Siôn Corn a'i Ffrindiau: GARTREF | Father Christmas and Friends: AT HOME
Event Information
About this Event
[Scroll for English text or 'show more' on mobile devices]
Fel arfer adeg yma’r flwyddyn, byddem yn paratoi i groesawu ymwelwyr ifanc a hen i gwrdd â gwesteion arbennig yn ein hamgueddfeydd. Eleni, mae pethau fymryn yn wahanol...felly ymunwch â Siôn Corn, Siân Corn a’r corachod direidus am wledd o hwyl yr ŵyl o gynhesrwydd eich cartref!
Mae prynhawn llawn dop o hud a lledrith y Nadolig yn eich aros! Dyma sydd ar restr Siôn Corn eleni:
- Coginio danteithion gyda’r corachod
- Creu addurniadau arbennig gyda Siân Corn
- Dysgu am draddodiadau Nadoligaidd Cymru
- Profi eich gwybodaeth gyda Cwis Mawr y Nadolig
- Canu caneuon gyda’r corachod
- Stori o flaen y tân gan Siôn Corn
Gwybodaeth Bwysig:
- Mae’r digwyddiad yn addas i blant 3-8 oed.
- Bydd rhestr o hanfodion ar gael i’w lawrlwytho ymlaen llaw i’ch helpu chi drefnu.
- Mae'r cynnwys fideo wedi cael ei recordio o flaen llaw, ond yn cael ei ddangos fel petai yn fyw. Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y rhaglen yn y drefn sydd wedi ei nodi, ond gallwch fwynhau y gweithgareddau ar eich cyflymder eich hun.
- Bydd y cynnwys digidol ar gael i ddeiliaid tocynnau rhwng 12pm dydd Sul 13 Rhagfyr a 6pm dydd Llun 14 Rhagfyr.
- Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw.
- Archebwch 1 docyn ar gyfer bob grŵp neu deulu sy’n mynychu. Gofynnir i chi ddarparu enwau’r sawl sy’n mynychu ar ddiwedd y broses gofrestru.
- Bydd yr holl ddeunyddiau a gweithgareddau ar gyfer y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae cyfieithiad Iaith Arwyddo Prydain ac isdeitlau hefyd ar gael ar gyfer pob un o'r fideos. Sicrhewch eich bod yn dewis y tocyn cywir pan yn archebu.
--------------------------------------------------------
At this of time year, we would normally be getting ready to welcome young (and older!) visitors to meet some very special VIPs at our museums. This year, things are different…so join Father Christmas, Mother Christmas and the mischievous Elves for a feast of festive fun from the comfort of your own home!
A packed afternoon awaits with plenty of Christmas sparkle! Here’s what’s on Santa’s list:
- Make some sweet treats with the Elves
- Make your own special decorations with Mother Christmas
- Learn about Welsh Christmas traditions
- Test your Christmas knowledge in the Big Christmas Quiz
- Join the Elves for a sing-along to get you in the mood for the festive season
- Settle down with Father Christmas for a tale or two in front of the fire
Important Information:
- This event is aimed at children aged 3-8 years old.
- A downloadable essentials guide will be available in advance to help you plan your Christmas experience.
- The videos have been pre-recorded but will be shown as live. We recommend that you follow the programme in order, but you can enjoy the activities at your own pace.
- The digital content will be available to ticketholders between 12pm Sunday 13 December and 6pm Monday 14 December.
- There are a limited number of tickets available and tickets must be booked in advance.
- Please purchase 1 ticket for every group or family. You will be asked to provide attendee names at checkout.
- All materials and activities supplied for this event will be available in Welsh & English. British Sign Language translations are also available for all video content. Please ensure that you select the correct ticket at time of booking.