
Memento Mori - Caffi Marwolaeth | Death Café
Date and time
Refund policy
Description
Memento Mori - ymunwch â ni yng Nghaffi Marwolaeth cyntaf Sain Ffagan
Mewn Caffi Marwolaeth mae cyfeillion a dieithriaid yn dod ynghyd i rannu cacen a phaned a thrafod marwolaeth yn agored, heb nod nac agenda. Yn hytrach na sesiwn gefnogi galar neu gynghori, cyfarfod anffurfiol yw hwn sy'n gyfle i siarad am bethau na chaiff eu trafod yn aml.
Dan arweiniad Louvain Rees ac Abike Ogunlokun, bydd Caffi Marwolaeth cyntaf Sain Ffagan yn edrych ar ein delwedd ni o farwolaeth yng Nghymru, a diwylliannau eraill, heddiw ac yn y gorffennol.
Dewch i ganfod awyrgylch angladdol yr Amgueddfa wrth fynd ar 'daith marwolaeth', gweld a dal gwrthrychau o'r casgliadau, mwynhau cacen a phaned, sgwrsio am ddiwedd bywyd a chreu gemwaith coffa eich hun!
Dewch â hen ffotograffau, dillad, gwallt neu gofroddion tebyg o'ch anwyliaid (gallant fod yn fyw o hyd!) i'ch ysbrydoli yn ein gweithdy gemwaith coffa.
Archebu: Mae nifer cyfyngedig o lefydd ar gael – rydym yn eich cynghori i archebu'ch tocynnau ymlaen llaw trwy Eventbrite. Bydd unrhyw lefydd sy’n weddill ar gael ar ddechrau'r diwrnod ar sail cyntaf i'r felin.
Pris: Am ddim* Rhaid talu £5 ar gyfer bob tocyn i gadw lle – caiff yr arian hwn ei ddychwelyd i'ch cyfrif banc o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl i chi fynychu'r digwyddiad.
Iaith: Mae rhai staff yn siarad Cymraeg, rhai'n dysgu ac eraill yn siarad Saesneg yn unig. Cadwch lygad am y llinynnau Iaith Gwaith sy'n dangos pwy yw pwy. Os ydych chi'n dysgu Cymraeg, rhowch gynnig arni!
Hygyrchedd: Bydd y daith dywys sy'n rhan o'r digwyddiad hwn yn ymweld â rhai adeiladau hanesyddol sydd ddim yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
---------------------------------------------------------------
Memento Mori - Join us for our first Death Café at St Fagans
At a Death Cafe people, often strangers, gather to eat cake, drink tea and discuss death with no agenda, objectives or themes. It is an informal get together and an opportunity to talk about themes that are not often discussed, rather than a grief support or counselling session.
Hosted by Louvain Rees and Abike Ogunlokun, the first St Fagans Death Café will take a look at how we think about death in Wales and other cultures, in the past and present.
Join us to discover the morbid side of St Fagans as you take part in a ‘death on site’ tour, view and handle objects from our collections, enjoy cake, have a chat about the end of life and make your own memorial jewellery!
Bring old photographs, clothes, hair or similar reminders of your loved ones (they don’t have to be dead) for our memorial jewellery workshop and create some jewellery to remember!
Booking: This event has limited capacity – you are advised to reserve your tickets in advance via Eventbrite. Any remaining places will be available on the day at the advertised start time for the event on a first come fist served basis
Cost: Free* A refundable deposit of £5 will be required to secure the booking of each ticket – this will be refunded to your bank account within 5 working days of check in for the event.
Language: Some of our staff speak Welsh, some are learning and others speak English only. Keep an eye out for the Iaith Gwaith lanyards to see who’s who. If you’re learning Welsh, give it a go!
Accessibility: Some parts of the guided tour section of this event will visit historic buildings that are not accessible for wheelchair users.