Monitro glöynnod byw a chymryd rhan|Butterfly monitoring - getting involved
Just Added

Monitro glöynnod byw a chymryd rhan|Butterfly monitoring - getting involved

Sesiwn hyfforddi ar drawslun UKBMS y Gogarth|UKBMS (UK Butterfly Monitoring Scheme) transect training session on the Great Orme

By Cryptic Creatures of the Creuddyn

Date and time

Thursday, June 5 · 1 - 3:30pm GMT+1

Location

Great Orme Country Park|Parc Gwledig y Gogarth

Great Orme Country Park Llandudno LL30 2XF United Kingdom

About this event

  • Event lasts 2 hours 30 minutes

SCROLL DOWN FOR ENGLISH -


Digwyddiad yn rhan o brosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn, Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy:

Mae'r Gogarth yn un o'r lleoliadau mwyaf enwog ar gyfer glöynnod byw ym Mhrydain. Dewch i ymuno â Siôn Dafis (prosiect Creaduriaid Cudd y Creuddyn) i gerdded rhan o drawslun y cynllun monitro glöynnod byw UKBMS ar y Gogarth. Os bydd y tywydd yn caniatáu, byddwn yn gweld amrywiaeth o löynnod byw a gwyfynod.

Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at naturiaethwyr sydd eisiau dysgu mwy am UKBMS (yn hytrach na theuluoedd â phlant). Byddwch yn rhan o grŵp bach a bydd y daith gerdded yn canolbwyntio ar ddull arolwg UKBMS a gwella sgiliau maes – efallai y byddwch yn teimlo y gallech ddod yn gerddwr trawslun eich hun wedyn!


Sut i gyrraedd –

Cyfarfod ar gopa’r Gogarth yng ngardd canolfan ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth (SH765833/LL30 2XF). Gan fod trawslun llawn y Gogarth mor hir, bydd rhan ffurfiol y sesiwn yn gorffen wrth hen dolldy Penmorfa (SH768822/LL30 2QZ). Argymhellir eich bod yn dal bws rhif 26 o arhosfan bysiau y Palladium i gopa'r Gogarth ar gyfer dechrau'r sesiwn (gwiriwch yr amserlen). Os yn dod mewn car, byddai’n well parcio yn nhref Llandudno – mae digon o leoedd i barcio am ddim ar ochr y stryd ym Mhenmorfa a mae maes parcio taledig mewn lleoliad cyfleus yn York Road.

Rhaid talu i barcio os byddwch yn gadael eich car ym maes parcio copa’r Gogarth (cofiwch fod rhan ffurfiol y sesiwn yn dod i ben wrth hen dolldy Penmorfa).


Polisi cŵn

Dim cŵn.


I’w ddod gyda chi –

Mae esgidiau cerdded yn hanfodol ynghyd â dillad gwrth-ddŵr a gwynt, hetiau haul, eli haul a digon i’w yfed h.y. byddwch yn barod ar gyfer pob tywydd!

Os oes gennych chi rwyd glöynnod byw, mae croeso i chi ddod â hi – mae gennym ni un sbâr. Byddai llyfr adnabod glöynnod byw a sbienddrych bach pŵer isel (7x) yn ddefnyddiol hefyd.


Pellter, tirwedd ac ati –

Mae’r daith tua 1.5 milltir o hyd ac er y byddwn yn aros ar lwybrau da a Marine Drive yn bennaf, mae’n cynnwys rhywfaint o dir garw. Rhaid i bawb ar y daith fod yn hyderus wrth gerdded ar dir o'r fath.


Iaith Gymraeg –

Mae trefnydd y digwyddiad yn siaradwr Cymraeg rhugl - mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg yn ystod y digwyddiad hwn.



Part of the Cryptic Creatures of the Creuddyn events programme, Conwy County Borough Council:

The Great Orme is one of the most famous butterfly locations in Britain. Come join Siôn Dafis (Cryptic Creatures of the Creuddyn project) to walk part of the long established Great Orme UK Butterfly Monitoring Scheme (UKBMS) transect. Weather permitting, we will see a variety of butterflies and day-flying moths.

This event is aimed at naturalists who want to learn more about UKBMS (rather than families with children). You will be part of a small group and the focus of the walk will be on the UKBMS survey method and improving field skills – you might feel you could become a transect walker yourself afterwards!


Getting here –

Meet in the garden of the Great Orme County Park visitor centre, on the Summit (SH765833/LL30 2XF). As the full Great Orme transect is so long, the formal part of the session will finish at the West Shore Tollhouse (SH768822/LL302QZ). It is recommended that you catch the 26 bus from the Palladium bus stop to the Great Orme Summit (check time-table) for the start of the session. If coming by car, it would be best to park in Llandudno town - there is plenty of free street-side parking at West Shore and a conveniently placed paid car park at York Road.

Parking fee if leaving your car in the Summit car-park (please remember that the formal part of the session finishes at the West Shore tollhouse).


Dogs policy –

No dogs allowed.


What to bring –

Walking boots are essential as are wind and waterproof clothing, sun hats, sun cream and plenty to drink i.e. come prepared for all weather!

If you have a butterfly net, feel free to bring it – we do have one spare one. A butterfly identification field guide and a pair of low power (7x) or compact binoculars would also be useful to bring.


How long, distance, terrain etc –

The walk is approximately 1.5 mile long and though following well-used paths and Marine Drive, it includes some rough terrain. Participants must be confident in negotiating such terrain.


Welsh language –

The event organiser is a fluent Welsh speaker, please feel free to use Welsh or English during this event.




Frequently asked questions

Toiledau|Toilets?

Oes, mae toiledau cyhoeddus yng nghanolfan ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth|Yes, there are public toilets at the Great Orme Country Park visitor centre

Organized by