Os oes gan eich busnes llai na 250 o weithwyr ac wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Cymru neu Dde Orllewin Cymru efallai y byddwch yn gymwys i fynychu am ddim. Cysylltwch â workshops@rcs-wales.co.uk
Mae’r ffordd yr ydym yn dehongli’r byd o’n cwmpas a sut yr ydym yn meddwl amdanom ein hunain, yn effeithio ar y rhyngweithio a wnawn. Mae meddyliau yr ydym yn eu cael yn rheolaidd yn dechrau dod yn bethau a gredwn ac, yn y tymor hirach, gall yr hyn a gredwn ddechrau dylanwadu ar ein lles – os yw’r rhan fwyaf o’n meddyliau’n negyddol yna gallwn ddechrau creu meddyliau negyddol mwy awtomatig, felly rydym yn fwy tebygol o weld mwy o brofiadau, rhyngweithio ac ymgysylltu negyddol drwy gydol y dydd. Gall meddwl positif helpu i ail siapio ac ailgyfeirio rhai o’r meddyliau negyddol a’n helpu i ddechrau creu meddyliau awtomatig mwy cadarnhaol sy’n gallu helpu ein lles yn gyffredinol.
Yn ystod y weminar hon, byddwn yn archwilio sut y mae meddwl cadarnhaol yn gallu ein helpu i ffynnu a blodeuo yn y gweithle. Byddwn yn dysgu am strategaethau, adnoddau ac offer sy’n gallu ein helpu i ddechrau ychwanegu meddwl cadarnhaol i mewn i’n bywydau pob dydd.