Third Sector Strategic Plan Consultation Event - North Wales
Event Information
Description
Ar 27 Hydref 2015 byddwn yn lansio ymgynghoriad ein Cynllun Strategol am y cyfnod 2016-19. Mae Deddf Cydraddoldeb 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiwn ymgynghori ar gynllun strategol a’i gyhoeddi pob tair blynedd.
Rydym am glywed eich barn ar ein hamcanion strategol drafft a sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i symud yr agenda cydraddoldeb a hawliau dynol yn ei flaen yng Nghymru. Mae eich safbwyntiau ar y Cynllun Strategol o ddiddordeb i ni, a’r hyn yr ydych yn ystyried fyddai’r rôl fwyaf defnyddiol i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru.
Mae’n bwysig i’r Comisiwn bod ein cynllun strategol yn berthnasol i’n rhanddeiliaid a hoffem eich gwahodd i un o ddau ddigwyddiad i’r trydydd sector i’w drafod gyda ni.
Yn ystod y dydd, cawn:
- Y newyddion diweddaraf ar A yw Cymru’n Decach?, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Bydd yn adrodd ar gynnydd cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a’r heriau allweddol.
- Cyfle i drafod rôl y trydydd sector wrth ddal y sector cyhoeddus i gyfrif a chyflawni gwelliannau i wasanaeth cyhoeddus.
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at eich gweld yn y digwyddiadau hyn.
Cwestiynau cyffredinol
Lle gallaf gysylltu â’r trefnwr ynglŷn ag unrhyw gwestiynau?
Ffoniwch 02920 447710 neu anfonwch e-bost i wales@equalityhumanrights.com
On 27th October 2015 we will launch our Strategic Plan consultation for the period 2016-19. The Commission is required under the Equality Act 2006 to consult on and publish a strategic plan every three years.
We want to hear how our draft strategic objectives resonate with you and how we can work together to move the equality and human rights agenda forward in Wales. We are interested in your views on the Strategic Plan and what you see as the most helpful role for the Equality and Human Rights Commission in Wales.
It is important to the Commission that our Strategic Plan is relevant to our stakeholders and we would like to invite you to one of two third sector events to discuss it with us.
During the day there will be:
- An update of Is Wales Fairer? which will be published in December. This will report on equality and human rights progress and key challenges in Wales.
- An opportunity to discuss the role of the third sector in holding the public sector to account and achieving public service improvement.
We look forward to seeing you at these events.
FAQs
Where can I contact the organiser with any questions?
Telephone 02920 447710 or email wales@equalityhumanrights.com