How to Observe and Count Birds by Sound (Citizen Science Workshop)
Can you identify birds without seeing them? Join us for a hands-on introduction to listening to birdsong as citizen science.
How to Observe and Count Birds by Sound (Citizen Science Workshop)
Can you identify birds without seeing them?
Join us for a hands-on introduction to listening to birdsong and participating in citizen science. This interactive workshop will show you how scientists and communities use sound to understand bird diversity and monitor nature.
You will:
- Learn how to identify birds by their calls and songs
- Explore how bird sounds are visualised using sonograms
- Discover how apps like Merlin identify birds using sound
- Take part in a simple citizen science bird survey
- Go outside and practice real bird monitoring
No prior experience needed—just curiosity.
Location: Treborth Botanic Garden
Duration: ~2 hours
Free event | Adults (18+)
The event will be led in English by Dr Tyler Hallman.
Sut i Arsylwi a Chyfrif Adar drwy Sain (Gweithdy Gwyddoniaeth Dinasyddion)
Allwch chi adnabod adar heb eu gweld?
Ymunwch â ni am gyflwyniad ymarferol i wrando ar ganeuon adar a chymryd rhan mewn gwyddoniaeth dinasyddion. Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn dangos sut mae gwyddonwyr a chymunedau’n defnyddio sain i ddeall amrywiaeth adar ac i fonitro natur.
Byddwch yn:
• Dysgu sut i adnabod adar wrth eu galwadau a’u caneuon
• Archwilio sut mae seiniau adar yn cael eu delweddu gan ddefnyddio sonogramau
• Darganfod sut mae apiau fel Merlin yn adnabod adar drwy sain
• Cymryd rhan mewn arolwg adar syml fel rhan o wyddoniaeth dinasyddion
• Mynd allan i ymarfer monitro adar go iawn
Dim profiad blaenorol angenrheidiol—dim ond chwilfrydedd.
Lleoliad: Gardd Fotaneg Treborth
Hyd: tua 2 awr
Digwyddiad am ddim | Oedolion (18+)
**Ar ddiwedd y digwyddiad, gofynnir i chi gymryd rhan mewn arolwg 5–10 munud fel rhan o astudiaeth o agweddau tuag at natur. Ceir manylion isod, yn Gymraeg yn gyntaf ac yna yn Saesneg. Drwy gofrestru ar gyfer y digwyddiad, byddwch yn rhoi eich caniatâd i gymryd rhan yn yr arolwg.
*At the end of the event we will ask you to take part in a 5-10 minute survey as part of a study of attitudes to nature. Details are below, first in Welsh, then in English. By registering for the event, you are consenting to take part in the survey.
TAFLEN WYBODAETH I GYFRANOGWYR A FFURFLEN CANIATÂD
WREC discipline-hopping – Canfod Sŵn a/neu mewn Barddoniaeth
Diben yr astudiaeth
Mae’r astudiaeth hon yn archwilio sut mae gwahanol ffyrdd o ymgysylltu â’r amgylchedd naturiol yn dylanwadu ar brofiadau pobl, eu canfyddiadau, a’u teimladau. Bydd cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn digwyddiad rhyngweithiol sy’n cynnwys gwrando, arsylwi, ymateb, a chyfranogiad mewn gweithgareddau sy’n ymwneud â sain amgylcheddol a natur. Yn dilyn y gweithgarwch, gofynnir i’r cyfranogwyr ateb ychydig o gwestiynau byr am eu profiadau, eu teimladau, a’u safbwyntiau ar natur a’r amgylchedd.
Beth mae’r astudiaeth yn ei chynnwys?
Os byddwch yn cytuno i gymryd rhan, byddwch yn cerdded pellter byr. Cewch gyflwyniad i dechnegau anadlu, ymwybyddiaeth o ystum, a chanolbwyntio’r sylw, a all hwyluso gwrando dyfnach. Byddwch yn treulio amser yn gwrando ar gân adar gyda’ch gilydd, ac yna’n arbrofi gyda lleisio ar y cyd fel ymateb. Gallwch ymateb mewn unrhyw iaith, neu heb iaith o gwbl.
Ar ddiwedd y digwyddiad gofynnir i chi gwblhau arolwg byr am eich profiad. Dylai’r arolwg gymryd tua 5–10 munud.
Bydd y profiad cyfan yn para tua 90–120 munud.
Eich hawliau fel cyfranogwr
Mae cymryd rhan yn gwbl wirfoddol. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan, ac mae gennych hawl i roi’r gorau iddi ar unrhyw adeg heb roi rheswm. Gallwch hefyd ddewis peidio ag ateb unrhyw gwestiwn penodol.
Ni fydd eich enw’n cael ei ddefnyddio mewn unrhyw adroddiadau na chyhoeddiadau. Bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig.
Ar ddiwedd yr astudiaeth, cynigir taleb rhodd gwerth £5 i chi fel cydnabyddiaeth o’ch amser.
Beth fydd yn digwydd i’m data?
Mae Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) yn rhoi rheolaeth i chi dros eich data personol a’r modd y caiff ei ddefnyddio. O dan GDPR, Prifysgol Bangor yw’r rheolydd data mewn perthynas â’ch data personol ac fe brosesir eich data at ddibenion yr astudiaeth hon. Y sail gyfreithiol ar gyfer yr ymchwil hon yw “tasg gyhoeddus” (tasg a gyflawnir er budd y cyhoedd). Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau mewn perthynas â data personol ar gael ar wefan y Brifysgol:
https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/dataprotection/
Bydd eich data personol adnabodadwy (megis eich enw a’ch manylion cyswllt) yn cael ei storio’n ddiogel ar ddyfeisiau diogel sydd wedi’u diogelu gan gyfrinair, ac yn cael ei ddinistrio ar ôl cwblhau’r astudiaeth. Bydd data’r astudiaeth yn cael ei storio ar rwydwaith cyfrifiadurol diogel sydd wedi’i ddiogelu gan wal dân a chyfrineiriau.
