Webinar – An introduction to Artist Mobility from the UK to the EU
Event Information
About this event
***ENGLISH BELOW***
Ymunwch â Gwybodfan Celf y DU ac On the Move mewn gweminar am ddim ar-lein i ddysgu am symudedd artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol o’r Deyrnas Unedig i’r Undeb Ewropeaidd yn y tymor byr, dros dro.
Gweminar fydd hon i sefydliadau, cwmnïau celfyddydol a gweithwyr creadigol proffesiynol sydd wedi’u lleoli yn y DU. Bydd yn rhoi darlun cyffredinol o’r hyn sydd wedi newid ers i’r DU adael yr UE, ac yn dangos sut y gall gweithwyr proffesiynol baratoi i weithio dramor yn y dyfodol agos.
Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan Marie Fol, Llywydd bwrdd On the Move, a fydd yn sgwrsio gydag Anita Debeare, Cyfarwyddwr PEARLE* - Live Performance Europe ac Anaïs Lukacs o MobiCulture.
Sylwch mai yn Saesneg y bydd y weminar hon.
Mae Gwybodfan Celf y DU yn bartneriaeth rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru/Cyngor Celfyddydau Cymru, Creative Scotland, Arts Council England ac Arts Council Northern Ireland.
+++++
Join Arts Infopoint UK and On the Move for a free online webinar session to learn about short-term, temporary mobility of artists and culture professionals from the UK to the EU.
This webinar is intended for UK based sector organisations, arts companies and creative professionals to provide a general overview of what has changed since the UK’s exit of the EU and how professionals can prepare for cross border work in the near future.
The session will be chaired by Marie Fol, President of the board of On the Move, in conversation with Anita Debaere, Director of PEARLE* - Live Performance Europe and Anaïs Lukacs from MobiCulture.
Please note that this webinar will be conducted in English.
Arts Infopoint UK is a partnership between Wales Arts International/Arts Council of Wales, Creative Scotland, Arts Council England and Arts Council Northern Ireland.
BIOS
On the Move
Rhwydwaith gwybodaeth ym maes symudedd diwylliannol yw On the Move. Mae ganddo 50+ o aelodau mewn dros 20 o wledydd yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Ei genhadaeth yw annog a hwyluso symudedd a chydweithredu trawsffiniol, gan gyfrannu at greu gofod cyffredin a bywiog ar gyfer diwylliant yn Ewrop, a hwnnw’n meithrin cysylltiadau byd-eang cryf. Mae gennym ddau aelod o’r Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, sef Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac Arts Council England.
+++++
On the Move is a cultural mobility information network with 50+ members in over 20 countries across Europe and internationally. Our mission is to encourage and facilitate cross-border mobility and cooperation, contributing to building up a vibrant and shared European cultural space that is strongly connected worldwide. We currently count two UK members, Wales Arts International and Arts Council England.
Marie Fol (FR | NL)
Cynghorydd llawrydd yw Marie Fol ym maes symudedd rhyngwladol artistiaid. Mae’i gwaith yn canolbwyntio ar yr Undeb Ewropeaidd. Hi yw Llywydd bwrdd On the Move, y rhwydwaith gwybodaeth am symudedd diwylliannol rhyngwladol. At hynny, mae Fol yn un o reolwyr prosiect Keychange, sy’n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn y diwydiant cerddoriaeth.
Ymhlith ei meysydd arbenigedd mae symudedd rhyngwladol artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol – gan gynnwys polisïau fisa a materion gweinyddol, ynghyd â rhaglenni ar gyfer artistiaid preswyl a pholisïau cysylltiedig. Ymhlith cyhoeddiadau eraill, roedd Fol yn gyd-awdur ar yr astudiaeth weithredol, “Mobility Scheme for Artists and Culture Professionals in Creative Europe countries” (2019).
+++++
Marie Fol is a freelance advisor on international mobility of artists, with a focus on the European Union. She serves as President of the board of On the Move, international cultural mobility information network. Additionally, Fol is one of the project managers of Keychange, promoting gender equality in the music industry.
Her areas of expertise lay in international mobility of artists and cultural professionals - including visa policies and administrative issues, as well as artist-in-residence programmes and related policies. Among other publications, Fol co-authored the operational study “Mobility Scheme for Artists and Culture Professionals in Creative Europe countries” (2019).
