GOHIRIO/POSTPONED Hyfforddiant ar gyfer y Broses Bontio/Transition Training

Actions Panel

GOHIRIO/POSTPONED Hyfforddiant ar gyfer y Broses Bontio/Transition Training

Hyfforddiant ar gyfer Arweinwyr Plant sy'n Derbyn Gofal Dynodedig /Designated LAC Lead Training

By ERW

Date and time

Wed, 25 Mar 2020 09:00 - 15:00 GMT

Location

Ysgol Dwr y Felin / Dwr y Felin School

Dwr y Felin Road Neath Neath Port Talbot SA10 7RE United Kingdom

About this event

Bydd y cwrs hwn yn archwilio prosesau pontio disgyblion a'r modd y maent yn effeithio ar les cymdeithasol ac emosiynol unigolion, ynghyd â'u datblygiad academaidd.

Gan gydnabod bod dull ysgol gyfan a dealltwriaeth o brosesau pontio yn allweddol i wella deilliannau i bob plentyn, bydd y cwrs undydd hwn yn galluogi staff i ddeall pam y mae'n bwysig pontio'n iawn, a sut y gallai achos aflwyddiannus o addasu i fywyd mewn ysgol uwchradd effeithio ar les hirdymor a chyrhaeddiad addysgol unigolyn.

Er bod y diwrnod hyfforddi hwn yn cael ei ddarparu i gefnogi'r broses bontio rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd, bydd y cynnwys hefyd yn rhoi ystyriaeth i brosesau pontio yn ystod y diwrnod ysgol a rhwng cyfnodau allweddol.

Erbyn diwedd y dydd, bydd y cyfranogwyr yn gallu gwneud y canlynol:

• Deall y gwahaniaethau rhwng prosesau pontio llwyddiannus ac aflwyddiannus

• Nodi'r ffactorau risg a diogelu o ran cynnal prosesau pontio llwyddiannus

• Nodi nodweddion unigol a allai effeithio ar brosesau pontio llwyddiannus

• Penderfynu ar y ffactorau amgylcheddol ehangach sy'n effeithio ar brosesau

pontio llwyddiannus.

Mae'r cwrs yn agored i Arweinwyr Plant sy'n Derbyn Gofal Dynodedig mewn ysgolion, neu unrhyw aelod o staff sy'n gyfrifol am bontio disgyblion agored i niwed. Bydd ERW hefyd yn cynnig diwrnod wedi'i gyflenwi ar gyfer ysgolion i ryddhau'r aelod perthnasol o staff. Dylid llenwi ffurflen ar y diwrnod hyfforddi dan sylw.

Mae'r cwrs yn cael ei gynnal mewn amryw o leoliadau ledled rhanbarth ERW ym mis Mawrth 2020 – cliciwch ar y Eventbrite perthnasol i archebu eich lle.

I gael rhagor o wybodaeth neu i ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Dylan Williams, Cydgysylltydd Rhanbarthol y Grant Datblygu Disgyblion: dylan.williams@erw.cymru

This course will explore pupil transitions and how this impacts upon an individual’s social and emotional wellbeing as well as their academic development.

Recognising that a whole school approach and understanding of transition is key to improving outcomes for all children, this one day course will enable staff to understand why it is important to get transition right and how unsuccessful adaptation to secondary school can affect an individual’s long term wellbeing and educational attainment.

Whilst this training day is being delivered to support transition from primary into secondary, the content will also look transitions within the school day and between key stages.

By the end of the day participants will:

• Understand the differences between successful and unsuccessful transitions

• Identify the risk and protective factors for successful transition

• Recognise individual characteristics that may impact upon successful

transition

• Determine the wider environmental factors that affect successful transition

The course is open to Designated LAC Leads within schools or any member of staff with responsibility for transition of vulnerable pupils. ERW will also provide one days cover to schools to release the relevant member of staff. A form should be filled in on the training day attended.

The course is being held in various locations across the ERW region in March 2020 – click on the relevant Eventbrite to reserve your place.

For more information or to ask any questions, please get in touch with Dylan Williams, Regional Coordinator for the Pupil Development Grant dylan.williams@erw.cymru

Organised by

Mae ERW yn gynghrair o 4 awdurdod lleol sy’n cael ei rheoli gan gyd-bwyllgor a gyfansoddwyd yn gyfreithiol. Ei nod yw gweithredu’r strategaeth ranbarthol a’r cynllun busnes a gytunwyd i gefnogi gwella ysgolion.

ERW is an alliance of 4 local authorities governed by a legally constituted joint committee. Its aim is to implement the agreed regional strategy and business plan to support school improvement.

 

Sales Ended