SBW Network - Creating a video with your phone
Lights, Camera, Impact: Using Your Phone to Promote Your Social Business with Video. Join our friendly network & make connections
Date and time
Location
Online
About this event
- Event lasts 2 hours
Join us to learn how to make a video with your phone
Overview:In today's fast-paced digital world, video is one of the most powerful tools your social business can use to tell your story, reach new audiences, and highlight your social impact. And the best part? You don’t need expensive equipment — just your phone and a clear message.
Join our Social Business Wales network for this practical and inspiring online session designed specifically for social enterprises, charities, and community-focused organisations looking to harness the power of video content. Together with Digital Communities Wales we will learn how to plan, film, and share impactful videos that connect with your audience and promote your mission — all using the phone in your pocket.
What to Expect:
12-1pm
- Getting Started: Basics of video storytelling for social impact
- Filming Tips: How to shoot high-quality video on your phone
- Editing on a Budget: Tips to polish your content
- Sharing Strategically: Where and how to post for maximum reach
1-1:30pm
- Live Q&A: Have a go yourself & get your questions answered by our video content experts
Whether you’re just starting out or looking to improve your existing content, this event will give you the tools and confidence to start creating videos that shine a light on the amazing work you do.
This 1 hour session is suitable for beginners or to refresh your skills.
Our networks are a friendly place to meet other social entrepreneurs across Wales.
Register now to start making video work for your social business.
This session will be delivered in English but we welcome contributions in Welsh.
The Social Business Wales programme is funded through Welsh Government and delivered by a consortium led by Cwmpas to deliver specialist support with DTA Wales, Social Firms Wales, Unlimited and WCVA
Our support is free to access and as your business develops you can benefit from our wide variety of expertise.
For any questions or suggestions please contact elizabethhudson@cwmpas.coop
---
Rhwydwaith BCC – creu fideo gyda dy ffôn
Yn Llygad y Camera: Defnyddio Eich Ffôn i Hyrwyddo Eich Busnes Cymdeithasol gyda FideoDigwyddiad Ar-lein | Dydd Mawrth, 19 Awst (12pm) | Am ddim
Ymunwch â ni i ddysgu sut i recordio fideo â’ch ffôn
Trosolwg:Yn ein byd digidol chwim, fideo yw un o’r offer mwyaf pwerus y gall eich busnes cymdeithasol eu defnyddio i adrodd eich stori, cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, ac amlygu’ch effaith gymdeithasol. A’r peth gorau amdano? Does dim angen offer drudfawr arnoch chi – dim ond eich ffôn a neges glir.
Ymunwch â rhwydwaith Busnes Cymdeithasol Cymru ar gyfer y sesiwn ar-lein ymarferol ac ysbrydoledig hon. Mae’n sesiwn wedi’i hanelu’n benodol at fentrau cymdeithasol, elusennau, a sefydliadau sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sydd am harneisio pŵer cynnwys fideo. Ynghyd â Cymunedau Digidol Cymru, byddwn yn dysgu sut i gynllunio, ffilmio a rhannu fideos effeithiol sy’n cysylltu â’ch cynulleidfa ac yn hyrwyddo eich cenhadaeth – a’r cyfan drwy ddefnyddio’r ffôn yn eich poced.
Beth i’w Ddisgwyl?
12-1pm
- Dechrau Arni: Hanfodion adrodd straeon ar fideo am effaith gymdeithasol
- Awgrymiadau Ffilmio: Sut i saethu fideo o ansawdd uchel ar eich ffôn
- Golygu ar Gyllideb: Awgrymiadau ar sut i roi sglein i’ch cynnwys
- Rhannu’n Strategol: Ble a sut i bostio er mwyn cyrraedd y nifer fwyaf o bobl
1:00-1:30pm
- Sesiwn Holi ac Ateb Fyw: Rhowch gynnig arni eich hun a chael ymatebion i’ch cwestiynau gan ein harbenigwyr cynnwys fideo
P’un a ydych chi newydd ddechrau arni, neu eisiau gwella’ch cynnwys presennol, bydd y digwyddiad hwn yn rhoi’r offer a’r hyder i chi ddechrau creu fideos sy’n rhoi sylw i’r gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud.
Mae’r sesiwn awr o hyd hon yn addas i ddechreuwyr neu i’r rhai sydd am loywi eu sgiliau.
Mae ein rhwydweithiau yn lle cyfeillgar i gwrdd ag entrepreneuriaid cymdeithasol eraill o bob cwr o Gymru.
Cofrestrwch nawr i ddechrau creu fideos ar gyfer eich busnes cymdeithasol.
Cyflwynir y sesiwn hon yn Saesneg ond rydym yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg.
Ariennir rhaglen Busnes Cymdeithasol Cymru trwy Lywodraeth Cymru ac fe’i cyflwynir gan gonsortiwm dan arweiniad Cwmpas i ddarparu cymorth arbenigol gyda CYD Cymru/DTA Wales, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru/Social Firms Wales, Unlimited a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Mae ein cymorth ar gael am ddim ac, wrth i’ch busnes ddatblygu, gallwch elwa o’n hamrywiaeth eang o arbenigedd.
Ar gyfer unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau cysylltwch â ni elizabethhudson@cwmpas.coop