Free

HYFFORDDIANT LLYSGENNAD PEN Y BONT AR OGWR

Event Information

Share this event

Date and Time

Location

Location

Canolfan Ymwelwyr, Gwarchodfa Natur Cynffig.

Ton Kenfig

Gogledd Corneli

Pen y Bont ar Ogwr

CF33 4PT

United Kingdom

View Map

Friends Who Are Going
Event description

Description

Yn ystod wythnos Sulgwyn, 29 Ebrill - 3 Mehefin bydd Sir Pen y Bont ar Ogwr yn croesawu Cymru gyfan, wrth i Eisteddfod yr Urdd agor ei drysau ar faes Coleg Pencoed I ryw 90,000 o ymwelwyr dros chwe diwrnod, ac rydym yn awyddus i roi’r croeso cynhesaf posib iddynt!

I'r perwyl hwn, rydym yn galw am wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith, sy’n angerddol am ein hardal i ymuno â Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, a derbyn hyfforddiant yn barod i gynnig croeso a gwasanaeth gwybodaeth leol i ymwelwyr yr Eisteddfod.

Grŵp o ryw ugain o wirfoddolwyr yw Llysgenhadon Pen y Bont ar Ogwr, sy'n rhannu cariad am yr ardal ac â diddordeb mewn parhau i ddysgu a rhannu gwybodaeth am ddiwylliant, bywyd gwyllt, hanes, celf, a bwyd y sir. Maent yn ymgysylltu ag ymwelwyr ein hardal mewn nifer o wahanol ffyrdd, megis cyfarfod a chyfarch mewn digwyddiadau, cefnogi grwpiau i lunio eu hymweliad, ysgrifennu blogiau, rhannu gwybodaeth leol gyda theuluoedd ac yn gyffredinol yn gwneud yr hyn a allant i godi proffil y rhanbarth. Mae bod yn Llysgennad yn lawer o hwyl ac yn werth chweil. Dyma beth sydd gan ein Llysgenhadon presennol i ddweud:

"Mond gair bach i ddweud pa mor werthfawr oedd y profiad o hyfforddi fel llysgennad. Nid yn unig ydym ni wedi dysgu cymaint am yr ardal, ond rydym hefyd wedi datblygu cymuned fach wirioneddol gref o bobl sydd â nod cyffredin, sef i fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo ein darn arbennig ni o Gymru "

"Mae ymwneud a’r rhaglen Llysgenhadon wedi bod yn ffordd hyfryd o ddysgu am ein treftadaeth, cerddoriaeth a llên gwerin leol, yn ogystal â mwynhau teithiau gwych i rai o'r atyniadau ymwelwyr mwyaf blaenllaw, ac ychydig o gyfrinachau’r ardal hefyd."

Yn ogystal, mae'r manteision o fod yn llysgennad yn cynnwys:

• Mynediad i gyfres o hyfforddiant a gwibdeithiau pleserus

• hunan ddatblygiad

• Rhwydweithio gyda phobl eraill o'r un anian, a busnesau twristiaeth yr ardal

• Ymdeimlad o gyfrannu at y gymuned a'r rhanbarth yn gyffredinol, a'r boddhad a ddaw gyda hynny.

• Mynediad am ddim i ddigwyddiadau ar gyfer y rhai sy'n gwirfoddoli mewn digwyddiadau

• Tystysgrif a cherdyn adnabod sy’n eich cydnabod fel Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr.

Mae hyfforddiant yn rhad ac am ddim. Bydd y diwrnod hyfforddi yma ar sail gweithdy yn dysgu am drysorau'r rhanbarth. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys gwybodaeth am hanes, llên gwerin, treftadaeth, diwylliant a hyfrydwch naturiol sir Pen y Bont ar Ogwr.

Gofynir i chi wirfoddoli am sesiwn hanner diwrnod ar faes Eisteddfod yr Urdd yn ystod wythnos y Sulgwyn. Cewch ddewis datblygu'n Llysgennad Pen y Bont ar Ogwr llawn gyda un diwrnod pellach o hyfforddiant yn yr hydref. Cewch wedyn gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli wrth iddynt godi drwy gydol y flwyddyn.

Bydd Llysgenhadon sy’n gwirfoddoli yn yr Eisteddfod yn derbyn mynediad am ddim i’r maes yn ystod eu diwrnod gwirfoddoli, ac yn gallu mwynhau perfformiadau rhai o'r 15,000 o blant dan 25 a fydd yn cystadlu am y brig mewn cystadlaethau diwylliannol megis canu, dawnsio, llefaru a pherfformio. Bydd o leiaf dau Lysgennad yn gwirfoddoli ar bob un diwrnod o’r Eisteddfod.

Rydym yn edrych yn benodol am unigolion sy'n gallu sgwrsio yn y Gymraeg, a bydd yr hyfforddiant yma yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda deunyddiau cefnogi yn cael eu cynnig yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Gobeithio y gallwch ymuno a ni.


Share with friends

Date and Time

Location

Canolfan Ymwelwyr, Gwarchodfa Natur Cynffig.

Ton Kenfig

Gogledd Corneli

Pen y Bont ar Ogwr

CF33 4PT

United Kingdom

View Map

Save This Event

Event Saved