Imagining History: Dychmygu Hanes (Online Conference: Ar-lein)
Date and time
Location
Online event
Imagining History: Wales in fiction and fact Online Conference - Friday 12th and Saturday 13th November
About this event
Hosted online by the University of South Wales with an accompanying live (in-person) exhibition at Oriel y Bont, University of South Wales.
About the Event :
Imagined histories in the form of historical fiction, films or television programmes are often at the heart of how we think about our national and personal identities. Historical narratives based on ‘fact’ have always shaped our thinking about our nation, our communities and ourselves but they are often partial, fragmentary or distorted by particular vested interests. Historical fictions can allow us to re-imagine those narratives, filling the gaps and silences in recorded history. They can help us to imagine alternative histories as well as new futures.
This online conference will explore the ways in which such fictions exist in a complex and sometimes contentious tension with mainstream historiographies.
Keynote Panels:
• Y Castell Siwgr: Wales and transatlantic slavery - online
• The Welsh in Ukraine: Fact and Fiction - online
• Raymond Williams Panel: Turning History into Fiction – online
• How Green Was My Valley (BBC, 1975-6) –screening of an episode of the BBC adaptation of Richard Llewelyn’s 1939 novel. With an introduction by actress Sue Jones Davies and discussion by historian Professor Angela John. UPDATE: Due to concerns about the upcoming changes in Covid restrictions this event will no longer take place in person. It will now take place online. If you have booked for the main conference, a link for this event will be sent to you via email so there is no need to book for the event separately.
• Interactive Creative Writing workshops with Barrie Llewelyn In these interactive workshops, Creative Writing specialist Barrie Llewelyn will demonstrate some of the strategies that prose writers use to create characters and settings which capture a reader’s imagination. These workshops must be pre-booked by adding them to your Eventbrite booking.
For full details and a conference programme see: https://english.research.southwales.ac.uk/imagining-history-wales-fiction-and-fact/
Conference Organisers: University of South Wales, Association of Welsh Writing in English, Llafur, Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales, and Pontypridd Museum.
For more information contact Professor Diana Wallace: diana.wallace@southwales.ac.uk and/or Dr James Philips: jjphil1994@gmail.com
The online events will be presented via Zoom and Microsoft Teams. You will receive a reminder email, including a link to join and details of how to use Zoom/Teams in advance of the event.
Exhibition: Imagining History: History in Fiction and Fact Treforest Campus, University of South Wales
The opening event for this exhibition is on Friday 12 November 6.30 – 8.30. Places are limited to comply with Covid safety regulations - please book via the separate Eventbrite link if you wish to attend. https://gallery.southwales.ac.uk/
Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith
Cynhadledd 12-13 Tachwedd 2021
Ar-lein
(a gynhelir ar-lein gan Brifysgol De Cymru)
gydag arddangosfa fyw (mewn person) yn Oriel y Bont, Prifysgol De Cymru
Mae hanesion wedi’u dychmygu ar ffurf ffuglen hanesyddol, ffilmiau neu raglenni teledu yn aml wrth galon sut yr ydym yn meddwl am ein hunaniaethau cenedlaethol a phersonol.* Mae naratifau hanesyddol yn seiliedig ar ‘ffaith’ bob amser wedi ffurfio sut yr ydym yn meddwl am ein cenedl, ein cymunedau a ni’n hunain ond maent droeon yn unochrog, yn anghyflawn neu wedi’u hystumio gan fuddiannau breintiedig neilltuol. Mae gweithiau ffuglennol hanesyddol yn caniatáu i ni ail-ddychmygu’r naratifau hyn, llenwi’r bylchau a’r mannau mud yn yr hanes sydd wedi’i gofnodi. Gallant ein cynorthwyo i ddychmygu hanesion amgen yn ogystal â dyfodol newydd.
Bydd y gynhadledd hon yn archwilio'r ffyrdd y mae ffuglen o'r fath yn bodoli mewn tensiwn cymhleth ac weithiau dadleuol gyda hanesyddiaethau prif ffrwd.
Prif Baneli:
• Y Castell Siwgr: Cymru a chaethwasiaeth trawsiwerydd – ar-lein
• Y Cymry yn yr Wcráin: Ffaith a Ffuglen – ar-lein
• Panel Raymond Williams: Troi Hanes yn Ffuglen - ar-lein
• How Green Was My Valley (BBC, 1975-6) – ymunwch â ni am ddangosiad o bennod o addasiad y BBC o nofel Richard Llewelyn, 1939. Gyda chyflwyniad gan yr actores Sue Jones Davies (a chwaraeodd ran Angharad Morgan yng nghyfres y BBC) a thrafodaeth gan yr hanesydd yr Athro Angela John. DIWEDDARIAD: Oherwydd pryderon am y newidiadau sydd ar y gweill yn y cyfyngiadau Covid, ni fydd y digwyddiad hwn yn digwydd yn bersonol mwyach. Bydd nawr yn digwydd ar-lein. Os ydych wedi archebu ar gyfer y brif gynhadledd, bydd dolen ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael ei hanfon atoch drwy e-bost felly nid oes angen archebu ar gyfer y digwyddiad ar wahân.
• Gweithdai ysgrifennu creadigol gyda Barrie Llewelyn Yn y gweithdai rhyngweithiol hyn, bydd yr arbenigwr Ysgrifennu Creadigol, Barrie Llewelyn, yn dangos rhai o'r strategaethau y mae awduron rhyddiaith yn eu defnyddio i greu cymeriadau a lleoliadau sy'n dal dychymyg darllenydd. Rhaid archebu'r gweithdai hyn ymlaen llaw drwy eu hychwanegu at eich archeb Eventbrite.
Trefnwyr: Prifysgol De Cymru; Cymdeithas Llên Saesneg Cymru; Llafur, Archif Menywod Cymru/Women’s Archive Wales ac Amgueddfa Pontypridd.
Bydd archebu lle ar gyfer y gynhadledd am ddim hon yn agor yn fuan drwy Eventbrite.
Gweler manylion llawn a’r rhaglen ddrafft yma: https://english.research.southwales.ac.uk/imagining-history-wales-fiction-and-fact/
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Yr Athro Diana Wallace: diana.wallace@southwales.ac.uk a/neu Dr James Phillips: jjphil1994@gmail.com
Bydd y digwyddiadau ar-lein yn cael eu cyflwyno drwy Zoom a Microsoft Teams. Byddwch yn derbyn e-bost atgoffa, gan gynnwys dolen i ymuno a manylion am sut i ddefnyddio Zoom/Teams cyn y digwyddiad.
Arddangosfa: Dychmygu Hanes: Cymru mewn ffuglen a ffaith/ yn Oriel y Bont, Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru
Ar agor bob dydd yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 1 Tachwedd i ddydd Gwener 17 Rhagfyr 2021.
Mae'r digwyddiad agoriadol ar ddydd Gwener 12 Tachwedd 6.30 – 8.30. Mae lleoedd wedi'u cyfyngu i gydymffurfio â rheoliadau diogelwch Covid - archebwch drwy'r ddolen Eventbrite os ydych yn dymuno bod yn bresennol: https://gallery.southwales.ac.uk/oriel-y-bont-gallery/