Taith Arloesi Mindset-XR 2025 | Mindset-XR Innovation Roadshow 2025
Ymunwch â phobl o’r un maes â chi i ddysgu sut y mae arloesiadau realiti estynedig yn trawsnewid gofal iechyd meddwl
Date and time
Location
Cardiff Bay
cardiff bay cardiff United KingdomGood to know
Highlights
- 6 hours, 30 minutes
- In person
About this event
Manylion am y digwyddiad hwn:
Ar ddydd Iau, 16 Hydref, mewn lleoliad canolog yng Nghaerdydd, bydd y Rhaglen Cymorth Arloeswyr Mindset-XR , fel rhan o’u taith o amgylch y Deyrnas Unedig, yn dangos sut y mae realiti estynedig (MR) yn gallu gwella gwasanaethau iechyd meddwl.
Rhesymau i fynychu:
Yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn, bydd y rhai sy’n bresennol yn cael cyfle i ddysgu sut y mae technolegau MR eisoes yn cefnogi’r ddarpariaeth iechyd meddwl ac yn gwella'r gofal y mae cleifion yn ei gael. Dyma gyfle i brofi rhai o’r arloesiadau ac i rwydweithio â’r bobl sy’n gweithio ym maes technolegau XR.
Mae arloesiadau XR ym maes iechyd meddwl yn cynnwys datrysiadau ar gyfer plant ac oedolion hŷn, ac yn mynd i’r afael â materion fel iselder a gorbryder, rheoli poen, iechyd meddwl difrifol, gorbryder meddygol, hyfforddiant trochi i staff, cymorth ar gyfer unigolion niwrowahanol a llawer mwy.
Pwy ddylai fynychu:
Mae’r digwyddiadau hyn yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella gwasanaethau iechyd meddwl, gan gynnwys:
- Gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol a chomisiynwyr gwasanaethau iechyd meddwl
- Buddsoddwyr mewn iechyd digidol
- Academyddion ac ymchwilwyr
- Ysgolion a Phrifysgolion
- Y system iechyd a gofal, gofal cymdeithasol, ac iechyd cyhoeddus ehangach,
- Pobl sydd â phrofiad bywyd o wasanaethau iechyd meddwl
- Y rhai sy’n datblygu technolegau XR ar gyfer iechyd meddwl
Mae’r daith hon yn rhan o raglen Mindset-XR Innovate UK sy’n werth £20 miliwn. Mae’r rhaglen yn ein helpu i ysgogi twf datrysiadau digidol a throchol ym maes iechyd meddwl yn y Deyrnas Unedig.
Sylwer: Drwy gofrestru i ddod i’r digwyddiad, rydych yn cydnabod y gallai eich manylion cyswllt gael eu rhannu gyda phartneriaid y digwyddiad ac yn cytuno i gael eich ychwanegu at ein rhestr bostio. Rydym yn prosesu eich gwybodaeth yn unol â sail gyfreithlon tasg gyhoeddus.
Rydym ni hefyd yn cynnal digwyddiadau yn Belfast, Dundee, Caerwysg, Leeds a Llundain.
Cyswllt:hin.mindset@nhs.net
____________________________________________________________________________________________________
On Thursday 16th October, at a central Cardiff venue, the Mindset-XR Innovator Support Programme is showcasing how extended reality (XR) can enhance mental health services as part of its 2025 UK-wide Roadshow.
Why attend:
At this free event, attendees will learn about how XR technology is already supporting mental health provision and improving patient care, experience demonstrations of some of these innovations, and connect with those working with XR.
Examples of XR innovations in mental health include solutions for children through to older age adults, addressing depression and anxiety, pain management, serious mental illness, medical anxiety, immersive staff training, assistance for neurodivergent individuals and much more.
Who should attend:
These events are for anyone with an interest in improving mental health services including:
- Mental health professionals and commissioners of mental health services
- Investors in digital health
- Academics and researchers
- Schools and Universities
- Wider health and care system, social care, public health,
- People with lived experience of mental health services
- Developers of XR for mental health
This roadshow is part of Innovate UK’s £20 million Mindset-XR programme which is helping to catalyse the growth of immersive digital mental health solutions in the UK.
NB: By registering to attend this event, you acknowledge that your contact details may be shared with our event partners and added to our mailing list. This processing of your information is carried out under the lawful basis of public task.
We also have events in Belfast, Dundee, Exeter, Leeds and London.
Contact: hin.mindset@nhs.net
Organized by
Followers
--
Events
--
Hosting
--