Explore the Boundless World of XR Production - Archwiliwch Fyd Diderfyn XR
Ymunwch â ni i dreiddio i fyd deinamig XR. // Join us for a deep dive into the dynamic world of Extended Reality (XR) Production.
[English below]
Dewch i dreiddio i fydysawd Cynyrchiadau XR. Cewch eich tywys gan ein harbenigwr, Alex Counsell, sydd â phrofiad helaeth o feysydd Recordio Symudiadau, Effeithiau Gweledol (VFX), Cynyrchiadau Rhithwir, ac XR. Mae ei angerdd dros gyfuno technoleg a chreadigrwydd wedi arwain at waith arloesol sydd wedi trawsnewid diwydiannau.
Yn rhan o wythnos Arloeswyr Preswyl Media Cymru gydag Alex Counsell
Beth i'w ddisgwyl:
- Archwilio Rhyngweithiol: Camwch i fyd XR, lle mae’r gwahaniaeth rhwng realiti a'r rhithwir yn aneglur.
- Technoleg Arloesol: Dewch i weld sut mae'r dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i greu profiadau gwirioneddol anhygoel.
- Cymhwyso yn y Byd Go Iawn: Cewch wybod sut mae XR yn chwyldroi amrywiol feysydd, o adloniant i addysg.
- Llwyddiannau: Dysgwch am waith diweddar Alex Counsell, sy'n cynnwys recordio symudiadau, cynyrchiadau rhithwir, a pherfformiadau rhyngweithiol.
- Gwybodaeth am Gyllid: Cewch wybodaeth am sut i gael arian ar gyfer prosiectau XR arloesol gan sefydliadau fel Arts Council England, Digital Catapult, ac Innovate UK.
Partneriaethau yn y Diwydiant:
Mae Alex Counsell wedi gweithio gyda sefydliadau blaenllaw, gan gynnwys The Royal Shakespeare Company, Marshmallow Laser Feast, The London Symphony Orchestra, a llawer mwy. Mae ei daith yn dangos sut mae realiti estynedig yn gallu trawsnewid.
Rôl CCIXR:
Alex Counsell yw Cyfarwyddwr Technegol y Ganolfan Realiti Creadigol a Throchi ac Estynedig (CCIXR) ym Mhrifysgol Portsmouth, ac mae’n arwain sefydliad sy'n llywio dyfodol XR. Mae CCIXR yn agor drysau i ddatblygu cyfleusterau blaengar, gan wthio ffiniau ym meysydd cynhyrchu a chyflwyno. Drwy gynnal prosiectau masnachol arloesol ac ym maes Ymchwil ac Arloesedd (R&I), maent yn newid y ffordd yr ydym yn trin llifoedd gwaith a methodolegau.
Un o’r agweddau sy’n unigryw i CCIXR yw ei hymrwymiad i feithrin y genhedlaeth nesaf o dalent. Drwy wneud ymdrech i gynnwys myfyrwyr mewn prosiectau yn y diwydiant wrth iddynt ddilyn eu hastudiaethau, mae CCIXR yn meithrin talent newydd sydd eisoes yn cael effaith ledled y byd.
Pwy ddylai fynd:
- Pawb sy’n ymddiddori yn XR
- Pobl greadigol
- Technolegwyr
- Myfyrwyr
- Gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant
Peidiwch â cholli'ch cyfle:
Y dadansoddiad manwl hwn o Gynyrchiadau XR yw eich cyfle i gysylltu â’r rhai sy’n torri tir newydd a dysgu sut mae XR yn trawsnewid ein byd. Cadwch eich lle nawr a chymryd rhan yn y daith ryngweithiol hon.

Part of Media Cymru's Innovators in Residence Extended Reality (XR) Week with Alex Counsell.
Dive deep into the universe of XR Production with our expert guide, Alex Counsell, whose extensive expertise spans Motion Capture, Visual Effects (VFX), Virtual Production, and XR. His passion for the intersection of technology and creativity has led to groundbreaking work that has transformed industries.
What to Expect
- Immersive Exploration: Step into the world of XR, where reality blurs with the virtual.
- Cutting-Edge Technology: Discover how the latest tech is used to create mind-bending experiences.
- Real-World Applications: Learn how XR is revolutionizing various fields, from entertainment to education.
- Success Stories: Gain insights into Alex's recent work, including real-time motion capture, virtual production, and immersive performances.
- Funding Insights: Understand the process of securing funds for innovative XR projects.
Industry Collaborations
Alex Counsell has worked with renowned industry giants, including The Royal Shakespeare Company, Marshmallow Laser Feast, The London Symphony Orchestra, and many more. His journey is a testament to the transformative power of XR.
The Role of CCIXR
As the Technical Director for the Centre for Creative and Immersive & extended Realities (CCIXR) at the University of Portsmouth, Alex Counsell spearheads an institution that's shaping the future of XR. CCIXR opens doors to cutting-edge facilities, pushing the boundaries of production and delivery methods. Through groundbreaking commercial and Research & Innovation (R&I) projects, they are changing the way we approach workflows and methodologies.
One unique aspect of CCIXR is its commitment to nurturing the next generation of talent. By actively involving students in industry projects while they pursue their studies, CCIXR is creating a new talent pipeline that's already making waves worldwide.
Who Should Attend
- XR Enthusiasts
- Creatives
- Technologists
- Students
- Industry Professionals
Don't Miss Your Chance
This deep dive into XR Production is your chance to connect with visionaries and learn how XR is transforming our world. Secure your spot now and be part of this immersive journey.