Book Launch: “How to build a Metro”, with  author Professor Mark Barry

Book Launch: “How to build a Metro”, with author Professor Mark Barry

One view of the collective effort behind the advocacy and development of the Cardiff Capital Region Metro (or South Wales Metro)

By School of Geography & Planning, Cardiff University

Date and time

Tuesday, May 27 · 5:30 - 7:30pm GMT+1

Location

Committee Room 1, Glamorgan Building

King Edward VII Avenue Cardiff CF10 3WA United Kingdom

About this event

  • Event lasts 2 hours

Date: Tuesday 27 May 5:30 for 6PM

Location – The Glamorgan Building (School of Geography and Planning) at Cardiff University. Metro discussion in lecture theatre -1.64 and drinks reception in the Glamorgan Committee rooms.


Transport for Wales are currently implementing a £1Bn upgrade to the Core Valley Lines (CVL) as part of “the South Wales Metro”, with electrification and new rolling stock about to transform the customer experience. This once in a generation programme has been majority funded by Welsh Government. During 2026, the current phase of this wider Metro programme, focussed on the CVL, should be complete. By then we will see new tram trains running up and down the valleys serving Merthyr, Treherbert and Aberdare with 4tph, and up to 12tph running through Pontypridd toward Cardiff Central and the Bay. The lines from Penarth and through Central and Queen St to Caerphilly/ Rhymney and to Coryton will see new Stadler Flirt Trimodes. Across the majority of CVL network, journey times will be reduced, and capacity & service frequency doubled. This will deliver major mode shift, reduce car dependency, resulting in fewer road traffic accidents and improved air quality. It also offers a catalyst for more transit-oriented development in/around stations across the Metro network and the opportunity of broader benefits beyond just transport across the region.


Leveraging the tram-train capability, Cardiff Council have secured funding for the first phase of its ambitious Crossrail plans which will directly connect Cardiff Central to the Bay via a new tramway link across Callaghan Square unlocking further development in Cardiff Bay. This is the essential first and “keystone” phase of the larger programme that will see Cardiff Crossrail extend to the west via the City Line and onto RCT (the “NW Corridor”) and to Penarth, and east from Central, via Phase 1a and the Bay Line and onto to Roath Dock, Splott/Tremorfa and an interchange with the SWML at the new “Burns” station proposed at Cardiff East/Tremorfa. In its full form (including the Radyr/Coryton link) the Cardiff Crossrail scheme has the potential to deliver the most mode shift and most economic benefits of any scheme in Wales.


At this event, the original architect of the Cardiff Region/South Wales Metro concept, Mark Barry, Professor of Practice in Connectivity at Cardiff University’s School of Geography and Planning, will talk about his book “How to build a Metro” and recount how we got a Metro, why we need Metros, what we get in this stage and what we still need to do – especially in Cardiff. Mark will be accompanied on a panel by Marie Daly, the new COO of Transport for Wales, who also has responsibility for Bus operations and rail/bus integration post Welsh Governments planned Bus Reform legislation, and Andrew Gregory, Director of Planning, Transport and Environment at Cardiff Council and leading on Cardiff Crossrail (inc. the vital next stage Crossrail Phase 2 which will see metro 4tph services delivered across the city, new stations and the Crossrail “Station Link” connection to the west) and the Metro Central Developments in the city.


If you want to find out more about what the Metro is, why we are doing it, and what is still to come, please register here.


5:30-6:00 Drinks reception

6:00-6:40 Mark Barry

6:40-6:45 Marie Daly

6:45-6:50 Andrew Gregory

6:50-7:10 Panel Discussion and Q&A




Dyddiad: Dydd Mawrth 27 Mai 5:30 am 6pm

Lleoliad – Adeilad Morgannwg (Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio) ym Mhrifysgol Caerdydd. Trafodaeth am y Metro yn y ddarlithfa -1.64 a derbyniad diodydd cyn/ar ôl y digwyddiad yn ystafelloedd Pwyllgor Morgannwg.


