VRSW #5
Date and time
A meet-up for the immersive technology cluster in South Wales | Grŵp cwrdd ar gyfer y clwstwr technoleg trochol yn Ne Cymru
About this event
VRSW is a meet-up for the immersive technology cluster in South Wales hosted by Creative Cardiff, in partnership with Orchard Media and Events Group Ltd.
Virtual Reality South Wales (VRSW) will next meet-up at Orchard Media and Events Group Ltd, on Thursday 28 with a focus on using virtual reality in the film and television production process.
The meet-up will bring together the cluster to hear from Dan May from Painting Practice and Marc Real from the BBC's Innovation Lounge.
Dan May co-founded Painting Practice to help pursue his passion for the combined worlds of art department and visual effects. His diverse roles over the company's 12-year history have reflected this ambition. Most recently Dan completed work on Andy Serkis' Jungle Book. Disney's Beauty and the Beast, Watership Down and is currently working on the new adaptation of His Dark Materials as an art director. Dan also loves Animation. In 2014, he had the opportunity to work with Passion Pictures as Production Designer on Nike's epic 5-minute world cup commercial "The Last Game". When not burning his eyes in front of a computer screen Dan likes to surf, hike and box.
Over the years Dan has shared his success with Bafta Nominations in Production design for Black Mirror, a Bafta win for Best VFX for Day of the Triffids and an Art Directors Guild win for Gravity
Marc Real from the BBC's Innovation Lounge will then share a short case study using 360 cameras for 'over capture' to create linear content. There will be the opportunity for a Q&A and attendees will also have time to share news, discuss projects and network as well as try a few experiences in our marketplace.
If you have any accessibility requirements please contact mailto:creativecardiff@cardiff.ac.uk.
*********
Sesiwn ar gyfer y clwstwr technoleg drochol yn Ne Cymru yw VRSW wedi’i threfnu gan Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth ag Orchard Media a Events Group Ltd.
Bydd sesiwn nesaf Realiti Rhithwir De Cymru (VRSW)yn cwrdd yn Orchard Media and Events Group Ltd, ddydd Iau 28. Defnyddio realiti rhithwir yn y broses cynhyrchu ffilm a theledu fydd y pwnc trafod.
Bydd y sesiwn yn dod â’r Clwstwr ynghyd i glywed gan Dan May o Painting Practive a Marc Real o Lolfa Arloesedd y BBC.
Fe gydsefydlodd Dan May Painting Practice am fod cyfuno byd yr adran gelf ag effeithiau gweledol yn ddyhead sy'n agos iawn at ei galon. Mae'r dyhead hwn wedi bod yn amlwg yn yr ystod eang o swyddi mae wedi bod ynddyn nhw yn ystod y 12 mlynedd y mae'r cwmni wedi bodoli. Yn ddiweddar, fe gwblhaodd waith ar ffilm Andy Serkis, Jungle Book, Beauty and the Beast Disney, Watership Down ac ar hyn o bryd mae'n gyfarwyddwr artistig ar addasiad newydd o His Dark Materials. Mae Dan hefyd yn hoffi Animeiddio. Yn 2014, fe gafodd y cyfle i fod yn Ddylunydd Cynhyrchiad gyda Passion Pictures ar hysbyseb pum munud Cwpan y Byd Nike - "The Last Game". Os nad yw'n syllu ar sgrîn cyfrifiadur mae fel arfer yn syrffio, yn crwydro neu’n paffio.
Dros y blynyddoedd mae Dan wedi bod yn llwyddiannus drwy gael ei enwebu ar gyfer Bafta am ddylunio cynhyrchiad ar gyfer Black Mirror, ac fe enillodd Bafta am y VFX gorau am ei waith ar Day of the Triffids, a Gwobr Art Directors Guild am ei waith ar Gravity.
Yna, mi fydd Marc Real o Lolfa Arloesedd y BBC yn rhannu astudiaeth achos ynghylch defnyddio camera 360 i greu cynnwys llinellog. Bydd hefyd cyfle am sesiwn holi ac ateb, i rannu gwybodaeth, i rwydweithio ac i glywed gan arbenigwr yn y diwydiant yn ogystal â rhoi cynnig ar ambell i brofiad yn ein marchnad.
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, cysylltwch â mailto:creativecardiff@cardiff.ac.uk.