NEWPORT: University of South Wales Live Streaming
Event Information
About this event
The University of South Wales is delighted to welcome you to watch the live stream of the Royal Institution’s CHRISTMAS LECTURES – titled ‘Secrets and lies: The Hidden Power of Maths’.
Also, experience entertaining activities from our staff and students prior to the lecture, on the theme of 'The Hidden Power of Maths'
DATE:
Thursday 12 December 2019
TIME:
Arrival, activities & refreshments available – 5:00pm
Live transmission – 6:00pm
Close – 7:45pm
LOCATION:
University of South Wales
Newport City Campus
Room A16
Usk Way
Newport, NP20 2BP
In these lectures, mathematician and TV presenter Dr Hannah Fry will unmask the hidden numbers, rules and patterns that secretly influence our daily lives…in ways we could never imagine.
She exposes how our gut instincts are often unreliable, while an unseen layer of maths drives everyday life in powerful and surprising ways.
Life’s most astonishing miracles can be understood with probability. Big data dictates many of the hot new fashions we follow. Even our choice of what we watch on TV, or our choice of who we marry, is secretly influenced by computer algorithms.
In a series of lectures packed with mind-boggling demos and live experiments, Hannah shows us how to decode life’s hidden numbers; to help us all make better choices, sort fact from fiction, and lead happier lives. But she also warns how our unwavering faith in figures can lead to disaster when we get the sums wrong.
Unravelling suspicious statistics, engineering meltdowns and deadly data, Hannah asks big ethical questions about the trust we place in maths today. Are there any problems math’s can’t or shouldn’t solve? Do computer algorithms have too much control over our lives and privacy? Could A.I. decide if someone lives or dies?
Ultimately, by probing the limits of maths and its role in our modern world, Hannah ends up revealing and celebrating what makes our human minds so unique.
Follow Hannah on Twitter and Instagram at @fryrsquared and find out more information on her website: www.hannahfry.co.uk
This is an English broadcast event being led by the Royal Institution
You are registering for lecture 1 from the series. If you wish to see lecture 2, we are also showing this at our Cardiff and Treforest campuses on Saturday 14 December.
Click on the links below to register your place on these too:
University of South Wales, Atrium, Cardiff – Saturday 14th December: https://www.eventbrite.co.uk/e/76242717019
University of South Wales, Treforest campus, Pontypridd – Saturday 14th December https://www.eventbrite.co.uk/e/76251086051
This event is also being streamed in Swansea, see below for information:
Mae Prifysgol De Cymru’n falch iawn o’ch gwahodd chi i wylio ffrwd fyw DARLITHOEDD NADOLIG y Sefydliad Brenhinol - ‘Secrets and lies: The Hidden Power of Maths’.
Hefyd, profwch weithgareddau difyr gan ein staff a'n myfyrwyr cyn y ddarlith, ar y thema 'Pwer Cudd Mathemateg'
DYDDIAD:
Dydd Iau 12 Rhagfyr 2019
AMSER:
Cyrraedd, gweithgareddau a lluniaeth ar gael – 5:00pm
Darllediad byw – 6:00pm
Diwedd – 7:45pm
LLEOLIAD:
Prifysgol De Cymru
Campws Dinas Casnewydd
Ystafell A16
Usk Way
Casnewydd, NP20 2BP
Yn y darlithoedd hyn, bydd Hannah Fry, y mathemetegydd a chyflwynydd teledu, yn datgelu’r rhifau, rheolau a phatrymau cudd sy’n dylanwadu ar ein bywydau bob dydd... mewn ffyrdd sy’n anodd iawn eu dychmygu.
Bydd hi’n datgelu sut mae ein greddfau yn aml yn annibynadwy, tra bod haen gudd o fathemateg yn gyrru bywyd bob dydd mewn ffyrdd pwerus ac annisgwyl.
Gellir defnyddio tebygolrwydd i ddeall gwyrthiau mwyaf rhyfeddol bywyd. Mae data mawr yn llywio llawer o'r tueddiadau a ddilynwn. Mae hyd yn oed yr hyn rydym yn ddewis ei wylio ar y teledu, neu pwy rydym ni’n dewis eu priodi, o dan ddylanwad cyfrinachol algorhytmau cyfrifiadurol.
Mewn cyfres o ddarlithoedd llawn arddangosfeydd rhyfeddol ac arbrofion byw, bydd Hannah yn dangos i ni sut i ddadgodio rhifau cudd bywyd, gan ein helpu i wneud dewisiadau gwell, gwahanu ffeithiau rhag ffuglen, a byw bywydau hapusach. Ond mae hi hefyd yn rhybuddio sut y gall ein ffydd ddiwyro mewn ffigurau arwain at drychineb pan gawn y symiau yn anghywir.
Trwy graffu ar ystadegau amheus, trychinebau peirianneg a data marwol, bydd Hannah yn gofyn cwestiynau moesegol mawr am yr ymddiriedaeth sydd gennym mewn mathemateg heddiw. A oes problemau na ddylid caniatáu i fathemateg eu datrys? A oes gan gyfrifiaduron ormod o reolaeth dros ein bywydau a’n preifatrwydd? A yw'n iawn y gall deallusrwydd artiffisial (AI) benderfynu pwy sy'n byw neu'n marw?
Yn y bôn, trwy archwilio terfynnau mathemateg a’i rôl yn y byd modern, bydd Hannah yn datgelu ac yn dathlu’r hyn sy’n gwneud y ddynol ryw mor unigryw.
Dilynwch Hannah ar Twitter ac Instagram - @fryrsquared Mae mwy o wybodaeth amdani ar gael o www.hannahfry.co.uk
Sylwer:
Sylwer: Digwyddiad cyfrwng Saesneg yw hwn sy'n cael ei arwain gan y Sefydliad Brenhinol
Rydych yn cofrestru ar gyfer darlith gyntaf y gyfres. Os ydych chi am weld yr ail ddarlith, byddwn yn ei dangos ar ein campysau yng Nghaerdydd a Threfforest ar ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr. Cliciwch ar y dolenni isod i gadw lle ar y rhain hefyd:
Ail ddarlith y gyfres:
Yr Atriwm, Prifysgol De Cymru, Caerdydd – dydd Sadwrn 14 Rhagfyr: https://www.eventbrite.co.uk/e/76242717019
Campws Trefforest, Prifysgol De Cymru, Pontypridd – dydd Sadwrn 14 Rhagfyr https://www.eventbrite.co.uk/e/76251086051
Mae'r digwyddiad hwn hefyd yn cael ei ffrydio yn Abertawe, gweler isod am wybodaeth: