Improve livestock worming practices for profitability, soil health & nature
An event for farmers and livestock managers to understand the influence of worming practices on soil health with Dr Claire Whittle.
Location
Lower Hardingsdown Farm
Llangennith Gower SA3 1HT United KingdomGood to know
Highlights
- 5 hours, 30 minutes
- In person
About this event
ENGLISH BELOW
Mae Natur am Byth yn eich gwahodd i ddysgu am rôl hanfodol chwilod y dom o ran iechyd da byw a rheoli parasitiaid ymysg ymwrthedd cynyddol i driniaethau llyngyr. Bydd y milfeddyg fferm, Claire Whittle, yn egluro strategaethau y gallwch eu gweithredu ar eich fferm eich hun i reoli parasitiaid sy’n lleihau dibyniaeth ar gemegau, a sut mae gweithio gyda byd natur yn gallu gwella iechyd eich da byw ac ecosystemau fferm.
Bydd y diwrnod yn dechrau gyda chyflwyniad diddorol, gyda thaith fferm i ddilyn er mwyn gweld chwilod y dom wrth eu gwaith, a fydd yn eich helpu i’w hadnabod ar eich fferm eich hun yn y dyfodol.
Darperir cinio bwffe a lluniaeth.
Bydd y gweithdy hwn yn trafod y canlynol:
- Strategaethau a chynllunio rheoli parasitiaid integredig
- Cynnal cyfrif wyau ysgarthol i asesu baich llyngyr
- Gwella iechyd da byw
- Rôl a manteision chwilod y dom
Ynglŷn â'ch arbenigwr: Claire Whittle
Mae Claire wedi bod yn filfeddyg fferm ers 2014. Ar hyn o bryd mae'n gweithio gydag amrywiaeth o ffermydd llaeth, bîff a defaid blaengar yn Swydd Amwythig a Swydd Gaer. Mae hi hefyd yn aelod o grŵp llywio'r Rhwydwaith Ffermio Cyfeillgar i Natur ac yn gweithredu fel arweinydd milfeddygol ar y tîm Chwilod y Dom i Ffermwyr. Mae Claire yn angerddol dros ddulliau ffermio adfywiol a sut y gallant gynnig buddion i iechyd a lles da byw.
Ar hyn o bryd, mae’n darparu hyfforddiant i grwpiau o ffermwyr ledled y wlad, gan gynnwys rheoli parasitiaid integredig a saffari chwilod y dom, yn ogystal â gwasanaeth ymgynghorol wedi’i deilwra i fusnesau fferm unigol o fewn y maes ffermio adfywiol i ganfod ffyrdd o weithio gyda natur a gwella iechyd da byw.
------------------------------------------------
Natur am byth invites you to join us to learn the crucial role of dung beetles in livestock health and parasite control amid ever-increasing wormer resistance. Farm vet, Claire Whittle, will explain strategies you can use on your own farm for parasite control that minimise chemical dependence and how working with nature can improve your livestock health and farm ecosystems.
The day will start with an enlightening presentation followed by a farm walk to see some dung beetles in action, which will help you identify them on your own farm in the future.
A buffet lunch and refreshments will be provided.
This workshop will cover:
- Integrated parasite management planning and strategies
- Conducting faecal egg counts to assess worm burden
- Improving livestock health
- The role of dung beetles and their benefits
About your expert: Claire Whittle
Claire has been a practising farm vet since 2014. She currently works with a range of progressive dairy, beef and sheep farms in Shropshire and Cheshire. She also sits on the steering group of the Nature Friendly Farming Network and is the veterinary lead for the Dung Beetles for Farmers team. Claire’s particular passion is regenerative farming methods and how they can benefit livestock health and welfare.
She currently delivers a range of training for farming groups across the country, including integrated parasite management and dung beetle safaris, as well as tailored consultancy advice for individual farm businesses within the regenerative sphere to identify how to work with nature and improve the health of livestock.
Organised by
Followers
--
Events
--
Hosting
--