(Scroll down for English)
**DIGWYDDIAD MEWN PERSON**
Bydd y digwyddiad hwn yn eich cyflwyno i sut i ddefnyddio Facebook i farchnata eich busnes. Dewch â'ch gliniadur, neu ddyfais debyg, eich hun.
Heulwen Davies, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Cwmni Marchnata a PR Llais Cymru fydd yn rhannu wyth cam i gael y canlyniadau gorau wrth ddefnyddio Facebook i farchnata eich busnes. Gyda dros 14 mlynedd o brofiad yn y maes, mae gan Heulwen ddigon o gyfrinachau i’w rhannu. Mae’r sesiwn yn cynnig cyfle i holi cwestiynau pellach i Heulwen am y byd marchnata digidol, er mwyn sicrhau eich bod chi’n gadael yn hyderus ac yn barod i dyfu eich presenoldeb ar-lein.
Bydd niferoedd y mynychwyr yn cael eu cadw'n fach i alluogi pawb i ddod i adnabod ei gilydd a chreu cysylltiadau. Ethos yr Hwb Menter yw creu cymuned o unigolion yn yr run sefyllfa fydd yn gallu cefnogi ac annog ei gilydd mewn busnes. Bydd trosolwg o'r gefnogaeth bellach sydd ar gael o'r Hwb Menter a Busnes @LlandrilloMenai hefyd yn cael ei ddarparu.
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn ddwyieithog - ni fydd cyfieithydd ar gael.
Mae'r digwyddiad yma yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng yr Hwb Menter a Busnes @Llandrillo Menai. Mae’r Hwb Menter yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Mae hefyd yn cael ei gyllido'n rhannol gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -
**IN PERSON EVENT**
This event will introduce you to how you can use Facebook to market your business. Please bring your own laptop or similar device.
Heulwen Davies, Founder and Director of Marketing and PR Company Llais Cymru will share eight steps to get the best results when using Facebook to market your business. With over 14 years of experience in the field, Heulwen has plenty of secrets to share. The session offers an opportunity to ask Heulwen further questions about the world of digital marketing, to ensure that you leave confident and ready to grow your online presence.
Attendee numbers will be kept small to enable everyone to get to know each other and create connections. The Enterprise Hub's ethos is to create a community of like-minded individuals able to support and encourage each other in business. An overview of what further support is available from the Enterprise Hub & Business @LlandrilloMenai will also be provided.
This event is held in partnership between the Enterprise Hub and Busnes @Llandrillo Menai. The Enterprise Hub is part-funded by the UK government through the UK Shared Prosperity Fund via Cyngor Gwynedd & Isle of Anglesey County Council. It is also part-funded by Nuclear Restoration Services (NRS) a wholly owned subsidiary of the Nuclear Decommissioning Authority (NDA).