Os byddwch yn penderfynu tynnu’n ôl o’r astudiaeth, gallwch ofyn i bob un o’ch data personol gael ei ddileu. Os bydd dadansoddi’r data eisoes wedi dechrau, caiff eich data ei gadw ar ffurf wedi’i ddienwio.
Gall y set ddata lawn wedi’i ddienwio gael ei chadw mewn cronfa ddata gyhoeddus fel y gall ymchwilwyr eraill wirio ac archwilio’r canlyniadau. Bydd mynediad at eich data personol yn gyfyngedig i’r ymchwilwyr, er y gall staff awdurdodedig Prifysgol Bangor ofyn am fynediad at ddibenion archwilio o bryd i’w gilydd.
Pwy sy’n rhedeg ac yn ariannu’r astudiaeth?
Arweinir yr astudiaeth gan yr Athro Zoë Skoulding o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor. Ariennir yr astudiaeth hon drwy gronfa hadau “discipline-hopping” WREC Prifysgol Bangor.
Pwy sydd wedi adolygu’r astudiaeth?
Mae’r astudiaeth wedi derbyn barn ffafriol gan Bwyllgor Moeseg Ymchwil Cymeradwy Prifysgol Bangor (Cyf.: 1507).
Gyda phwy y dylwn gysylltu os oes gennyf bryderon?
Os oes gennych bryder ynghylch unrhyw agwedd ar yr astudiaeth hon, cysylltwch â’r Athro Zoë Skoulding (z.skoulding@bangor.ac.uk). Byddwn yn ceisio ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.
Os ydych yn dymuno mynd â’r mater ymhellach neu wneud cwyn ffurfiol wedyn, cysylltwch â Swyddog Llywodraethu ac Polisi Ymchwil Uwch Prifysgol Bangor, Gwasanaethau Llywodraethu, Bangor; e-bost: seniorresearchgovofficer@bangor.ac.uk.
Cwestiynau caniatâd
A ydych yn cytuno i gymryd rhan yn yr astudiaeth hon?
Bydd cofrestru ar gyfer y gweithdy yn cael ei ystyried yn arwydd eich bod yn dymuno cymryd rhan.
Peidiwch â chofrestru ar gyfer y gweithdy os nad ydych yn dymuno bod yn rhan o’r astudiaeth.
PARTICIPANT INFORMATION SHEET AND CONSENT FORM
WREC discipline-hopping – Finding Sound and/in Poetry
Purpose of the study
This study explores how different ways of engaging with natural environments influence people’s experiences, perceptions, and how they feel. Participants will take part in an interactive event involving listening, observation, response, and participation in environmental sound and nature-based activities. Following the activity, participants will be asked a few short questions about their experiences, feelings, and views on nature and the environment.
What is involved in the study?
If you agree to participate, you will walk a short distance. You will be given an introduction to techniques for breathing, posture and focusing attention that can enable deeper listening. You will spend time listening to birdsong together and then experiment with vocalising as a group in response. You can respond in any language, or no language at all.
At the end of the event you will be asked to take a survey about your experience. The survey should take about 5 – 10 minutes.
The full experience will take approximately 90-120 minutes.
Your rights as a participant
Participation is completely voluntary. You do not have to take part, and you may stop the at any time without giving a reason. You may also choose not to answer any specific question. Your name will not be used in any reports or publications. The information you provide will be treated confidentially and used only for research purposes.
At the end of the study, you will be offered a £5 gift card for your time.
What will happen to my data?
The Data Protection Act 2018 and UK General Data Protection Regulations allow you control over your personal data and how it is used. Under GDPR, Bangor University is the data controller in relation to your personal data and will process your data for the purposes of this study. The lawful basis for this research is of 'public task' (a task performed in the public interest). Further information about your rights over personal data is available from the University’s web site at https://www.bangor.ac.uk/governance-and-compliance/dataprotection/.
Your identifying personal data (such as your name and contact details) will be securely stored on password protected devices and then destroyed once the study has been completed. Study data will be stored on a password-protected firewalled computer network. If you decide to withdraw from the study, you can request the deletion of all your personal data. If data analysis has started, your study data will be retained in an anonymised form. The fully anonymised dataset from the study may be deposited on a publicly available data repository so that other scientists can check and examine our results themselves. Access to your personal data will be restricted to the researchers although occasionally authorised Bangor University staff can request access for auditing purposes.
Who is running and paying for the study?
The study is led by Prof Zoë Skoulding of Bangor University's School of Arts, Culture and Language. This study is funded by Bangor University’s WREC discipline-hopping seed corn fund.
Who has reviewed the study?
The study has been given a favourable opinion by a Bangor University Approved Research Ethics Committee (Cyf. / Ref.: 1507).
Who do I contact if I have concerns about the study?
If you have a concern about any aspect of this study, please contact Prof Zoë Skoulding (z.skoulding@bangor.ac.uk). We will attempt to contact with a response within 5 working days. If, after that, you wish to take the matter further or make a formal complaint, please contact Bangor University's Senior Research Governance & Policy Officer, Governance Services, Bangor; e-mail: seniorresearchgovofficer@bangor.ac.uk.
Consent questions
Do you agree to take part in this study?
Signing up for the workshop will indicate that you wish to take part.
Please do not sign up for the workshop if you do not want to be part of the study.
Good to know
Highlights
- 2 hours
- ages 18+
- In person
- Free parking
- Doors at 7:40 AM
Location
Treborth Botanic Garden
University
Bangor LL57 2RQ
How do you want to get there?
