*** This session is held in Welsh**
Ydych chi’n weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr yng Nghymru? Ydych chi’n dod i gysylltiad â phobl a allai elwa ar gael eu cyfeirio at gyngor a chymorth lleol ynghylch budd-daliadau a materion ariannol?
Hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddechrau sgyrsiau ac wrth ddeall yn well y mathau o broblemau a all fod gan bobl? Os felly, dyma’r sesiwn i chi.
Dyma sesiwn ar-lein am ddim a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth i chi ddangos i bobl o ble y gallant gael y cymorth y gall fod ei angen arnyn nhw ac y mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Mae’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y system fudd-daliadau a chymorth arall sydd ar gael. Bydd yn dangos i chi sut y gallwch helpu pobl i oresgyn y rhwystrau a all eu hatal rhag manteisio ar eu hawliau. Bydd yn rhoi cysylltiadau ag asiantaethau eraill a all helpu pobl i hawlio a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
Cewch becyn gwybodaeth am ddim, sy’n ganllaw cyflym i’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru – pwy all gael beth, ac o ble.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y system fudd-daliadau, gallwch hefyd gael mynediad am ddim am 12 mis at nifer o gyrsiau e-ddysgu ar-lein am fudd-daliadau gan Ferret Information Systems.
Mae’r sesiwn hon hefyd ar gael yn y Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd rhagor o ddyddiadau yn cael eu hychwanegu yn nes ymlaen. Efallai y bydd angen aildrefnu dyddiadau i ateb y galw.
Mae Dangos yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.