Pasport CRISP Accredited Training

Pasport CRISP Accredited Training

By CULT Cymru (Bectu, Equity, MU, WGGB)

Pasport Diogelwch Diwydiannau Creadigol achrededig/Creative Industries' Safety Passport

Date and time

Location

Online

Good to know

Highlights

  • 8 hours
  • Online

Refund Policy

Refunds up to 7 days before event

About this event

Mae CULT Cymru yn rhaglen sgiliau a gefnogir trwy Cronfa Ddysgu Undebau Cymru Llywodraeth Cymru.

/

CULT Cymru is a skills programme supported through the Welsh Government's Union Wales Learning Fund.

Pris Arferol / Usually: £110

Aelodau Undeb / Union Members: £20

Cwmniau / Employers etc: £75

CRISP:

Pasport Diogelwch Diwydiannau Creadigol

/

The Creative Industries' Safety Passport

Amser y cwrs/Time of course - 9.00am - 5.00pm

[Cynhelir y cwrs yn Gymraeg, gweler isod am fanylion dwyieithog.

/

This course will be led in English, please see below for further details ]

Beth yw pasport diogelwch y diwydiannau creadigol?

Dyma gwrs iechyd a diogelwch undydd a gynlluniwyd yn benodol ar gyfer gweithwyr ffilm, teledu, theatr a digwyddiadau byw sy'n hyrwyddo diwylliant o ddiogelwch yn seiliedig ar gyfrifoldeb personol. Mae hyn yn golygu ei fod yn annog cynrychiolwyr i fod yn rhagweithiol o ran eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill.

Cymeradwyir y cwrs fel cynllun pasbort cydnabyddedig gan y sefydliad diogelwch galwedigaethol IOSH. Mae’n dilyn canllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ogystal â Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol ScreenSkills ym maes iechyd (X2,3 & 3.5) a chod ymddygiad diwygiedig Bectu. Mae'n gymhwyster Lefel 2 sy'n ddilys am 3 blynedd â llyfryn PDF a cherdyn adnabod cadarn o faint cyfleus Mae pob deiliad pasport diogelwch wedi'u cofrestru ar gronfa ddata canolog IOSH, felly mae dilysu'n broses hawdd. Gyda chynifer o gyflogwyr yn gofyn am brawf o hyfforddiant iechyd a diogelwch, dyma gymhwyster sy'n berthnasol i holl weithwyr y diwydiannau creadigol; llawrydd a chyflogedig

Beth yw cynnwys y cwrs?

Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â hanfodion y iechyd a diogelwch yn ogystal â chanolbwyntio ar beryglon penodol y diwydiannau creadigol. Caiff ei ddiweddaru'n rheolaidd; er enghraifft ar gyfer y gweithle wedi dyfodiad COVID-19.

Mae'r cwrs wedi'i rannu'n 4 modiwl gyda seibiant rhwng pob un:

• Cyflwyno diogelwch yn y diwydiant creadigol; mae hyn yn cwmpasu pam mae materion iechyd a diogelwch yn bwysig, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, dyletswyddau cyflogeion, hunan-gyflogedig a chontractwyr o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, polisïau iechyd a diogelwch, ac yswiriant.

• Diffinio perygl a risg; mae hyn yn ymwneud ag asesiadau risg, peryglon a risgiau, cymhwysedd, matrics risg, rheoli risg, yr hyn sy'n rhesymol yn ymarferol, asesiadau risg dynamig ac amgyffrediad o risg

Peryglon a mesurau rheoli ymarferol; mae hyn yn cynnwys trydan, offer sgrin arddangos, gweithio ar uchder, peryglon lleoliad penodol, lles, mannau cyfyng, codi a chario, llithro a thripiau, offer gwaith, sylweddau peryglus, asbestos, sŵn, hylendid personol, gyrru, dronau, trais, bygythiadau terfysgol, bwlio, straen, cyffuriau, alcohol a thân

• Gwella perfformiad ym myd diogelwch; Mae hyn yn cynnwys iechyd a diogelwch yn y gweithle, y cyfnod adeiladu, cadw pobl yn ddiogel yn y gweithle, amser gweithio, offer diogelu personol (PPE), arwyddion a signalau, cymorth cyntaf, goruchwylio iechyd, damweiniau, cofnodi damweiniau, cynrychiolwyr diogelwch ac arolygwyr diogelwch.

Arddull Dysgu ac Asesiad

Mae'r cwrs yn defnyddio cymysgedd o arddulliau dysgu, gan gynnwys fideo a thrafodaeth i wella'r profiad dysgu. Gall mynychwyr ddod â phroblemau gwirioneddol a digwyddiadau sy'n agos at fethu er mwyn cynyddu perthnasedd y cwrs. Mae'r holl hyfforddwyr wedi'u hachredu gan IOSH ac mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth a phrofiad o weithio yn y diwydiannau creadigol.

