Twf, Cyfle a Thegwch  | Growth, Opportunity and Fairness

Twf, Cyfle a Thegwch | Growth, Opportunity and Fairness

Cynhelir Gynhadledd Flynyddol ColegauCymru ar 23 Hydref | The ColegauCymru Annual Conference will take place on 23 October.

By ColegauCymru/CollegesWales

Date and time

Location

Cardiff City Stadium

Leckwith Road Cardiff CF11 8AZ United Kingdom

Refund Policy

Refunds up to 7 days before event.

About this event

  • Event lasts 7 hours 30 minutes

* This is a bilingual message. Scroll down for Welsh *

Bydd Cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar Dwf, Cyfle a Thegwch - a sut y gall y sector addysg bellach ysgogi newid cadarnhaol i ddysgwyr, cymunedau a'r economi yng Nghymru.

Gydag etholiad Senedd 2026 ar y gorwel, bydd y Gynhadledd yn archwilio beth sydd ei angen ar y sector gan Lywodraeth nesaf Cymru i ffynnu ac i gyflawni ei llawn botensial.

Rydym yn falch o gyhoeddi Agored Cymru fel Prif Noddwr digwyddiad eleni.

Byddwn wrth ein bodd yn croesawu'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS, a fydd yn traddodi'r prif anerchiad.

Bydd y Gynhadledd yn dod â dros 200 o randdeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt ynghyd. Bydd cyfle i gynrychiolwyr gymryd rhan mewn dadleuon panel sy'n ysgogi meddwl, gweithdai rhyngweithiol, a rhwydweithio â chyfoedion, a hynny i gyd wrth arddangos cryfder ac effaith y sector addysg bellach.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu chi ym Mis Hydref.

---

This year’s Conference will focus on Growth, Opportunity and Fairness - and how the FE sector can drive positive change for learners, communities, and the economy in Wales.

With the Senedd 2026 election on the horizon, the Conference will explore what the sector needs from the next Welsh Government to thrive and to deliver on its full potential.

We’re pleased to announce Agored Cymru as the Headline Sponsor for this year’s event.

We’ll be delighted to welcome the Minister for Further and Higher Education, Vikki Howells MS, who will deliver the keynote address.

The Conference will bring together over 200 key stakeholders, educators, and industry leaders from across Wales and beyond. Delegates will have the opportunity to take part in thought-provoking panel debates, interactive workshops, and network with peers, all while showcasing the strength and impact of the FE sector.

We look forward to welcoming you in October.

Organized by

ColegauCymru. Llais addysg bellach yng Nghymru.

Elusen addysg sy'n hyrwyddo budd cyhoeddus addysg bellach yng Nghymru yw ColegauCymru. Credwn fod gan bob dysgwr yr hawl i addysg o safon fyd-eang, a ddarperir mewn lleoliad diogel, amrywiol a chynhwysol ac o fewn sector sy'n cefnogi'r gymuned ehangach, cyflogwyr a'r economi.

CollegesWales. The voice of further education in Wales.

We are an education charity which promotes the public benefit of further education in Wales. We believe that all learners have the right to world-class education, delivered in a safe, diverse and inclusive setting and within a sector which supports the wider community, employers and the economy.

From £231.72
Oct 23 · 8:30 AM GMT+1