Introduction to Co-production Part 1 - Underpinning Values Seminar
Just Added

Introduction to Co-production Part 1 - Underpinning Values Seminar

By Together for Change
Online event

Overview

We will explore what co-production is and isn't, where it fits within a broader spectrum of engagement and participation approaches.

Cyflwyniad i Gyd-gynhyrchu Rhan 1 - Seminar ar Werthoedd Sylfaenol


Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio beth yw cyd-gynhyrchu a beth nad yw, ble mae'n ffitio o fewn sbectrwm ehangach o ddulliau ymgysylltu a chyfranogiad, a phryd a ble y gall ychwanegu gwerth aruthrol i'ch gwaith a'ch prosiectau. Byddwn yn rhannu rhai diffiniadau a modelau ac yn eu darlunio trwy enghreifftiau o ymarfer. Bydd yn sesiwn ryngweithiol, gyda rhannu cynnwys yn ogystal ag amser ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb a thrafodaethau, felly bydd digon o gyfleoedd i gysylltu'r theori a'r fframweithiau cyd-gynhyrchu â'ch ymarfer presennol.

Seminar ar-lein 1 awr yn Saesneg gyda chyfieithu ar y pryd Cymraeg gyda Lab Cyd-gynhyrchu Cymru

Gydag Amy Nicholass, Hwylusydd Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned o Gyda’n Gilydd dros Newid a Noreen Blunt o Lab Cyd-gynhyrchu Cymru.

Cwestiynau cyffredin

Ar gyfer pwy mae'r seminar hwn?

Mae'r gyfres hon o seminarau am Ymchwil a Arweinir gan y Gymuned yn agored i unrhyw un ond wedi'i theilwra'n benodol ar gyfer unigolion neu'r rhai sy'n gweithio mewn sefydliadau cymunedol ledled Cymru. Nid oes angen unrhyw fath o gymhwyster arnoch i gymryd rhan.

A fydd y seminar yn cael ei recordio?

Bydd, gallwch wylio unrhyw un o'r gyfres o seminarau trwy gyfrif Vimeo Gyda’n Gilydd dros Newid o fewn wythnos ar ôl ei recordio. https://vimeo.com/tfccymru

A alla i wahodd fy ffrindiau neu gydweithwyr i ddod gyda mi?

Gallwch, mae'r seminarau yn agored i unrhyw un ond mae'n ddefnyddiol os yw pawb yn cofrestru yn gyntaf.

Pwy ddylwn i e-bostio os oes gen i gwestiynau am y digwyddiad hwn?

Anfonwch e-bost at post@tfc.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn a bydd naill ai Amy neu Jessie o Gyda’n Gilydd dros Newid yn ymateb cyn gynted â phosibl.


Introduction to Co-production Part 1 - Underpinning Values Seminar

In this session we will explore what co-production is and isn't, where it fits within a broader spectrum of engagement and participation approaches, and when and where it can add tremendous value to your work and projects. We will share some definitions and models and illustrate them through examples of practice. It will be an interactive session, with sharing content as well as time for Q&A and discussions, so there will be plenty of opportunities to connect the co-production theory and frameworks with your current practice.

1 hour online seminar in English with Welsh simultaneous translation with Co-Production Lab Wales

with Amy Nicholass, Community-led Research Facilitator from Together for Change and Noreen Blunt from Co-Production Lab Wales.

Category: Community, Other

Good to know

Highlights

  • 1 hour
  • Online

Location

Online event

Frequently asked questions

Organized by

Together for Change

Followers

--

Events

--

Hosting

--

Free
Mar 11 · 5:30 AM PDT