Sesiwn Canolradd -  yn defnyddio Zoom
Multiple dates

Sesiwn Canolradd - yn defnyddio Zoom

By Dangos

Pam nad yw pobl yn cael y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo, pa help y gallen nhw ei gael a sut i’w helpu i’w gael.

Location

Online

Good to know

Highlights

  • Online

About this event

*** This session is held in Welsh**

Ydych chi’n weithiwr cyflogedig neu’n wirfoddolwr yng Nghymru? Ydych chi’n dod i gysylltiad â phobl a allai elwa ar gael eu cyfeirio at gyngor a chymorth lleol ynghylch budd-daliadau a materion ariannol?

Hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddechrau sgyrsiau ac wrth ddeall yn well y mathau o broblemau a all fod gan bobl? Os felly, dyma’r sesiwn i chi.

Dyma sesiwn ar-lein am ddim a fydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ymwybyddiaeth i chi ddangos i bobl o ble y gallant gael y cymorth y gall fod ei angen arnyn nhw ac y mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Mae’n cynnwys gwybodaeth sylfaenol am y system fudd-daliadau a chymorth arall sydd ar gael. Bydd yn dangos i chi sut y gallwch helpu pobl i oresgyn y rhwystrau a all eu hatal rhag manteisio ar eu hawliau. Bydd yn rhoi cysylltiadau ag asiantaethau eraill a all helpu pobl i hawlio a chael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

Cewch becyn gwybodaeth am ddim, sy’n ganllaw cyflym i’r cymorth sydd ar gael yng Nghymru – pwy all gael beth, ac o ble.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y system fudd-daliadau, gallwch hefyd gael mynediad am ddim am 12 mis at nifer o gyrsiau e-ddysgu ar-lein am fudd-daliadau gan Ferret Information Systems.

Mae’r sesiwn hon hefyd ar gael yn y Saesneg ac yn Iaith Arwyddion Prydain, gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd rhagor o ddyddiadau yn cael eu hychwanegu yn nes ymlaen. Efallai y bydd angen aildrefnu dyddiadau i ateb y galw.

Mae Dangos yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Frequently asked questions

Oes angen i mi fod yn rhoi cyngor i bobl fel rhan o fy swydd?

Os ydych chi'n cwrdd ac yn siarad â phobl, boed yn swydd i chi ai peidio, cyn belled ag yr hoffech chi allu helpu pobl i gael yr hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo, yna mae Dangos ar eich cyfer chi.

Oes angen i mi wybod am fudd-daliadau a chymorth arall yn barod

Na, bydd Dangos yn eich helpu i ddysgu mwy am ba help sydd ar gael i bobl yng Nghymru o lawer o ffynonellau. Nid ydym am eich troi'n gynghorydd, dim ond ychydig yn fwy ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ac yn gallu ei rannu ag eraill.

Organised by

Dangos

Followers

--

Events

--

Hosting

--

Free
Multiple dates