SNAP Cymru
*Sgroliwch i lawr i gael y wybodaeth hon yn Gymraeg*
About SNAP Cymru
SNAP Cymru are the leading disagreement resolution and advocacy service in Wales, and have been for 37 years. SNAP Cymru has wealth of knowledge and experience and we hold the Legal Aid Agency’s Specialist Quality Mark for educational advice, Investing in Volunteers Quality Mark and were awarded The Queen’s Diamond Jubilee Award for Voluntary Service.
Most importantly, our service is impartial, confidential and entirely free – meaning that there are no barriers to accessing our service, particularly cost.
Additonally, we work to support parents, carers, children and young people to resolve disagreements at the earliest opportunity, reducing the need for costly legal action, stressful appeals to tribunal and escalation of complaints.
SNAP Cymru Services
Working throughout Wales from SNAP Cymru offices, drop in centres, surgeries and by providing families with home visits where necessary, we work holistically with families in an empowerment model, providing accurate information, objective advice and direct independent professional specialist casework, Avoidance of Disagreement, Disagreement Resolution, formal mediation, advocacy, support and training for a range of issues, including: discrimination, barriers to communication, exclusion from school.
We also help with complaints to School, FEI or LA. PSOW, Health and Social Care, Welsh Language Commissioner, Children’s Commissioner for Wales, Administrative Court for judicial review.
Working with families and partner statutory and voluntary sector agencies in partnership, we develop and provide services designed to meet the needs of the ‘whole family’ with an emphasis on prevention and protection to reduce the need for remedial action.
Beneficiaries are Children and Young People, Families of Children and Young People who have or may have Additional Needs, Professionals working with Children and Young People.
SNAP Cymru is rooted in local communities across Wales, giving us extensive local knowledge of processes, trends and needs. SNAP Cymru’s flexible staff and volunteers are able and willing to work collaboratively and quickly to identify and respond to emerging needs and trends.
--------------------------------------------------------------------
Am SNAP Cymru
SNAP Cymru yw’r gwasanaeth datrys anghytundebau ac eiriolaeth mwyaf blaenllaw yng Nghymru, ers 37 mlynedd. Mae gan SNAP Cymru gyfoeth o wybodaeth a phrofiad ac mae gennym Farc Ansawdd Arbenigol yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol am gyngor addysgol, Marc Ansawdd Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr a dyfarnwyd Gwobr Jiwbilî Diemwnt y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol i ni.
Yn bwysicaf, mae ein gwasanaeth yn ddiduedd, yn gyfrinachol ac yn rhad ac am ddim - sy'n golygu nad oes unrhyw rwystrau i gael mynediad i'n gwasanaeth, yn enwedig cost.
Yn ogystal, rydym yn gweithio i gefnogi rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc i ddatrys anghytundebau cyn gynted â phosibl, gan leihau’r angen am gamau cyfreithiol costus, apeliadau dirdynnol i dribiwnlys a chyfeirio cwynion at lefel uwch.
Gwasanaethau SNAP Cymru
Gan weithio ledled Cymru o swyddfeydd SNAP Cymru, canolfannau galw heibio, cymorthfeydd a thrwy ddarparu ymweliadau cartref i deuluoedd lle bo angen, rydym yn gweithio’n gyfannol gyda theuluoedd mewn model grymuso, gan ddarparu gwybodaeth gywir, cyngor gwrthrychol a gwaith achos arbenigol proffesiynol annibynnol uniongyrchol, Osgoi Anghytundeb, Datrys Anghytundeb, cyfryngu ffurfiol, eiriolaeth, cefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o faterion, gan gynnwys: gwahaniaethu, rhwystrau i gyfathrebu, gwahardd o'r ysgol.
Rydym hefyd yn helpu gyda chwynion i Ysgol, SAB neu ALl. OGCC, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Comisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Plant Cymru, Llys Gweinyddol ar gyfer adolygiad barnwrol.
Gan weithio gyda theuluoedd ac asiantaethau partner statudol a gwirfoddol mewn partneriaeth, rydym yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau sydd wedi’u cynllunio i ddiwallu anghenion y ‘teulu cyfan’ gyda phwyslais ar atal ac amddiffyn er mwyn lleihau’r angen am gamau adferol.
Y buddiolwyr yw Plant a Phobl Ifanc, Teuluoedd Plant a Phobl Ifanc sydd ag neu a allai fod ag Anghenion Ychwanegol, Gweithwyr Proffesiynol sy'n gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc.
Mae SNAP Cymru wedi’i wreiddio mewn cymunedau lleol ledled Cymru, gan roi gwybodaeth leol helaeth i ni am brosesau, tueddiadau ac anghenion. Mae staff hyblyg a gwirfoddolwyr SNAP Cymru yn gallu ac yn barod i weithio ar y cyd ac yn gyflym i nodi ac ymateb i anghenion a thueddiadau sy’n dod i’r amlwg.