Managing Change Mindfully - Online Therapeutic Group
Managing Change Mindfully - Online Therapy Group
Date and time
Location
Online
About this event
Managing Change Mindfully
Are you worried about the future? Feeling overwhelmed by changes that are happening due to COVID-19? Anxious about choices and decisions? Unsure of what you are doing after Uni?
Humans find change challenging. We often want change, and at the same time find it makes us anxious. Even under normal circumstances, University is a time of great transition and leaving Uni can feel like a leap into the unknown. And these are unprecedented times. We have all had to adapt to extreme change very quickly and are coping with uncertainty daily.
This ‘group’ consists of 4 individual sessions running in 4 consecutive weeks - but they are not all the same. 2 sessions will be therapeutic group sessions where you can explore your feelings in a supportive environment. 2 sessions will be guided Mindfulness to help you manage the anxiety that can be triggered by change. You can come along to all of them, or just one or two - whatever you need. Please sign up for all dates that you intend to attend.
The sessions are online via Zoom.
This session is:
Wednesday 19 May 14:00-15:30 - Therapy Group session
If you wish to attend any of the other 3 sessions below you will need to sign up via Eventbrite links on the intranet –
Wednesday 5 May 2021. 14:00-15.30 - Therapy Group session
Wednesday 12 April 14:00-15:00 - Mindfulness Session
Wednesday 26 May 14:00-15:00 - Mindfulness Session
Rheoli Newid ag Ymwybyddiaeth Ofalgar
Ydych chi’n poeni am y dyfodol? Ydych chi’n teimlo bod y newidiadau sy’n digwydd o ganlyniad i’r Coronafeirws yn eich llethu? Pryderu am benderfyniadau a dewisiadau? Ddim yn siŵr beth i'w wneud ar ôl gadael y coleg?
Mae bodau dynol yn gweld newid yn heriol. Rydym yn aml yn awyddus i weld newid, ond mae'n ein pryderu ar yr un pryd. Hyd yn oed dan amgylchiadau arferol, mae'r Brifysgol yn cynrychioli amser o newid mawr, a gall gadael y brifysgol deimlo fel naid fawr i’r tywyllwch. Ac rydym mewn cyfnod na welwyd ei debyg o’r blaen. Mae pob un ohonom wedi gorfod ymaddasu i newid enfawr yn gyflym iawn ac rydym yn ymdopi ag ansicrwydd bob dydd.
Mae'r 'grŵp' hwn yn cynnwys 4 o sesiynau unigol yn rhedeg bob wythnos - ond nid yr un peth ydyn nhw i gyd. Bydd dwy o’r sesiynau yn sesiynau grŵp therapiwtig lle gallwch drafod eich teimladau mewn amgylchedd cefnogol. Bydd y ddwy sesiwn arall yn eich arwain trwy ymwybyddiaeth ofalgar i’ch helpu i reoli’r gorbryder y gall newid ei achosi. Gallwch ddod i bob un, neu un neu ddau - beth bynnag sydd ei angen arnoch.
Bydd y sesiynau ar-lein drwy Zoom.
Bydd y sesiwn hon:
Dydd Mercher 19 Mai 2021. 14:00-15:30. Sesiwn grŵp therapiwtig
Os hoffech gymryd rhan yn unrhyw un o'r 3 sesiwn arall isod bydd angen i chi gofrestru drwy ddolenni Eventbrite ar y fewnrwyd -
Dydd Mercher 5 Mai 2021. 14:00-15:30. Sesiwn grŵp therapiwtig
Dydd Mercher 12 Mai 2021. 14:00-15:00. Sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar
Dydd Mercher 26 Mai 2021. 14:00-15:00. Sesiwn ymwybyddiaeth ofalgar