Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd: Rôl Gwasanaethau Cynhwysol o Ansawdd Uchel
Just Added

Y Dechrau Gorau Mewn Bywyd: Rôl Gwasanaethau Cynhwysol o Ansawdd Uchel

By Health Improvement Division (Public Health Wales)

Digwyddiad i edrych ar rôl gwasanaethau wrth gynorthwyo babanod, plant ifanc a'u teuluoedd i gael y dechrau gorau mewn bywyd

Date and time

Location

Public Health Wales, 2 Capital Quarter

Tyndall Street Cardiff CF10 4BZ United Kingdom

Good to know

Highlights

  • 6 hours, 30 minutes
  • In person

About this event

Family & Education • Education

Mae pob plentyn yng Nghymru yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd. I fod yn iach, yn hapus, a chael y gofal a'r sylw sydd eu hangen arnynt i ddatblygu a thyfu.

Ym mis Hydref eleni, byddwn yn dod â phobl ynghyd ar gyfer digwyddiad dysgu pwysig i archwilio rôl gwasanaethau o ansawdd uchel, cynhwysol ac sy'n canolbwyntio ar y teulu wrth gefnogi babanod, plant ifanc a'u teuluoedd i gael y dechrau gorau mewn bywyd.


Trosolwg Digwyddiad:


Lleoliad: Iechyd Cyhoeddus Cymru, Rhif 2 Capital Quarter, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ

Dyddiad: 3 Hydref 2025

Amser: 09:30 ar gyfer dechrau am 10:00, gorffen am 16:00

Darperir cinio ysgafn a lluniaeth.

Mae lleoedd yn brin a byddant yn cael eu dyrannu ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. Bydd y cyfnod cofrestru'n cau ar 19 Medi 2025

Lletyir y digwyddiad gan Raglen 1000 Diwrnod Cyntaf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae'r digwyddiad yn berthnasol i bawb sy'n gweithio mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar yng Nghymru neu'n dylanwadu arnynt, gan gynnwys llunwyr polisi, ymarferwyr a phartneriaid ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a'r trydydd sector. Bydd yn cynnwys mewnwelediadau a dysgu gan sefydliadau blaenllaw ledled y DU, ochr yn ochr ag enghreifftiau o arferion da o Gymru. Bydd cyfle i gyfranogwyr gymryd rhan mewn trafodaeth a rhwydweithio, ac i ystyried sut y gall y dysgu a rennir gynorthwyo gweithredu ar draws y system ar yr adnodd a gyhoeddwyd yn ddiweddar, Y Dechrau Gorau mewn Bywyd: Fframwaith Gweithredu ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar, ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys:

  • Arbenigedd ar draws y DU ar wasanaethau ac arloesedd yn y blynyddoedd cynnar
  • Enghreifftiau o arferion da o Gymru
  • Trafodaethau bwrdd wedi'u cynllunio i gefnogi dysgu ar y cyd a chyfnewid cymheiriaid
  • Cyfleoedd i gymryd rhan mewn deialog ystyrlon


Gwybodaeth Lleoliad:


Teithio i Capital Quarter 2

Cyfeiriad Llawn

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhif 2 Capital Quarter

Stryd Tyndall

Caerdydd CF10 4BZ

Derbynfa: 02920 227744


Cyfarwyddiadau

Mae CQ2 yn daith gerdded 10 munud fer o orsafoedd trên Caerdydd Canolog a Heol y Frenhines, Caerdydd. Mae nifer o raciau beiciau o amgylch yr adeilad ac mae bysiau yn galw gyferbyn â'r adeilad.


Parcio

Nid oes lleoedd i barcio ceir ar y safle. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gyfer deiliaid bathodyn glas. Y meysydd parcio NCP agosaf yw:

Stryd Pellet CF10 4FD what3words: ///skins.author.nail

Stryd Adam CF24 2FH what3words: ///fades.work.moth


Trafodaethau Bwrdd:


Yn ystod y digwyddiad, bydd pedair trafodaeth fwrdd yn rhedeg ar yr un pryd yn y bore, a phedair sesiwn arall yn y prynhawn. Er mwyn ein helpu i drefnu’r rhain yn effeithiol, dewiswch un sesiwn i fynychu yn y bore ac un sesiwn i fynychu yn y prynhawn wrth gofrestru, os gwelwch yn dda.

Mae crynodeb o bob sesiwn wedi'i atodi i'ch e-bost gwahoddiad er mwy eich cynorthwyo i wneud eich dewisiadau.

Nodwch fod lleoedd yn gyfyngedig ar gyfer pob opsiwn ac fe'u dyrannir ar sail y cyntaf i'r felin.


Manylion cyswllt - Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â: HI-Programme.Support@wales.nhs.uk


Edrychwn ymlaen at eich croesawu.

Tîm Rhaglen 1000 Diwrnod Cyntaf, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Organized by

Free
Oct 3 · 9:30 AM GMT+1