
RCE Cymru
Date and time
Description
It’s good to share – Universities joining forces to put the Well-being of Future Generations Act into practice
(Please scroll down for English)
Gwerth mewn sgwrs – Prifysgolion yn dod at ei gilydd i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith
Pwrpas y digwyddiad hwn yw dod â chylchoedd o ddiddordeb sy'n dechrau egino yn sgîl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y sector addysg uwch (AU) i sylw'r amrywiaeth eang o wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a'u gwahodd i ymuno â ni ar daith tuag at ffordd gydweithredol o weithio. Er nad yw'n ofynnol i'r sector addysg uwch gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol mae ’na nifer o bobl yn y sector wedi'i chroesawu.
Mae’r ‘grŵp cenedlaethau'r dyfodol y prifysgolion’ (HEFGG) wedi bod yn cyfarfod ers nifer o flynyddoedd ac yn trafod yn gyson sut mae’r sefydliadau unigol yn gweithredu arferion datblygu cynaliadwy. Y teimlad oedd bod angen herio aelodau’r grŵp i wneud pethau'n wahanol. O ganlyniad maent yn gweithio gyda'i gilydd i ddatblygu nifer o gylchoedd diddordeb er mwyn ail-lansio Canolfan arbenigedd Cymru ar gyfer Cynaliadwyedd a lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol (RCE-Cymru). Erbyn hyn mae’r grŵp am wahodd pobl o bob o bob cefndir – unigolion cyhoeddus, trydydd sector a phreifat i ymuno â nhw - os dymunwch.
Mae mantra'r grŵp fel a ganlyn: "osgoi creu mwy o waith drwy newid ein ffordd o weithio". Nid yw’n fwriad llwytho gwaith ychwanegol ar ysgwyddau pobl brysur, ond defnyddio grym y grŵp a'r cyfle i feddwl a myfyrio er mwyn gwneud cylch gorchwyl bob dydd pawb yn haws. Mae’n gŵyn gyffredin fod gan brifysgolion storfa o ymchwil defnyddiol. Ein her ni yw dod â’r wybodaeth yma i olau dydd.
Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddatblygu cysylltiadau cryfach rhwng sectorau, a fydd o fudd i bobl Cymru yn y pen draw drwy effaith y ffyrdd o weithio a saith nod llesiant a amlinellir yn y Ddeddf Llesiant.
Rydym yn gweld y digwyddiad hwn o rannu syniadau ddwy ffordd rhwng y sectorau er mwyn cyfrannu at y Gymru a garem.
Ar hyn o bryd, mae sawl cylch o ddiddordeb ar y gweill ac mae'r grŵp yn chwilio am bobl sydd â diddordeb i ymuno â ni. Hyd yma mae'r grwpiau canlynol yn dechrau egino:
• Economi gylchol (sy’n cael ei gydlynu gan Dr Gavin Bunting, Prifysgol Abertawe)
• Prifysgolion a cholegau iach (sy’n cael ei gydlynu gan Chris Deacy, Met Caerdydd)
• Adfywio (sy’n cael ei gydlynu gan Dr Sheena Carlisle a Tim Palazon, Met Caerdydd)
• Addysgu a dysgu (sy’n cael ei gydlynu gan Dr Carolyn Hayles, Prifysgol y Drindod Dewi Sant)
• Mae cyfathrebu yn thema drawsbynciol sy’n cael ei gydlynu gan Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor
Mae cylchoedd eraill yn dechrau ffurfio:
- Addysgu ar gyfer system fwyd well (Jane Powell)
- Presgripsiynau cymdeithasol (sy’n cael ei gydlynu gan Nina Ruddle, Prifysgol Glyndŵr a Dr Carolyn Wallace, Prifysgol De Cymru)
- Iaith a diwylliant (sy'n cael ei gydlynu gan Dr Elin Royles, Dr Huw Lewis a'r Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth)
- Stafelloedd sgwrsio ar gyfer byrddau gwasanaethau cyhoeddus (Nina Ruddle a Dr Einir Young – yng Ngogledd Cymru i ddechrau)
Ar gyfer pwy y mae'r seminar
Mae'r seminar hwn wedi'i anelu'n bennaf at gyrff cyhoeddus sydd â dyletswydd i adrodd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol ond mae hefyd yn agored i sefydliadau trydydd sector sydd yn rhannu diddordebau gyda’r cylchoedd.
Diolchiadau
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor ar ran yr HEFGG yn derbyn cefnogaeth Cyfrif Cyflymu Effaith yr ESRC Prifysgol Bangor ac yn cael ei gynnal mewn partneriaeth gyda Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru.
Os oes gennych unrhyw faterion neu ymholiadau ynghylch y digwyddiad hwn, anfonwch e-bost i gwenith.elias@bangor.ac.uk.
...........................................................................................................................
It’s good to share – Universities joining forces to put the Well-being of Future Generations Act into practice
This event is about bringing emerging circles of interest around the Well-being of Future Generations in the Higher Education sector (HE sector) to the attention of the wider array of public services across Wales and to invite them to join us on a journey towards a new, collaborative way of working. Whilst the HE sector is not required to comply with the Well-being of Future Generations Act (WFGA), some people within the sector have embraced it.