Mae Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn rhoi £1Bn ar gyfer gwaith i uwchraddio Rheilffyrdd Craidd y Cymoedd (CVL) fel rhan o “Fetro De Cymru”, gyda thrydaneiddio a cherbydau newydd ar fin trawsnewid profiad y cwsmer. Mae’r rhaglen unwaith-mewn-cenhedlaeth hon wedi’i hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod 2026, dylai cam presennol y rhaglen Metro ehangach hon, sy’n canolbwyntio ar y CVL, fod wedi’i gwblhau. Erbyn hynny byddwn yn gweld tram-drenau newydd yn rhedeg i fyny ac i lawr y cymoedd yn gwasanaethu Merthyr, Treherbert ac Aberdâr gyda 4 trên yr awr, a hyd at 12 trên yr awr yn rhedeg trwy Bontypridd i gyfeiriad Caerdydd Canolog a'r Bae. Bydd y llinellau o Benarth a thrwy Caerdydd canolog Stryd y Frenhines i Gaerffili/ Rhymni ac i Coryton yn cludo unedau tri modd FLIRT Stadler. Ar draws y rhan fwyaf o rwydwaith CVL, bydd amseroedd teithio yn cael eu lleihau, a bydd nifer ac amlder gwasanaethau yn cael eu dyblu. Bydd hyn yn sicrhau newid modd mawr ac yn lleihau dibyniaeth ar geir, gan arwain at lai o ddamweiniau traffig ffyrdd a gwell ansawdd aer. Mae hefyd yn sbardun ar gyfer datblygiadau sy’n canolbwyntio’n fwy ar drafnidiaeth mewn/o amgylch gorsafoedd ar draws rhwydwaith y Metro a’r cyfle i gael buddion ehangach y tu hwnt i drafnidiaeth yn unig ar draws y rhanbarth.


Gan fanteisio ar y gallu i ddefnyddio tram-drenau, mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cyllid ar gyfer cam cyntaf ei gynlluniau Crossrail uchelgeisiol a fydd yn cysylltu Caerdydd Canolog yn uniongyrchol â’r Bae drwy gyswllt tramffordd newydd ar draws Sgwâr Callaghan gan ddatgloi datblygiadau pellach ym Mae Caerdydd. Dyma gam cyntaf a cham allweddol hanfodol y rhaglen ehangach a fydd yn gweld Crossrail Caerdydd yn ymestyn i’r gorllewin drwy Linell y Ddinas ac ymlaen i RCT (Coridor y Gogledd-orllewin”) ac i Benarth, ac i’r dwyrain o Gaerdydd Canolog, trwy Gam 1a a Llinell y Bae ac ymlaen i Ddoc y Rhath, y Sblot/Tremorfa a chyfnewidfa gyda’r SWML yng ngorsaf newydd “Burns” arfaethedig yn Nwyrain Caerdydd/Tremorfa. Ar ei ffurf lawn (gan gynnwys cyswllt Radur/Coryton) mae gan gynllun Crossrail Caerdydd y potensial i sicrhau’r newid mwyaf o ran modd a’r buddion economaidd mwyaf o unrhyw gynllun yng Nghymru.


Yn y digwyddiad hwn, bydd pensaer gwreiddiol y cysyniad o Ranbarth Caerdydd/Metro De Cymru, Mark Barry, Athro Ymarfer mewn Cysylltedd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yn siarad am ei lyfr “How to Build a Metro” ac yn esbonio sut mae gennym Fetro, pam mae angen Metro arnom, yr hyn a gawn yn y cam hwn a beth sydd angen i ni ei wneud o hyd – yn enwedig yng Nghaerdydd. Bydd Mark yn cael ei gefnogi yn hyn o beth gan Marie Daly, Prif Swyddog Gweithredol newydd Trafnidiaeth Cymru, sydd hefyd â chyfrifoldeb am weithrediadau bysus ac integreiddio rheilffyrdd/bysus ar ôl deddfwriaeth Diwygio Bysus arfaethedig Llywodraeth Cymru, ac Andrew Gregory, Cyfarwyddwr Cynllunio Cyngor Caerdydd sy’n arwain ar Crossrail Caerdydd (gan gynnwys cam nesaf hanfodol Cam 2 Crossrail a fydd yn gweld gwasanaethau Metro 4 trên yr awr yn cael eu darparu ar draws y ddinas, gorsafoedd newydd a’r Metro Links ar gyfer cyswllt “Station Link” Crossrail i’r gorllewin) a Datblygiadau Canolog y Metro yn y ddinas.


Os ydych am gael rhagor o wybodaeth am beth yw’r Metro, pam rydym yn gwneud hyn, a beth sydd eto i ddod, cofrestrwch yma.

5:30-6:00 Derbyniad diodydd

6:00-6:40 Mark Barry

6:40-6:45 Marie Daly

6:45-6:50 Andrew Gregory

6:50-7:10 Trafodaeth Banel a Sesiwn Holi ac Ateb.

Organized by