ONLINE - Creu Gwefan // Creating a Website (DIY or Web Developer?)

ONLINE - Creu Gwefan // Creating a Website (DIY or Web Developer?)

ONLINE - Creu Gwefan // Creating a Website (DIY or Web Developer?)

By Hwb Menter / Enterprise Hub

Date and time

Wed, 12 Jun 2024 03:30 - 04:30 PDT

Location

Online

About this event

  • 1 hour

(Scroll down for English)


**DIGWYDDIAD AR-LEIN**

Bydd y sesiwn yma yn egluro beth sydd ei angen i naill ai adeiladu eich gwefan eich hun neu ddod o hyd i ddatblygwr gwe i'w hadeiladu ar eich cyfer. Mae'r gweithdy hwn wedi'i anelu at bobl sydd naill ai'n dymuno cael gwefan neu wella'r un sydd ganddynt a'i hyrwyddo ar-lein.


Byddwch yn dysgu sut i ddewis yr enw parth cywir, gwe-letya a beth i chwilio amdano mewn gwefan dda. Ni fyddwch yn gallu adeiladu gwefan yn ystod y gweithdy ond bydd arddangosiadau o’r opsiynau DIY gorau gydag awgrymiadau ar beth i’w gynnwys. Mae angen i wefan edrych yn dda ond mae angen iddi fod yn effeithiol hefyd. Bydd y gweithdy hwn yn dangos i chi sut i wneud hyn.


Unwaith y bydd eich gwefan wedi'i hadeiladu, mae angen ichi ei hyrwyddo. Rydym yn esbonio'n syml sut i gael eich rhestru ar beiriannau chwilio fel Google ac yn archwilio opsiynau eraill ar gyfer cael cwsmeriaid i'ch gwefan, megis marchnata e-bost ac adeiladu lincs.


Mae Eddy Webb yn Ymgynghorydd Busnes enwog, yn arbenigwr Marchnata Digidol, yn Fentor, ac yn Siaradwr Cyhoeddus. Yn sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol InSynch, mae gan Eddy hanes o greu a gweithredu strategaethau marchnata digidol ar gyfer busnesau mawr a bach. Gan weithio ym maes ymgynghori busnes a TG ers dros 25 mlynedd, mae Eddy wedi datblygu arbenigedd sylweddol mewn cymhwyso technoleg ddigidol i gyflawni nodau busnes.


Bydd niferoedd y mynychwyr yn cael eu cadw'n fach i alluogi pawb i ddod i adnabod ei gilydd a chreu cysylltiadau. Ethos yr Hwb Menter yw creu cymuned o unigolion yn yr run sefyllfa fydd yn gallu cefnogi ac annog ei gilydd mewn busnes. Bydd trosolwg o'r gefnogaeth bellach sydd ar gael o'r Hwb Menter hefyd yn cael ei ddarparu.


Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal yn Saesneg, os hoffwch i ni drefnu cyfieithydd ar y pryd gadewch i ni wybod o flaen llaw os gwelwch yn dda.


Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Mae hefyd yn cael ei gyllido'n rhannol gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy'n eiddo llwyr i'r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).


- - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - - -


**ONLINE EVENT**

This session will explain what is required to either build your own website or find a web developer to build it for you. This workshop is aimed at people who either wish to get a website or improve the one that they have and promote it online.


You will learn how to pick the right domain name, web hosting and what to look for in a good website. You won’t be able to build a website during the workshop but there will be demonstrations of the best DIY options with tips on what to include. A website needs to look good but also needs to be effective. This workshop will show you how.


Once your website is built, you need to promote it. We explain in simple terms how to get listed on search engines such as Google and explore other options for getting customers to your website, such as email marketing and link building.


Eddy Webb is a renowned Business Consultant, Digital Marketing expert, Mentor, and Public Speaker. Founder and CEO of InSynch, Eddy has a track record in creating and implementing digital marketing strategies for businesses large and small. Working in business consultancy and IT for over 25 years, Eddy has developed significant expertise in the application of digital technology in achieving business goals.


Attendee numbers will be kept small to enable everyone to get to know each other and create connections. The Enterprise Hub's ethos is to create a community of like-minded individuals able to support and encourage each other in business. An overview of what further support is available from the Enterprise Hub will be also be provided.


This project is part-funded by the UK government through the UK Shared Prosperity Fund via Cyngor Gwynedd & Isle of Anglesey County Council. It is also part-funded by Nuclear Restoration Services (NRS) a wholly owned subsidiary of the Nuclear Decommissioning Authority (NDA).

Tickets

Organised by

Ydych chi eisiau cefnogaeth busnes, gofod cydweithio, digwyddiadau wedi'u teilwra i chi, ac aelodaeth i Glwb Hwb sy'n llawn pobl tebyg? Dewch i fod yn aelod o'r Hwb Menter - cefnogaeth i'ch busnes yng Ngwynedd a Ynys Mon! www.hwbmenter.cymru

Do you want dedicated business support, co-working space, tailored events, and a membership to a Hub Club full of like-mided people? Come and join the Enterprise Hub - support for your business in Gwynedd & Anglesey! www.hwbmenter.cymru