrestru wedi’i gwblhau trwy Eventbrite, byddwch yn cael gwybodaeth ymlaen llaw am y cwrs a’r ddolen i’r digwyddiad hyfforddi ar-lein gan y bydd yr hyfforddiant yn digwydd trwy Microsoft Teams.