Pori Drwy Stori Meithrin – Beth sydd yn fy mharsel? Cyflwyniad byr.
Event Information
About this Event
Rydym yn argymell bod o leiaf un ymarferydd o bob meithrinfa yn mynychu.
Ar gyfer y sesiwn hon, bydd angen eich bocs o adnoddau arnoch (a ddylai fod wedi cyrraedd yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 7 Rhagfyr).
Sesiwn fer 15 munud o hyd fydd hon, yn ymdrin â:
1. Hanfodion beth sydd yn y parsel 'Mae’n Amser Rhigwm!'
2. Sut i ddefnyddio pob eitem
3. Enghreifftiau o arfer dda.
Nod y rhaglen Feithrin yw cefnogi:
• Cysylltiadau positif rhwng y cartref a’r ysgol / y cartref a’r lleoliad.
• Rhieni a gofalwyr i fod yn bartneriaid gweithredol yn yr hyn y mae eu plant yn ei ddysgu
• Sgiliau llythrennedd sy’n briodol i oedran, yn canolbwyntio ar lafaredd
Fe fydd y dosbarthiadau Meithrin a fydd yn cymryd rhan yn derbyn dwy set o adnoddau Dwyieithog yn Rhad ac am Ddim (un adnodd rhigymau ac un adnodd rhannu llyfr). Y bwriad yw defnyddio’r rhain rhwng 1af Ionawr a Mehefin 2020 (tri hanner tymor). Plant dosbarthiadau Meithrin sydd yn eu dau dymor terfynol cyn iddyn nhw ddechrau mewn dosbarth derbyn yw’r plant sy’n gymwys.
Am fwy o wybodaeth: https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/poridrwystori-nursery