Mae gan y cwrs bapur asesu dwy ran, mae yna ugain o gwestiynau yn y rhan cyntaf, yn bennaf dewis cwestiynau aml-ddewis gydag uchafswm marc o 40 a'r ail yw dysgu cymhwyso ymarferol sy'n gofyn am ganfod peryglon a darparu mesurau i leihau'r risg, gydag uchafswm o 16 marc ar gynnig. I fod yn gymwys i dderbyn pasport mae'n rhaid i chi ennill 24 marc neu drosodd ar y rhan gyntaf a 10 marc neu drosodd yn yr ail ran. Mae angen marc pasio isaf o 34.

///

What is the Creative Industries' Safety Passport?

The Creative Industries' Safety Passport is a one-day health & safety course designed specifically for workers, employed or freelance, working in film, TV, theatre and live events. It promotes a safety culture based on personal responsibility for safety. This means that it encourages delegates to be pro-active in their own safety and the safety of others.

The course is approved by the Institution of Occupational Safety & Health (IOSH) under their Passport scheme which is a nationally recognised scheme and follows The Health & Safety Executive (HSE) syllabus guidelines as well as ScreenSkills’ National Occupational Standards in Health & Safety X2, X3 and X3.5 and Bectu's Code of Conduct (Get-ins, Fit-ups & Get-outs). It is a Level 2 qualification that is valid for 3 years and comes with a workbook PDF and a robust, tamper-proof 'credit card' size ID card. All Safety Passport holders are registered on the IOSH central database so verification is an easy process. With so many employers asking for proof of health and safety training we're providing an approved qualification that is relevant to freelance and employed creative industries workers.

What's the content of this CRISP course?

This course was redesigned post-Covid to cover essential health & safety basics as well as focusing on specific hazards that crop up in the creative industries. It is regularly updated to reflect the working environment.

The course is split into 4 modules with breaks between each one:

Introducing creative industry safety; this covers:

  • why health & safety matters
  • health & safety legislation, duties of employees, self-employed and contractors under the Health & Safety at Work Act 1974
  • health & safety policies and insurance

Defining hazard and risk; this covers:

  • risk assessments
  • hazards and risks
  • competence, risk matrix, controlling risk, what's reasonably practicable
  • dynamic risk assessments & risk perceptions

Hazards and practical control measures; this covers:

  • Electricity & display screen equipment,
  • working at height, specific location hazards,
  • welfare, confined spaces, manual handling, slips and trips,
  • work equipment, hazardous substances, asbestos, noise, personal hygiene, driving, drones
  • violence, terrorist threats, bullying, stress, alcohol & drugs and fire

Improving safety performance; this covers:

  • health & safety in the workplace,
  • the construction phase,
  • keeping people safe in the workplace, first aid, personal protective equipment (PPE), health surveillance, accidents, accident reporting,
  • working time, signs and signals, safety representatives & safety inspectors.

Teaching Style and Assessment

The course uses a mix of teaching styles; including video and discussion to enhance the learning experience. Delegates can bring real issues and near-miss incidents to increase the relevance of the course. All the trainers are IOSH accredited and have a wealth of knowledge and experience working in the creative industries.

The course has a two-part assessment paper; the first part has twenty questions [mainly multiple choice] with a maximum mark of 40, and the second is practical application learning which requires spotting hazards and providing measures to reduce the risk, with a maximum 16 marks on offer. To be eligible to receive a Creative Industries Passport you must achieve 24 marks or over on the first part, and 10 marks or over on the second part. A total minimum pass mark of 34 is required.

CULT CYMRU

Darperir gweithdai CULT Cymru mewn amgylchedd cyfeillgar ac anfygythiol ble bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i ofyn cwestiynau yn ystod y dydd.

CULT Cymru workshops are delivered in a friendly and non-threatening environment where participants will have the opportunity to ask questions and raise issues during the day.

Polisi Canslo ac Ad-daliadau:

Bydd ad-daliad llawn yn cael ei rhoi i gynrychiolwyr sy’n canslo o leiaf bythefnos cyn y digwyddiad. O fewn y bythefnos cyn y digwyddiad, oni bai ein bod ni’n gallu dod o hyd i rywun arall i gymryd eich lle, ni fyddem yn gallu rhoi ad-daliad. Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib os na fyddwch yn gallu mynychu.

Cancellation and Refunds Policy

A full refund will be issued to delegates who cancel at least 2 weeks prior to the event. Delegates who cancel within the 2 week period will not be eligible for a refund unless we are able to find someone else to take their place. Please let us know as soon as possible if you find you're no longer able to attend the workshop.

Diogelu Data /Data Protection

Darllenwch ein Polisi Preifarwydd yma

Read our Privacy Statement here

+++++++++++++++++++++++++++++++

This CRISP course is provided by Bectu.

Bectu is a sector of Prospect, and provides training courses for members and non-members. In accordance with guidance issued by the Information Commissioner’s Office (ICO), Prospect is a “data controller” for the purposes of your personal data. Prospect’s main privacy policy can be found at www.prospect.org.uk/privacy

Prospect is committed to protecting your privacy and complying with our obligations under the GDPR and Data Protection Act 2018.

Organised by

£20 – £75
Sep 16 · 01:00 PDT