Visioning Day: Creating a Fresh Vision for Food in Caerphilly
Overview
Sgroliwch i lawr am Saesneg / Scoll down for English
What would Caerphilly look like if our food system was fair, sustainable, and thriving for everyone, from seed to plate?
This hands-on event will bring together growers, producers, community groups, businesses, and changemakers to co-create a new vision for food in Caerphilly - one that celebrates local strengths, sparks collaboration, and shapes real change.
This is not a consultation - you will work in diverse teams, and co-design ideas to influence the future.
What to Expect
You will spend the day:
- Mapping assets: exploring what is already strong across Caerphilly’s food system
- Generating ideas: turning big ambitions into bold, practical solutions
- Connecting: meeting people who care about good food, good business, and good communities
Who It Is For
Anyone passionate about food, community, business, or sustainability in Caerphilly - whether you are a grower, farmer, retailer, caterer, volunteer, or simply someone who believes food should bring people together.
Come with curiosity.
Leave with connections, inspiration, and a shared vision for Caerphilly.
When and Where
Tuesday, 12th December
10:00am to 2:30pmpm (arrive from 9:30am for coffee and networking)
Venue: River Church Wales
Themes We Will Explore
- Sustainable food production
- Local business and enterprise
- Wellbeing and community resilience
- Farming, land use, growing spaces and Net Zero
If there is another area you are passionate about, bring it along - this is your space to shape ideas that matter.
Good to Know
- Tea, coffee, and lunch provided
- Free to attend
- Full-day participation encouraged
Run By
Facilitated by the Start Something Good team at Cwmpas in partnership with the Caerphilly Cares team at Caerphilly County Borough Council.
Ready to help shape Caerphilly’s food future?
Book your free place now.
For questions, contact martin.downes@cwmpas.coop with “Caerphilly Visioning Day” in the subject line.
Privacy statement
Any information that you share with us will be stored securely in line with the Cwmpas GDPR policy. (https://cwmpas.coop/privacy-policy/)
You have the right to withdraw your consent for us to use your data at any time and ask us to delete your data. If you have any questions, please contact: commercialteam@cwmpas.coop
----------------
Diwrnod Creu Gweledigaeth: Creu Gweledigaeth Newydd ar gyfer Bwyd yng Nghaerffili
Cyd-greu gweledigaeth gyffredin am system fwyd sy’n gweithio i bawb.
Sut le fyddai Caerffili pe bai ein system fwyd yn deg, yn gynaliadwy, ac yn ffynnu i bawb – o’r hedyn i’r plât?
Bydd y digwyddiad ymarferol hwn yn dod â thyfwyr, cynhyrchwyr, grwpiau cymunedol, busnesau a phobl sy’n creu newid ynghyd i gyd-greu gweledigaeth newydd ar gyfer bwyd yng Nghaerffili – un sy'n dathlu cryfderau lleol, yn sbarduno cydweithrediad, ac yn creu newid go iawn.
Nid ymgynghoriad yw hwn – byddwch yn gweithio mewn timau amrywiol i gyd-ddylunio syniadau a fydd yn dylanwadu ar y dyfodol.
Beth i'w Ddisgwyl
Byddwch yn treulio’r diwrnod yn:
- Mapio asedau: edrych ar gryfderau system fwyd Caerffili ar hyn o bryd
- Cynhyrchu syniadau: troi uchelgeisiau mawr yn atebion beiddgar, ymarferol
- Cysylltu: cwrdd â phobl sy'n poeni am fwyd da, am fusnes da, ac am gymunedau da
Digwyddiad i Bwy yw Hwn?
Unrhyw un sy'n angerddol am fwyd, cymuned, busnes, neu gynaliadwyedd yng Nghaerffili – gan gynnwys tyfwyr, ffermwyr, manwerthwyr, arlwywyr, gwirfoddolwyr, ac unrhyw rai sy'n credu y dylai bwyd ddod â phobl at ei gilydd.
Dewch yn chwilfrydig.
Gadewch gyda chysylltiadau, ysbrydoliaeth a gweledigaeth gyffredin ar gyfer Caerffili.
Pryd a Ble
Dydd Gwener, 12 Rhagfyr
10:00yb tan 2:30yp (dylech gyrraedd am 9:30am am goffi a chyfle i rwydweithio)
Lleoliad: Eglwys Afon Cymru
Themâu y byddwn yn eu trafod
- Cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy
- Busnes a menter leol
- Lles a gwytnwch cymunedol
- Ffermio, defnydd tir, mannau tyfu a Sero Net
Os ydych chi’n angerddol am faes arall, mae croeso i chi ei drafod yma hefyd – dyma le i ffurfio syniadau o bwys.
Pethau Da i’w Gwybod
- Bydd paneidiau a chinio yn cael eu darparu
- Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim
- Rydym yn eich annog i ddod am y diwrnod cyfan
Pwy Sy’n Ei Gynnal
Mae’r digwyddiad yn cael ei hwyluso gan dîm Dechrau Rhywbeth Da Cwmpas, mewn partneriaeth â thîm Gofalu am Gaerffili yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
A ydych chi’n barod i ddylanwadu ar ddyfodol bwyd Caerffili?
Archebwch le nawr.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â martin.downes@cwmpas.coop gan roi “Diwrnod Creu Gweledigaeth Caerffili (Caerphilly Visioning Day)” fel pwnc eich neges.
Datganiad preifatrwydd
Bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rannu gyda ni yn cael ei storio’n ddiogel yn unol â pholisi GDPR Cwmpas. (https://cy.cwmpas.coop/preifatrwydd/)
Mae gennych yr hawl i dynnu’ch caniatâd i ni ddefnyddio’ch data yn ôl a gofyn i ni ddileu eich data unrhyw bryd. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â: commercialteam@cwmpas.coop os gwelwch yn dda.
Good to know
Highlights
- 4 hours 30 minutes
- In person
Location
River Church Wales
10244 Tram Road
Pontllanfraith NP12 2JF United Kingdom
How do you want to get there?
Organised by
Cwmpas
Followers
--
Events
--
Hosting
--