Sgwrs gyda Martin Parr a David Hurn/A Converstion with Martin Parr & David...
Event Information
Description
Drysau'n Agor: 6:30pm - 7:30pm
Sgwrs: 7:30pm - 9:00pm
Ymunwch â ni am sgwrs gyda David Hurn a Martin Parr fydd yn trafod eu hangerdd dros gasglu ffotograffau, a sut mae ei rodd yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo, hyrwyddo a diogelu ymchwil a’i werthfawrogi yn y Deurnas Unedig.
Mae gan David Hurn enw da rhyngwladol fel un o ffotograffwyr dogfennol mwyaf dylanwadol Prydain. Cafodd ei eni yn Llundain ym 1934 ond mae ei wreiddiau yng Nghymru. Dysgu ei hun wnaeth Hurn, a daeth yn adnabyddus am ddogfennu chwyldro 1956 yn Hwngari. Daeth yn aelod cyswllt o Magnum Photos ym 1965, ac yn aelod llawn ym 1967. Ym 1973 sefydlodd Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol yng Nghasnewydd, sydd nawr yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Yn 2016, derbyniodd David Hurn gymrodoriaeth er anrhydedd gan y Royal Photographic Society. Mae’n parhau i fyw a gweithio yn Nhyndyrn, Sir Fynwy.
Ym mis Ebrill 2017, rhoddodd Hurn ddau gasgliad o ffotograffau i Amgueddfa Cymru; tua 1,500 o’i ffotograffau ei hun sy’n gofnod o 60 mlynedd o yrfa fel ffotograffydd dogfennol, a tua 700 o ffotograffau o’i gasgliad preifat o luniau y bu’n eu cyfnewid â ffotograffwyr eraill. Mae ei rodd wedi trawsnewid casgliad ffotograffau’r Amgueddfa a bydd y gweithiau yn rhan annatod o’r arddangosfeydd yn oriel ffotograffiaeth newydd yr Amgueddfa.
Mae Martin Parr yn gasglwr a ffotograffydd Prydeinig o fri. Agorwyd Sefydliad Martin Parr, canolfan newydd ar gyfer ffotograffiaeth Brydeinig a gwaith Parr, ym Mryste ym mis Hydref eleni. Yn ôl y sefydliad, eu bwriad yw “support and preserve the legacy of photographers who made, and continue to make, important work focused on the British Isles”.
Mae’r sgwrs hon yn rhan o raglen o ddigwyddiadau a drefnwyd i gyd-fynd â’r arddangosfa Llun am Lun: Ffotograffau o Gasgliad David Hurn, sydd i’w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan 11 Mawrth 2018.
Llun - DU. Lloegr. New Brighton. O'r gyfres 'The Last Resort'. 1983-85. © Martin Parr/Magnum Photos
***********************************************************************************************************************************
Doors Open: 6:30pm - 7:30pm
Discussion: 7:30pm - 9:00pm
Join us for an evening talk with David Hurn and Martin Parr who will be discussing their shared passion for collecting photography, and how their collections are being used to support and promote the preservation, research and appreciation of photography in the UK.
David Hurn has a longstanding international reputation as one of Britain’s most influential documentary photographers. Born in London in 1934 but of Welsh descent, Hurn is a self-taught photographer who gained early reputation with his reportage of the 1956 Hungarian revolution. He became an associate member of the Magnum Photos in 1965 and a full member in 1967. In 1973 he set up the School of Documentary Photography at Newport, Wales, now part of the University of South Wales.
In 2016, David Hurn was awarded an honorary fellowship of the Royal Photographic Society. He continues to live in, and work from, his home in Tintern, Wales.
In April 2017, Hurn gifted two collections of photographs to Amgueddfa Cymru-National Museum Wales; approximately 1500 of his own photographs that span his sixty-year career as a documentary photographer; and approximately 700 photographs from his private collection of ‘swaps’, which he has compiled throughout the course of his career. His gift has transformed the Museum’s national photography collections and these works will contribute to the programme of exhibitions in the Museum’s new photography gallery.
Martin Parr is an acclaimed British photographer and collector. The Martin Parr Foundation, a new centre for British photography and the works of Martin Parr, opened in October 2017 in Bristol. The foundation ‘supports and preserves the legacy of photographers who made, and continue to make, important work focused on the British Isles’.
This talk is part of the programme of events organised in conjunction with the exhibition, ‘Swaps: Photographs from the David Hurn Collection’, which is on display at National Museum Cardiff until 11thMarch 2018.
Photo - GB. England. New Brighton. From 'The Last Resort'. 1983-85. © Martin Parr/Magnum Photos