Online | Creative Writing | Ysgrifennu Creadigol
Date and time
Location
Online event
Online | Creative Writing: Beginner to Pro in one hour | Ysgrifennu Creadigol: Dibrofiad i Arbenigwr mewn un awr
About this event
THIS SESSION WILL BE DELIVERED IN ENGLISH ONLINE. Welsh documents are available upon request.
MI FYDD Y SESIWN HON YN CAEL EI GYNNAL YN SAESNEG AR-LEIN. Mae yna ddogfennau Gymraeg ar gael os oes angen.
(Please scroll down for English)
Dibrofiad i Arbenigwr mewn un awr
Ydych chi'n cael trafferth gydag ysgrifennu creadigol? Eisiau ysgrifennu cynnwys a datganiadau i’r wasg ond ddim yn gwybod lle i ddechrau?
Hwn yw’r gweithdy delfrydol i’ch helpu chi i gael awgrymiadau allweddol ar gyfer creu cynnwys diddorol a llawn gwybodaeth ar gyfer eich busnes. P’un a ydych yn berchennog busnes bach sy’n ceisio estyn allan at eich cynulleidfa, neu’n berchennog busnes mwy sy’n awyddus i rannu straeon o newyddion da gyda’r wasg leol, bydd y gweithdy cyflym awr o hyd hwn o fudd i chi.
Gadewch i ni roi’r sgiliau a fydd yn eich galluogi chi i greu crynodebau i’w heiddigeddu, postiadau diddorol a datganiadau llawn gwybodaeth a fydd yn arddangos eich busnes a newyddion da. Cofrestrwch ac archebwch eich lle heddiw!
Beth fydd cynnwys y digwyddiad?
- Ysgrifennu i’r wasg - sut i ymgysylltu a chael sylw i’ch stori
- Ysgrifennu i’ch cynulleidfa - sut i greu cylchlythyrau diddorol ar gyfer eich cwsmeriaid
- Ysgrifennu ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol - sut i greu cynnwys diddorol ar gyfer eich llwyfannau
Byddwn yn trafod popeth o benawdau ar gyfer datganiadau i’r wasg, y ffordd orau o ysgrifennu at newyddiadurwyr a sut i ddiweddaru ac addasu eich cynnwys ar gyfer llwyfannau unigol.
Cefndir y siaradwr
Mae Chantelle Norris, Uwch Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, wedi gweithio o fewn y sector marchnata am dros ddeng mlynedd. Gyda phrofiad mewnol ac asiantaeth, mae Chantelle yn canolbwyntio ar ddatblygu ymgyrchoedd marchnata effeithiol gan ddefnyddio ystod o opsiynau print a digidol. Gyda gradd mewn Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau, a chefndir cadarn mewn dylunio a hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol, mae Chantelle yn defnyddio’i gwybodaeth i ddatblygu dulliau newydd a chyffrous yn barhaus er mwyn hyrwyddo prosiectau.
-----------------------------------------------------------------------------
Creative Writing - Beginner to Pro in One Hour!
Do you struggle with creative writing? Want to write press releases and content but just don’t know where to start?
This is the perfect workshop to help you learn key tips for creating engaging and informative content for your business. Whether you're a small business owner looking to reach out to your audience, or you're a larger business owner wanting to share good news stories with the local press, this quick, one-hour workshop will benefit you.
Let us give you the skills to create enviable write-ups, engaging posts and informative press releases that will showcase your business and good news. Sign-up and book your place today!
What will the event cover?
- Writing to the press - how to engage and get your story covered
- Writing to your audience - how to create interesting newsletters for your customers
- Writing for social media - how to create engaging content for your platforms
We'll look at everything from headlines for press releases, how best to write to journalists and how to follow up and tailoring your content for individual platforms.
About the speaker
Senior Marketing and Communications Executive, Chantelle Norris, has worked within the marketing sector for over a decade. With both in-house and agency experience, Chantelle focuses on building effective marketing campaigns using a range of print and digital options. With a degree in Public and Media Relations, and strong background in design and social media advertising, Chantelle uses her knowledge to continually develop new and exciting ways to promote projects.
Mae Hybiau Menter Ffocws yn darparu gofod arloesol i ddeori a sbarduno busnesau newydd a’r rhai sy'n ehangu. Mae Hwb Menter Ffocws y Drenewydd a Hwb Menter Ffocws Caerfyrddin yn cael eu hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru
Mae'r digwyddiadau a ddarperir neu a gynhelir gan raglen Hybiau Menter Ffocws Llywodraeth Cymru am ddim ac yn agored i bobl o bob oedran, ond rhaid archebu lle ymlaen llaw. Mae'r niferoedd yn brin a disgwyliwn alw mawr am lefydd, felly archebwch yn gynnar i ddiogelu'ch lle.
Focus Enterprise Hubs are an innovative space to incubate and accelerate new, and growing businesses. Focus Newtown and Focus Carmarthen Enterprise Hubs are part funded by the European Regional Development Fund through the Welsh Government
Events delivered or hosted by the Focus Enterprise Hubs programme are fully funded and open to all ages but must be booked in advance. Please be advised that numbers are limited and we expect high demand for places, so book early to secure your place.