Having met to discuss how their institutions are implementing sustainable development practices over a number of years, the Higher Education Future Generations Group (HEFGG) has challenged itself to do things differently. They are working together on a number of circles of interest to relaunch the Wales Regional Centre of Expertise for sustainability and the well-being of current and future generations (RCE-Cymru). They would like people from all walks of life – public, third sector and private individuals to join forces with them if you so wish.
The group’s mantra is as follows: “Not more work but changing the way we work”. This is not about adding an extra burden to already busy lives, but using the power of the group and the opportunity to think and reflect to make everyone’s day job easier. It’s well known that Universities are a mine of useful research, the challenge is getting it out there to see the light of day. We want to make that happen.
This event will be a great opportunity to develop stronger links between sectors, which will ultimately benefit the people of Wales through the impact of the ways of working and seven well-being goals outlined in the WFGA.
We visualise this event as being a two way sharing of ideas between sectors to contribute towards the Wales we want.
At the moment, several circles of interest are in development and the group is looking for interested participants. So far the following groups have emerged:
- The circular economy (co-ordinated by Dr Gavin Bunting, Swansea University)
- Healthy Universities and Colleges (co-ordinated by Chris Deacy, Cardiff Met)
- Regeneration (co-ordinated by Dr Sheena Carlisle and Tim Palazon, Cardiff Met)
- Teaching and Learning (co-ordinated by Dr Carolyn Hayles, UWTSD)
- Communication is a cross-cutting theme and is co-ordinated by Bangor University’s Sustainability Lab.
Other circles are starting to form:
- Education for a better food system (Jane Powell)
- Social Prescribing (co-ordinated by Nina Ruddle, Glyndŵr University & Dr Carolyn Wallace, USW)
- Language and Culture (co-ordinated by Dr Elin Royles, Dr Huw Lewis & Prof. Rhys Jones, Aberystwyth University)
- Sounding boards for the Public Service Boards (Nina Ruddle and Dr Einir Young – in the north of Wales initially)
Who the seminar is for
This seminar is primarily aimed at public bodies with a duty to report under the Well-being of Future Generations Act but is also open to third sector organisations with shared interests in the circles of interest.
Acknowledgemets
This event, organised by Bangor University’s Sustainability Lab on behalf of the HEFGG is supported by the Bangor University ESRC Impact Acceleration Account and held in partnership with the Wales Audit Office Good Practice Exchange.
If you have any issues or queries regarding this event, please email gwenith.elias@bangor.ac.uk.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol ac i fod yn dryloyw ynghylch pa wybodaeth sydd gennym amdanoch. Mae RCE Cymru yn deall ein cyfrifoldeb tuag atoch i'ch cynorthwyo i ddeall sut a pham yr ydym yn prosesu eich data personol. Mae ein polisi a'n gweithdrefnau diogelu data yn cael eu llywodraethu gan y Rheoliad Gwarchod Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018.
Rydym yn gofyn am eich enw a'ch cyfeiriad e-bost am ddau reswm:
- Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac mae angen inni gasglu gwybodaeth er mwyn i ni allu adrodd ar effaith ein gweithgareddau i'n partneriaid, y rhai sydd wedi cydweithio â ni a’n noddwyr, Cyfrif Cyflymu Effaith ESRC Prifysgol Bangor.
- Mae hyn ar gyfer defnydd RCE Cymru yn unig a bydd y data yn cael ei gadw yn unol â pholisïau a gweithdrefnau Prifysgol Bangor (sy’n gweinyddu gwaith RCE Cymru).
- Fel y gallwn gadw mewn cysylltiad â chi ar ôl y digwyddiad, i roi adborth, i roi gwybodaeth am ddigwyddiadau tebyg, i rannu dolenni i gylchlythyrau a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ac ati.
Dim ond trwy e-bost y byddwn yn cyfathrebu gyda chi a dim ond os ydych chi wedi rhoi caniatâd isod i ni wneud hynny.
Byddwn yn cymryd lluniau yn y digwyddiad. Bydd y delweddau yn cael eu defnyddio i cyhoeddusrwydd i'n gweithgareddau cynaliadwyedd. Gall y lluniau gael eu defnyddio mewn datganiadau i'r wasg, cyhoeddusrwydd printiedig a'u cyhoeddi ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol RCE Cymru (Facebook a Twitter). Os byddai'n well gennych beidio â bod yn y lluniau, rhowch un o'r trefnwyr yn y sesiwn.
//
We are committed to protecting your personal information and to being transparent about what information we hold. RCE Cymru understands its obligations to you to help you understand how and why we process your personal data. Our data protection policy and procedures are governed by the General Data Protection Regulation (GDPR) and the Data Protection Act 2018.
We are asking for your name and email address for two reasons:
- This is a free event and we need to gather information so that we can report on the impact of our activities to our partners, those who’ve collaborated with us and our funders, Bangor University’s ESRC Impact Acceleration Account.
- This is for internal use only and the data will be kept according to Bangor University’s policies and procedures.
- So that we can keep in touch with you after the event, with feedback, with information about similar events, links to newsletters and social media platforms etc.
Communication will only be sent to you via email and only if you have given consent below.
We will be taking photos at the event. These images will be used by RCE Cymru to share news about RCE Cymru, and to publicise our sustainability activities. Images may be used in press releases, printed publicity and published on RCE Cymru’s social media platforms (Facebook & Twitter). If you would prefer not to be photographed, please let one of the organisers of the session you attend know.