This session is intended as an introduction to using focus groups. It is designed for early stage researchers or researchers who are considering using this approach and want to find out more about how to plan and facilitate effective focus groups discussion either in-person or via zoom.
The session will include a brief introduction and overview of focus group methodology including consideration of when and where to use them. The session will then cover the practical stages of planning a focus group or series of focus group discussions. Followed by a practical where attendees participate in or watch other attendees participate in a short example focus group. Recorded materials will be used to facilitate the session as well. The focus will be on key issues to address in practice. The session will conclude with a summary which highlights key considerations and tips for best practice.
Bwriedir i'r sesiwn hon fod yn gyflwyniad i ddefnyddio grwpiau ffocws. Mae'n addas ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar neu ymchwilwyr sy'n ystyried defnyddio'r ymagwedd hon ac sy'n awyddus i ddysgu rhagor am sut i gynllunio a hwyluso trafodaeth effeithiol mewn grwpiau ffocws, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy Zoom.
Bydd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad a throsolwg byr o fethodoleg grŵp ffocws gan gynnwys ystyried pryd a ble i'w defnyddio. Yna bydd y sesiwn yn trafod y camau ymarferol sydd ynghlwm wrth gynllunio grŵp ffocws neu gyfres o drafodaethau grŵp ffocws. Wedyn bydd sesiwn ymarferol lle caiff cyfranogwyr gyfle i gymryd rhan mewn enghraifft fer o grŵp ffocws neu i wylio eraill yn cymryd rhan. Defnyddir deunyddiau wedi'u recordio i hwyluso'r sesiwn hefyd. Bydd y pwyslais ar faterion ymarferol allweddol i fynd i'r afael â nhw. Ar ddiwedd y sesiwn bydd crynodeb sy'n amlygu ystyriaethau allweddol ac awgrymiadau ar gyfer arfer gorau.