Yoga gyda Dippy! / Dippy about Yoga!
Date and time
Refund policy
Yoga o dan sgerbwd eiconig Dippy'r Diplodocus! / Yoga under the iconic Dippy the Diplodocus skeleton!
About this event
Dyma gyfle unigryw i ymarfer yoga o dan sgerbwd eiconig Dippy'r Diplodocus! Dewch i fwynhau profiad unigryw ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, waeth beth fo lefel eich profiad yoga.
Mae'r math hwn o ymarfer corff ysgafn yn addas i bawb o bob oed a gallu. Bydd y tiwtor cymwys yn eich helpu i wneud y mwyaf o'r sesiwn, a gallwch ddechrau'r diwrnod wedi ymlacio'n llwyr.
Cynhelir y sesiynau yn ddwyieithog.
Sylwer: bydd rhaid i chi gwblhau holiadur iechyd cyn cymryd rhan yn y sesiwn.
Bydd y sesiynau'n cychwyn am 7.30am a gall gymrud 5-10 munud i gyrraedd y neuadd o'r fynedfa. Mae'n bosibl na fydd modd i chi ymuno â'r sesiwn os fyddwch chi’n cyrraedd wedi'r amser hwn, gan y gallai amharu ar fwynhad eraill.
Gallwch ddod mewn i'r Amgueddfa trwy ddrws deheuol Theatr Reardon Smith ar Blas y Parc o 7.15am ymlaen.
Mae croeso i chi ddod â'ch mat yoga eich hun, ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych un - bydd ambell un sbâr ar gael! Gallwch ddod â blanced hefyd os dymunwch.
************************************************
A unique chance to practice yoga under the iconic Dippy the Diplodocus skeleton! Whether you're new to yoga or not, this will be a one-time experience in the Main Hall of National Museum Cardiff with Dippy!
This gentle form of exercise can be done by everyone regardless of experience or age. The qualified yoga teacher will help you get the most out of your session and you can start the day feeling calm and relaxed.
The sessions will be run bilingually.
Please note you will have to complete a health questionnaire before taking part in a session.
Sessions start at 7.30am and it can take up to 5-10minutes to arrive from the entry doors. You may be refused entry if you arrive after this time as it will disturb the other participants.
Entry to the Museum will be through the South Door of the Reardon Smith Theatre on Park Place from 7.15am onwards.
You are more than welcome to bring your own yoga mat, however we will have some spare mats for new starters or if you forget! You may also like to bring a blanket.