Systemau Ynni Hyblyg ac Integredig: cyfle clyfar / Flexible and Integrated...
Event Information
Description
Systemau Ynni Hyblyg ac Integredig: cyfle clyfar
Flexible and Integrated Energy Systems: a smart opportunity
________________________________________________________
Bydd y gweithdy hwn yn canolbwyntio ar y materion ymchwil, datblygu ac arloesi diweddaraf sy'n berthnasol i destun hynod o amserol, sef systemau ynni clyfar. Cewch glywed am yr ymchwil ardderchog sy'n cael ei wneud yng Nghymru drwy raglenni FLEXIS a SPECIFIC, y ddwy yn cael eu hariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a hefyd am gyd-destun ehangach y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd. Bydd manteision cydweithio rhyngwladol yn cael eu hystyried gan ddefnyddio enghreifftiau o brosiectau Horizon 2020 ym maes Ynni. Yn olaf, bydd effaith yr ymdrechion ymchwil amrywiol hyn ar ddatrys problemau'r byd go iawn a chyfleoedd economaidd yn cael ei harddangos drwy enghraifft safle Tata Steel ym Mhort Talbot.
Agenda:
Cadeirydd: Yr Athro Andrew R. Barron, Cadair Ymchwil Sêr Cymru mewn Carbon Isel, Ynni a’r Amgylchedd, Prifysgol Abertawe.
13:00 ymlaen: Cofrestru
13:30 Ynni: Heriau Cyfredol a Chyfleodd o safbwynt y DU, yr UE a’r Byd. Nelson Mojarro, Cynrychiolydd yn Ewrop, Cronfa Cynaliadwyedd Ynni a Chronfa Hydrocarbonau Gweinyddiaeth Ynni Mecsico
13:50 Ynni Call – Yr allwedd i gynaliadwyedd y diwydiant a’r rhanbarth. Safbwynt TATA ar Strategaeth Heriau Diwydiannol. Yr Athro Martin Brunnock, Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu, TATA Steel UK
14:10 SPECIFIC – Adeiladau fel Gorsafoedd Pŵer. Dr David Bould, Rheolwr Prosiect, Rhaglen SPECIFIC, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.
14:30 FLEXIS– yn Darparu Systemau Ynni Hyblyg ac Integredig. Yr Athro Nick Jenkins, Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Cynhyrchu a Chyflenwi Ynni Carbon Isel, Prifysgol Caerdydd.
Astudiaethau Achos:
- "Creu Gwerth o Wastraff Trefol drwy Gynhyrchu Hydrogen, Methan a Biopolymerau’n fiolegol. Dr Jaime Massanet Nicolau. Prifysgol De Cymru
- Defnydd o Wrthdröyddion Call er mwyn Gwella Gweithrediad y System Dosbarthu a'r broses o Integreiddio Ynni Adnewyddadwy yn Ne Cymru. Dr Grazia Todeschini, Prifysgol Abertawe
14:50 Manteisio ar Ganolfannau Rhagoriaeth Ewropeaidd – Achos Cryf i Gydweithio. Yr Athro Krzysztof Stanczyk, Pennaeth Canolfan Technolegau Glo Glân, Sefydliad Mwyngloddio Canolog, Gwlad Pwyl.
15:05 Meddwl yn fyd-eang, gweithredu'n lleol: Gwneud i Systemau Ynni Hyblyg ddigwydd. Dr Michael Jenkins, Uwch-swyddog Datblygu Cynaliadwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen y Bont ar Ogwr
15:20 Uned Horizon 2020 Llywodraeth Cymru. Baudewijn Morgan, Cangen Ymchwil ac Arloesi, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru.
15:35 Sesiwn holi ac ateb
16:00 Diwedd
FLEXIS: http://flexis.wales
SPECIFIC: http://specific.eu.com
Wedi ei drefnu ar y cyd gan Brifysgol Caerdydd a WEFO.
Byddwch yn ymwybodol wrth gofrestru ar gyfer y gweithdy hwn eich bod chi'n cytuno i Lywodraeth Cymru ddefnyddio eich manylion cyswllt (enw, sefydliad ac e-bost) fel y bydd angen er mwyn paratoi'r gweithdy, gan gynnwys rhannu'r manylion hyn gyda sefydliadau eraill sydd yn darparu'r gweithdai gyda ni (fel Innovate UK a Phrifysgol Caerdydd), os bydd yn briodol.
Gallem ni ddarparu rhestr o'r mynychwyr (enw, sefydliad) i gyfranogwyr y gweithdai er mwyn hwyluso cydweithio a rhwydweithio. Os hoffech chi gael eich gadael allan o'r rhestrau hyn, gadewch i ni wybod.
Croesewir cyfraniadau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg
-----------------------------------------------------
This workshop will focus on the latest research, development and innovation issues related to the hugely topical subject of smart energy systems. You will hear about the excellent research being undertaken in Wales through the FLEXIS and SPECIFIC programmes, both funded by the European Regional Development Fund, as well as the wider U.K. and E.U. context. The advantages of international cooperation will be explored using examples of Horizon 2020 projects in the Energy area. Finally, the impact of these various research efforts on the solution of real world problems and economic opportunities will be demonstrated through the example of the Tata steel site in Port Talbot.
Agenda:
Chair: Professor Andrew R. Barron, the Sêr Cymru Chair of Low Carbon Energy and Environment, Swansea University.
13:00 onwards - Registration
13:30 Energy: Current Challenges and Opportunities from UK, EU and Global perspective. Nelson Mojarro, the Representative in Europe of the Energy Sustainability Fund and the Hydrocarbons Fund of the Ministry of Energy of Mexico.
13:50 Smart Energy - The key to sustainability of the industry and the region. TATA perspective on Industrial Challenges Strategy. Prof Martin Brunnock, Manufacturing Director, TATA Steel UK
14:10 SPECIFIC - Buildings as Power Stations. Dr David Bould Project Manager, ERDF SPECIFIC programme
14:30 FLEXIS - Delivering Flexible and Integrated Energy Systems. Prof Nick Jenkins, Director of Centre for Integrated Renewable Energy Generation and Supply, Cardiff University
Case Studies:
- "Valorisation of Urban Waste through the Biological Production of Hydrogen, Methane and Biopolymers" Dr Jaime Massanet Nicolau. University of South Wales
- Use of Smart Inverters to Improve Distribution System Operation and Renewable Energy Integration in South Wales, Dr Grazia Todeschini, Swansea University
14:50 Making the most of the European Centres of Excellence – Strong Case for Collaboration. Prof Krzysztof Stanczyk, Head of Clean Coal Technologies Centre, Central Mining Institute, Poland
15:05 Think globally – Act locally: Making Smart Energy Systems Happen. Bridgend CBC smart finance strategy for heat network. Dr Michael Jenkins, Principal Sustainable Development Officer, Bridgend County Borough Council
15:20 The Welsh Government Horizon 2020 Unit. Baudewijn Morgan, Research and Innovation Branch, Welsh European Funding Office
15:35 Q&A session
16:00 Close
Jointly organised by Cardiff University and WEFO
FLEXIS: http://flexis.wales/
SPECIFIC: http://specific.eu.com/
Please note that in registering to attend this workshop you are agreeing for the Welsh Government to use your contact details (name, organisation and email) as necessary in preparation for the workshop, including sharing these with the other organisations involved in delivering the workshops (such as Innovate UK and Cardiff University) where appropriate.
We may provide workshop participants a list of the registered attendees (name, organisation) in order to facilitate collaboration and networking. If you would like to be excluded from this list please inform us.
Contributions in the medium of Welsh and English welcome.