Lunch and Learn: Canva | Cinio a Dysgu: Canva
Event Information
About this Event
THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH ONLINE. Welsh documents are available upon request.
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Gymraeg ar gael os oes angen.
(Please scroll down for English)
Cinio a Dysgu: Canva
Hoffech chi gael mwy o frandio proffesiynol a deunyddiau hyrwyddol cyson ar gyfer eich busnes? Ydych chi wedi gweld postiadau creadigol ar y cyfryngau cymdeithasol a meddwl sut lwyddon nhw i wneud hynny?
Canva yw'r ateb! Mae am ddim, yn cynnwys templedi parod ac mae'n hawdd i'w ddefnyddio!
Defnyddir y llwyfan dylunio graffig hwn gan berchnogion busnes ar draws y byd, i greu dyluniadau graffig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau, posteri, dogfennau a deunyddiau gweledol eraill.
Gwyddom pa mor bwysig yw hi i entrepreneuriaid newydd fanteisio ar wasanaethau am ddim i'w helpu nhw roi cychwyn ar bethau. Felly, ymunwch â ni ar gyfer ein hail 'Cinio a Dysgu' ar Canva. Byddwn yn dangos i chi sut i fod y greadigol gyda'ch cynnwys, a'ch rhoi chi ar yr un lefel â'ch cystadleuwyr.
Beth fydd dan sylw yn y digwyddiad?
Bydd y gweithdy'n edrych ar:
- Gyflwyniad i Canva, ei bwrpas ac ar gyfer beth y'i defnyddir;
- Y mathau gwahanol o ddelweddau a fformatau a ddefnyddir gan lwyfannau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd;
- Sut i fod yn effeithlon a gwella eich presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio Canva.
Bydd y sesiwn yn para oddeutu 1 awr, yn cynnwys amser ar gyfer sesiwn Holi ac Ateb.
Ar gyfer pwy mae'r gweithdy hwn?
Mae'r gweithdy hwn ar gyfer dechreuwyr Canva. Pa un ai eich bod yn newydd i'r cyfan, neu os ydych eisoes wedi cael blas ar Canva, bydd y gweithdy hwn yn addas i chi. Os ydych wedi bod yn defnyddio Canva ers peth amser, ac yn teimlo'n eithaf hyderus gydag o, mae'n debyg y bydd y gweithdy hwn yn rhy syml i chi. Fodd bynnag, mae croeso i chi ymuno â ni os hoffech loywi eich gwybodaeth a gofyn rhai cwestiynau!
Mae croeso i entrepreneuriaid newydd, perchnogion busnesau bach a busnesau sefydledig. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn sut i ddefnyddio Canva yn effeithiol ymuno â ni.
Cefndir y siaradwr
Jonathan Evans - Rwy'n Hyfforddwr Digidol, sef arbenigwr digidol sy'n cynnig cymorth i fusnesau newydd neu bresennol ysgolion ac elusennau. Rwy'n ymdrin â phopeth digidol, o ddylunio graffig/gwefan, gweithio/cydweithio ar-lein, sefydlu dyfais a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eich busnes.
Rwy'n darparu pecynnau hyfforddi unigryw sy'n cael eu darparu o bell i staff, ac yn darparu cymorth parhaus drwy gyfathrebu drwy fideos ac e-byst.
______________________________________________________________________________________
Lunch and Learn: Canva
Would you like more professional branding and consistent promotional materials for your business? Have you seen creative social media posts and wondered how they do it?
Canva is the solution! It’s free, has ready-to-go templates and is easy to use!
This graphic design platform is used by business owners all over the world to create social media graphics, presentations, posters, documents and other visual materials.
We know how important it is for early stage entrepreneurs to take advantage of free services to help them get started. So join us for our second ‘Lunch and Learn’ on Canva. We’ll show you how to get creative with your content and bring you up to speed with your competitors.
What will the event cover?
This workshop will look at:
- An introduction to Canva, its purpose and what its used for;
- The various image types and formats used by popular social media platforms;
- How to be efficient and improve your social media presence using Canva.
The session will be approximately 1 hour, including time for Q&A.
Who is this workshop for?
This workshop is for Canva beginners. Whether you’re a complete novice or if you’ve had a little play around with Canva before, this workshop will be great for you. If you’ve been using Canva for a while and feel pretty confident with it, you will most likely find this workshop too basic. However, you’re more than welcome to join us if you would like to refresh your knowledge and ask some questions!
Early stage entrepreneurs, small business owners and established businesses are all welcome. Anyone with an interest in how to effectively use Canva can join us.
About the speaker
Jonathan Evans - As the DigiCoach I am a digital expert offering support to new or existing businesses, schools and charities. I cover all things digital from graphic/web design, working/collaborating online, device setup and using social media to promote your business. I provide bespoke training packages that are delivered remotely to staff with ongoing support provided via video and email communications.
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Focus Enterprise Hubs are an innovative space to incubate and accelerate new, and growing businesses. Focus Newtown and Focus Carmarthen Enterprise Hubs are part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government
Events delivered or hosted by the Focus Enterprise Hubs programme for the Welsh Government are free and open to all ages but must be booked in advance. Please be advised that numbers are limited and we expect high demand for places, so book early to secure your place.