PEARLE*
PEARLE* - Live Performance Europe, yw ffederasiwn sefydliadau’r celfyddydau perfformio. Mae’n cynrychioli’r sector Ewropeaidd a chyflogwyr. Drwy ei gymdeithasau aelodau, mae Pearle* yn cynrychioli buddiannau dros 10,000 o theatrau, cwmnïau cynhyrchu i’r theatr, bandiau ac ensembles cerddorol, cerddorfeydd, tai opera, cwmnïau bale, cwmnïau dawns, gwyliau, lleoliadau cyngherddau, cynhyrchwyr, hyrwyddwyr, asiantau, y meysydd comedi, variété, syrcas ac adrodd straeon, ac eraill yn sector y celfyddydau perfformio a cherddoriaeth ledled Ewrop.
Mae’r aelodau yn ffederasiynau cenedlaethol, yn rhwydweithiau Ewropeaidd yn y sector perfformio byw, yn ffederasiynau y tu allan i Ewrop, ac yn gwmnïau unigol.
+++++
PEARLE* - Live Performance Europe, is the European sector and employers’ federation of performing arts organizations. Pearle* represents through its members associations the interests of more than 10,000 theatres, theatre production companies, bands and music ensembles, orchestras, opera houses, ballet, dance companies, festivals, concert venues, producers, promoters, agents, comedy, variété, circus, storytelling and others within the performing arts and music sector across Europe.
Members are national federations, European networks in the live performance, non-European federations and individual enterprises.
Anita Debaere
Anita Debaere yw Cyfarwyddwr Pearle*- Live Performance Europe. Drwy ei gymdeithasau aelodau, mae gan y ffederasiwn Ewropeaidd hwn dros 10,000 o sefydliadau’n perthyn iddo yn y sector perfformio byw ledled Ewrop. Cydnabyddir Pearle* hefyd yn gymdeithas cyflogwyr yn Ewrop, ac mae’n cymryd rhan mewn deialogau cymdeithasol yn y sector yn Ewrop. Mae gan Anita Debaere radd meistr yn y Gwyddorau Gwleidyddol a Chymdeithasol ac mewn Gwyddoniaeth Gyfathrebu o Brifysgol Ghent (BE). Mae ganddi hefyd radd uwch mewn Rheoli’r Celfyddydau o’r City University of London. Bu Anita Debaere yn gweithio yn y sector cerddoriaeth ac i gwmni ynni cyn ymuno â Pearle*. Mae Anita Debaere yn aelod o wahanol bwyllgorau llywio prosiectau Ewropeaidd, ac mae’n cael ei gwahodd yn rheolaidd i gynadleddau a chyfarfodydd rhanddeiliaid, ac i roi ei barn arbenigol am y sector i waith ymchwil ac astudiaethau, yn enwedig am symudedd diwylliannol. Mae Anita Debaere hefyd yn gwirfoddoli ar fwrdd grŵp o 11 o ysgolion cynradd ac uwchradd.
+++++
Anita Debaere is Director of Pearle*-Live Performance Europe. This European sector federation counts, through its member associations, more than 10 000 organisations in the live performance sector across Europe. Pearle* is also recognised as European employers association, taking part in European sectoral social dialogue. Anita Debaere holds a master in Political and Social sciences and Communication Science from the University of Ghent (BE). She also holds a post-degree in Arts Management from the City University of London. Anita Debaere worked in the music sector and for an energy company, before joining Pearle*. Anita Debaere sits in different steering committees of European projects, she is regularly invited at conferences, stakeholder meetings, research and studies to give expert views on sectoral questions, in particular in relation to cultural mobility. Anita Debaere also volunteers on the board of a group of 11 primary and secondary schools.
Anaïs Lukacs
Arbenigwr ar faterion gweinyddol gan gynnwys symudedd artistig, pennaeth MobiCulture, sef Gwybodfan Symudedd Ffrainc.
Canolfan adnoddau yw MobiCulture sy’n arbenigo mewn helpu artistiaid a gweithwyr proffesiynol ym maes diwylliant, a’u sefydliadau perthnasol, gyda’r elfennau gweinyddol wrth ddod i Ffrainc, ac mae’n rhoi gwybodaeth am y gweithdrefnau i’w dilyn.
++++++
Expert on administrative issues regarding artistic mobility, head of MobiCulture, the Mobility Information Point for France.
MobiCulture is a resource centre specialised in helping artists and culture professionals, and their respective organisations, with the administrative aspects of coming to France, and provides information on the procedures to follow.