Grŵp hwyl, am ddim i rieni a phlant rhwng 18 mis a 4 blwydd oed. Mae'r grŵp hwn yn annog datblygiad plant drwy grefft, canu a straeon. Mae gweithgareddau’n dilyn thema ar sail llyfr penodol i drochi plant yn y stori. Cyfle i ymuno â'r llyfrgell yn y digwyddiad.
Sylwch: os na allwch fynd i’r digwyddiad, a wnewch chi ganslo eich tocynnau neu anfonwch e-bost atom yn youth.play@newport.gov.uk a gallwn ni eu canslo ar eich rhan. Os ydych wedi archebu gormod o docynnau ac yn dymuno canslo rhai ohonynt, cysylltwch â ni.
Canmoliaeth a Chwynion – Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae Casnewydd
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn croesawu eich adborth am y Gwasanaeth Ieuenctid a Chwarae—boed yn ganmoliaeth neu'n gŵyn. Rydym yn cymryd pob darn o adborth o ddifrif ac yn ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau rydym yn eu darparu. Mae cwynion yn ein helpu i adnabod meysydd i’w datblygu, tra bod canmoliaeth yn rhoi gwybod i ni am ba bethau rydym yn eu gwneud yn dda.
Gallwch gyflwyno eich canmoliaeth neu’ch cwyn yn uniongyrchol trwy wefan Cyngor Dinas Casnewydd gan ddefnyddio'r ddolen isod:
https://www.newport.gov.uk/our-council/contact-council/compliments-and-complaints