Rydym yn falch o’ch gwahodd i’n digwyddiad Taith i Gymru sero net 2025. Cynhelir y digwyddiad hwn gan Salix, Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru.
Byddwn yn dod â siaradwyr o ystod eang o sectorau i rannu eu syniadau, eu gweledigaethau, a’u darganfyddiadau, ac adeiladu rhwydwaith o ddysgu ar y daith i sero net. Mae hwn hefyd yn gyfle gwych i gydnabod, dathlu a thrafod mentrau carbon isel sydd wedi eu cyflwyno gan gyrff y sector cyhoeddus ledled Cymru.
Bydd hefyd yn gyfle i rwydweithio a dysgu gan gymheiriaid a bydd yn lle i sefydliadau drafod esiamplau arfer gorau i symud tuag at y nod hwnnw o sero net erbyn 2030.
Mae'r digwyddiad hwn wedi'i gynllunio ar gyfer mynychwyr y sector cyhoeddus – mae am ddim i ddod iddo, ond mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly bydd yn rhaid cadw lle ymlaen llaw.
Ble a pryd
Venue Cymru, Llandudno: Dydd Mercher, 11 Mehefin , 10 yb i 4 yp
Siaradwyr i’w cyhoeddi