Lessons from Lockdown: Mental Health

Lessons from Lockdown: Mental Health

Life has changed, work has changed, we have changed. But can we learn from our experiences?

By Platfform - the charity for mental health and social change

Date and time

Fri, 3 Jul 2020 05:00 - 06:30 PDT

Location

Online

About this event

How can we use what’s happened to build the future we want to see? What are the lessons from lockdown?

We're holding a series of Zoom conversations examining how we can learn from, and build on new ways of thinking and working that have arisen from the Coronavirus crisis.

Mental Health

What impact has fear, anxiety and stress had on individuals, colleagues, and support available during Coronavirus? Has it changed you, and how you go about your work? How have you reached out to people during isolation? What difficulties have you faced, and what have you overcome?

In this conversation we’ll share how we have risen to the challenge posed by the pandemic’s inevitable effects on mental health.

About Lessons from Lockdown

Before the virus, activists and organisations in Wales had ambitions for radical improvement and change. Influenced and inspired by both the Future Generations Act and Adverse Childhood Experiences (ACEs) research, policy and practice was shifting towards strengths-based, collaborative, relational and even kinder ways of both being and doing.

There were, of course, significant barriers to these ambitions. Some of these were deep-set and culturally-specific to communities, sectors, organisations or local areas. Others were practical, such as legislative, commissioned or process requirements. There were also the huge structural barriers, such as poverty and discrimination.

Together, we want to understand what impact the virus has had on the ambitions we held. We need to listen, share and develop the new ways of being, working and thinking that have stemmed from necessity, and allowed us to tackle the barriers we faced.

We need to make sure we don’t lose the things we’ve learnt, so that the innovation sparked by lockdown can continue to flourish.

Join us as we reflect on what we’ve discovered, learn from each other, and turn the things we’ve overcome into radical, sustainable positive change for the future. It’s time to see what lessons we can learn from lockdown.

Mae bywyd wedi newid, rydyn ni wedi newid, a does dim troi’n ôl. Ond allwn ni ddysgu o’n profiadau? Sut gallwn ni ddefnyddio’r hyn sydd wedi digwydd i greu’r dyfodol yr hoffem ei weld? Beth rydym wedi’i ganfod yn y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud?

Cyfres o sgyrsiau dros Zoom ar gyfer sefydliadau trydydd sector, gweithwyr a gweithredwyr, yn archwilio sut gallwn ddysgu o’r profiadau a datblygu ffyrdd newydd o feddwl ac o weithio sy’n codi yn sgil yr argyfwng Coronafeirws.

Iechyd Meddwl

Pa effaith mae ofn, pryder a straen wedi’i gael ar unigolion, cydweithwyr, a’r gefnogaeth sydd ar gael yn ystod y Coronafeirws? A ydyw wedi’ch newid chi, a’r ffordd rydych yn mynd o gwmpas eich gwaith? Sut ydych chi wedi bod yn estyn allan i bobl yn ystod cyfnodau o hunanynysu? Pa anawsterau rydych chi wedi’u hwynebu, a pha bethau rydych chi wedi’u goresgyn?Yn y sgwrs hon, byddwn yn rhannu sut rydym wedi ymateb i'r her a wynebwn yn sgil effeithiau anorfod y pandemig hwn ar iechyd meddwl.

Ynghylch Canfyddiadau’r Cyfyngiadau Symud

Cyn i’r firws ymddangos, roedd gan weithredwyr a sefydliadau yng Nghymru uchelgeisiau ar gyfer gwelliannau a newid radical. Dan ddylanwad a chydag ysbrydoliaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac ymchwil ar Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (Adverse Childhood Experiences/ACEs) ill dau, roedd polisi ac arfer yn symud tuag at ffyrdd o fod a gwneud sy’n canolbwyntio ar gryfderau, sy’n gydweithredol ac yn garedicach.

Roedd rhwystrau sylweddol yn wynebu’r uchelgeisiau hyn, wrth gwrs. Roedd rhai o’r rhain yn treiddio’n ddwfn a dan ddylanwad diwylliant penodol cymunedau, sectorau, sefydliadau neu ardaloedd lleol. Roedd eraill yn rhwystrau ymarferol, fel gofynion deddfwriaethol, comisiynu neu brosesau. Roedd rhwystrau strwythurol hefyd, fel tlodi a gwahaniaethu.

Gyda’n gilydd, rydym am ddeall pa effaith mae’r feirws wedi’i gael ar yr uchelgeisiau a fu gennym. Mae angen inni wrando, rhannu a datblygu ffyrdd newydd o weithio ac o feddwl sydd wedi codi o anghenraid ac a’n galluogodd i fynd i’r afael â’r rhwystrau fu’n ein hwynebu.

Mae angen inni wneud yn siŵr nad ydyn ni’n colli’r pethau rydym wedi’u dysgu, fel bod yr arloesedd a sbardunwyd o fod dan gyfyngiadau symud yn parhau i ffynnu.

Ymunwch â ni wrth inni fyfyrio ar yr hyn rydym wedi’i ddarganfod, i ddysgu gan ein gilydd, ac i droi’r pethau rydym wedi’u goresgyn yn newid radical, cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae’n bryd inni weld pa wersi allwn ni eu dysgu o’r cyfnod o gyfyngiadau symud.

Organised by

Sales Ended